Yr actores sy’n rhedeg er mwyn gwella : BBC Cymru Fyw

Ar ôl brwydro gydag anorecsia mae Manon Vaughan Wilkinson, actores 33 oed o Gaernarfon, yn dweud bod rhedeg wedi newid ei byd a’i helpu i wella.

“Allai ddim ond dweud bod yr apwyntiadau doctor wedi bod yn drawmatig ar brydiau, gyda’r diagnosis Anorexia Nervosa yn anodd. Gair nad oedd gen i fath o syniad beth oedd o’n golygu.

Fel un sydd wastad wedi mwynhau rhedeg, ac yn ystod y cyfnodau anoddaf o ‘fendio’ roedd sylwi beth oedd fy nghorff i’n gallu ei wneud yn anhygoel. O’r funud y rhedais i fy milltir gyntaf mi wyddwn byddai’r gallu i redeg yn fy achub i mewn rhyw ffordd.

Y sylweddoliad fod y pen wedi llwyddo i gael y corff i gwblhau rhywbeth arbennig. Y gallu i adael y meddwl yn rhydd. Yr un pen a fyddai blynyddoedd ynghynt wedi nadu unrhyw garedigrwydd o beth yn y byd i fy nghorff i.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Brwydr hyfforddwr i sicrhau dyfodol clwb bocsio iechyd meddwl : BBC

Mae hyfforddwr mewn clwb bocsio sy’n helpu plant sydd â phroblemau iechyd meddwl i fagu hyder wedi dweud y byddai’n “ddinistriol” petai’n rhaid i’r clwb gau.

Dywedodd yr hyfforddwr Mark Field, sy’n helpu pobl ifanc i fagu hyder drwy focsio ers 23 mlynedd, fod y clwb fel ail gartref i’w aelodau.

“Does dim byd arall ar gael ar gyfer y plant hyn. Maen nhw’n dod atom, maen nhw’n teimlo’n ddiogel, maen nhw’n teimlo’n rhan ohoni. Byddaf yn ymladd yn yr holl ffordd, ni fyddaf yn ildio.”

Daw’r brydles ar gyfer Clwb Bocsio Bwcle, ar Ystâd Ddiwydiannol Drury, i ben yn 2021. Mae Mark Field yn poeni na fydd y clwb cryf o 200 o aelodau, sydd ag aelodau mor ifanc â 5 oed, yn gallu goroesi pe na bai Cyngor Sir y Fflint yn ymestyn ei brydles. Mae’r Cyngor wedi cynnig adeilad arall iddynt ond dywed y clwb na all fforddio’r gwaith atgyweirio sylweddol.

Darllen rhagor : BBC


Rhannu

Rhedeg i wella iechyd meddwl…

RhedwyrMae grŵp rhedeg wedi cael ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin i helpu pobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, yn cynnwys iselder, gorbryder a PTSD.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae’r grŵp o unarddeg