Golau ym mhen draw’r twnel – Sara Dafydd

16 oed oni pan ddechreuodd betha’ lithro, ynghanol fy arholiadau. ‘Ti oedd y person ola i mi ddychmygu fasa’n cael iselder’. Dyna oedd pawb yn ei ddweud ar y dechra’. Mi oedd o’n wir mewn ffordd. ro ni wedi cael plentyndod braf, roni’n hyderus, uchelgeisiol ac efo digon o ffrindia’. O’r tu allan, roedd fy mywyd i weld yn berffaith ond mae salwch yn gallu taro unrhywyn unrhywbryd.

Mi aeth petha’ downhill yn gyflym. Crio lot oni i ddechra’. Dwi’n cofio teimlo mor unig hyd yn oed pan oni mewn ‘stafell llawn o bobl. Roedd o’n teimlo fel bod neb yn deall sut oni’n teimlo, neb yn deall y boen. Dwi’n difaru hyd heddiw na wnes i siarad am y peth efo neb am beth amser. Roedd cadw masg ymlaen yn anodd ond doni ddim yn meddwl fod genai hawl i deimlo fel ro’n i. Roedd pawb yn disgwyl i mi fod yn iawn drwy’r amser, dyna pwy on i. I rywun oedd heb brofiad o iselder o’r blaen, roedd fy mywyd yn hunllef. Ro ni wedi stopio mwynhau bob dim a roedd popeth yn ymdrech enfawr. Ychydig oni’n gwybod mai hyn oedd y tawelwch cyn y storm.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Seicosis, diagnosis ac ysbytai – Lauren Buxton

‘Beth ydi dy ddiagnosis?’ yw’r cwestiwn dwi’n ei gael amlaf. Ac mi ydwi o hyd yn troi rownd a dweud mai iselder sydd genai. Ond mae hynny yn bell o’r stori gyfan.

image0.jpegErs rhai blynyddoedd dwi’n dioddef gyda fy iechyd meddwl ac mi ydwi wedi bod mewn ag allan o’r ysbyty. Yr hiraf rwyf wedi bod mewn ysbyty oedd blwyddyn yma, roeddwn i fewn am 8 mis.

Dachi’n gwybod y llais bach ‘na mae pawb yn ei glywed yn dweud bo’ chi’m digon da? Yn beirniadu chi ar bopeth dachi yn ei wneud? Wel dyna oeddwn i’n ei glywed… bob bora dydd a nos, dweud ‘bod neb yn licio fi’ ‘gna ffafr i bawb a diflanna’. Yn y cychwyn roeddwn i’n trio ei bwsio i ffwrdd, ond y mwyaf oni’n gwneud hynny, y gwaethaf oedd o. Nes i wrando ar y llais ‘ma, a meddwl am be oeddant yn dweud, nes yn diwadd mi wnaeth y llais gymryd drosodd fy mywyd. Es i ir pwynt ble oni’n gweld perygl ym mhob dim, roeddwn yn sicr bod y bobl oedd yn trio fy helpu yn trio fy lladd i, a doeddwn i’m yn trystio neb! Roeddwn yn siwr fod pawb yn siarad amdanai tu ol i ‘nghefn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gwella’r meddwl ynghyd â’r corff – Huw Marshall

Pan mae salwch yn eich taro yn annisgwyl, mae ambell beth yn dod i’r amlwg, pethau da chi erioed wedi hyd yn oed ystyried o’r blaen.

Ar yr 28ain o Chwefror o’n i’n hedfan, o’n i’n dathlu fy mhen blwydd yn hanner cant, o’n i newydd sefydlu busnes newydd ag yn gweithio ar cwpwl o brosiectau cyffrous. Mater bach oedd y llawdriniaeth oedd yn fy nisgwyl y diwrnod canlynol. Op hernia digon syml i drwsio rhwyg yn y cyhyrau dan y botwm bogail, fewn am 7:30 yn y bore, adre erbyn 4. Cwpwl o ddyddiau off cyn cynnal sesiwn ar y Gymraeg ar y dydd Mercher canlynol.

Bore Sadwrn yr ail o Fawrth, y diwrnod wedi’r llawdriniaeth, dyma fi’n deffro am 4 y bore yn teimlo’n sâl. Mewn a fi i A&E y bore hwnnw am gyngor, adre erbyn amser cinio efo moddion atal chwydu a tabledi lladd poen cryf.

Erbyn y nos Sul canlynol yn ôl a fi A&E yn teimlo’n waeth. Roedd rhywbeth o’i le….

Parhau i ddarllen

Rhannu

Arolwg Cynllunio Gofal a Thriniaeth : Mind Cymru

Mae Mind Cymru wedi lansio arolwg i bobl sydd wedi treulio amser mewn ysbyty iechyd meddwl yng Nghymru.

Yn ôl Mind Cymru:

“Dylai unrhyw un sy’n treulio amser mewn ysbyty iechyd meddwl yng Nghymru gael cynllun gofal a thriniaeth. Mae hyn yn helpu pob sydd wedi profi argyfwng iechyd meddwl i wella unwaith iddynt adael yr ysbyty. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn digwydd bob amser.

Dyna pham rydyn ni’n casglu profiadau pobl, fel y gallwn ymgyrchu i sicrhau bod unrhyw un â phroblem iechyd meddwl yn cael y cyngor a’r gefnogaeth sydd angen arnynt.

Trwy lenwi’r holiadur hwn, gallwch chi ein helpu i ddeall sut mae cynlluniau gofal a thriniaeth yn cael eu defnyddio a’u gwella. Cymerwch ychydig o funudau i ddweud wrthym am eich profiadau a rhannwch yr arolwg gyda phobl eraill a allent ein helpu ni.”

Arolwg Cynllunio Gofal a Thriniaeth Mind Cymru

Rhannu

Rhyddhau’r Cranc – Holi Malan Wilkinson

Mae Malan Wilkinson wedi rhannu ei phrofiadau yn gyhoeddus ers peth amser, ond wedi ei chyfnod diweddaraf mewn gofal dwys, mae hi yn rhyddhau ei llyfr cyntaf ar y profiadau hyn, Rhyddhau’r Cranc. Bu iddi eisoes gyfrannu pwt o’i hanes at gyfrol Gyrru drwy Storom a olygwyd gan Alaw Griffiths (2015), ond y tro hwn, mae hi’n rhyddhau ei stori i’r byd – heb guddio dim.

Wrth i lansio a chyhoeddi Rhyddhau’r Cranc agosau, fe fuon ni’n holi Malan am ei hysgogiad i ysgrifennu’r llyfr a’r profiad o wneud hynny wedyn. Dyma oedd ganddi i’w ddweud…

 

Malan, pryd oedd y tro cyntaf i ti ddod yn ymwybodol o iechyd meddwl, ac o dy iechyd meddwl dy hun? Yn fras, be ydi dy brofiadau di?

Tua pum mlynedd yn ôl, es i’n ddifrifol wael a sylwi am y tro cyntaf bod gen i gyflwr/au iechyd meddwl. Fe arweiniodd hynny at fy nghyfnod cyntaf mewn uned seiciatryddol. Ro’ ni wastad wedi bod yn bersonoliaeth obsesif, ond fe aeth y cyfan tu hwnt i’m rheolaeth bum mlynedd nôl ac am y tro cyntaf erioed, ro’ ni angen gofal dwys. Mae gen i Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD) ac iselder. Dw i wedi dioddef cyfnodau isel tu hwnt.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mwy yn mynd i’r ysbyty dan y Ddeddf Iechyd Meddwl : BBC Cymru Fyw

dfsdfsdfsdfdsfMae angen rhoi mwy o gymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl cyn iddyn nhw orfod cael eu hanfon i ysbyty meddwl, yn ôl elusen.

Daw hynny wedi i ffigyrau sydd wedi dod i law rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ddangos cynnydd o 16% yn nifer y cleifion sydd yn mynd i’r ysbyty dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yng Nghymru. Yn 2010/11 cafodd 1,719 o bobl eu derbyn i’r ysbyty, ac erbyn 2015/16 roedd y ffigwr wedi codi i 2,001.

Dywedodd elusen Mind Cymru bod y nifer cynyddol oedd yn mynd i’r ysbyty dan y ddeddf “yn rhywbeth eithaf difrifol.”

“Dwi’n meddwl bod angen meddwl yn galed iawn pam bod hyn yn digwydd,” meddai Sara Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru. “Mae’n arwydd nad ydyn nhw’n cael yr help maen nhw angen ddigon cynnar, a hefyd yn arwydd bod gwlâu wedi cau – ond ar yr un pryd dydy’r ddarpariaeth amgen ddim ar gael iddyn nhw.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Ysbyty iechyd meddwl arloesol yn agor ym Mhontardawe : BBC Cymru Fyw

_93807936_mentalhealthCafodd ysbyty iechyd meddwl sydd wedi ei gynllunio gan ddioddefwyr afiechyd meddwl ei agor ym Mhontardawe ddydd Iau.

Mae Canolfan Adferiad Gellinudd wedi’i datblygu gan elusen Hafal ac yn cynnig gwasanaeth sydd ddim yn seiliedig ar elw.

Yn ôl cyfarwyddwr y ganolfan, Alison Guyatt, mae’n adnodd o’r radd flaenaf a’r unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru ac ym Mhrydain.

“Dwi’n hyderus y bydd yn gosod safonau newydd o ran arferion gorau,” meddai.

Rhagor: BBC Cymru Fyw

 

Rhannu

triniaethau

triniaethauMae nifer o driniaethau effeithiol ar gael, ond nid oes un driniaeth sy’n iawn i bawb. Mae’n bwysig eich bod yn trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol i ddod o hyd i driniaeth sy’n gweithio i chi. Isod ceir rhestr o rai o’r triniaethau mwyaf cyffredin. Yma ceir gwybodaeth am wahanol fathau o driniaethau siarad, meddyginiaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, a therapïau eraill.


Triniaethau Siarad

Math o driniaeth yw triniaethau siarad sy’n cynnwys siarad â therapydd am eich meddyliau a’ch teimladau. Diben triniaethau siarad yw eich helpu i ddeall eich teimladau a’ch ymddygiad yn well ac, os ydych yn dymuno, i newid eich ymddygiad neu’r ffordd rydych yn meddwl am bethau.

Mae triniaethau siarad yn gweithio drwy roi cyfle i chi siarad am eich meddyliau, ofnau ac ymddygiad gyda rhywun sydd wedi cael hyfforddiant proffesiynol er mwyn eich helpu i ddeall y pethau hyn yn well, a’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o newid y pethau rydych am eu newid.

Efallai y byddwch yn teimlo’n orbryderus neu’n ofidus ar y dechrau hefyd. Gall hyn fod am eich bod yn gorfod canolbwyntio ar deimladau anodd y byddai’n well gennych eu hanwybyddu. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch sut rydych yn ymateb i’r therapi – ar unrhyw gam.

Mae llawer o fathau gwahanol o driniaethau siarad, sy’n defnyddio arddulliau a dulliau gwahanol i’ch helpu, ond mae gan bob un ohonynt yr un nod: eich helpu i deimlo y gallwch ymdopi’n well â’ch emosiynau a’r pethau sy’n digwydd yn eich bywyd.

Mae rhagor o wybodaeth i gael ynglŷn â thriniaethau siarad ar wefan Mind.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Lleisiau Ysbyty Dimbach : Pethe Cymru (2013)

Ffilm fer o stori fer gan Manon Steffan Ros yn seiliedig ar hanes go iawn un o gleifion hen ysbyty meddwl Dinbych.

Fflur Medi Evans sy’n actio Mary Ellen ac yn lleisio stori Manon. Yn rhan o’r rhaglen deledu ‘Lleisiau Ysbyty Dimbach’ fe dreuliodd Manon amser yn ymchwilio i hen gofnodion meddygol y seilam gan ddewis canolbwyntio ar gofnodion mamau ifanc fel hi ei hun. Fe wnaeth cofnodion meddygol Mary Ellen o Fethesda ddal ei sylw gan ei bod hi fel Manon yn fam i ddau o blant ac yn dod o Ddyffryn Ogwen. Yn sgil diodde’n ofnadwy o iselder ôl-eni y cafodd Mary Ellen fynd i ysbyty Dinbych ym 1905.

Fideo gwreiddiol : Pethe Cymru

Rhannu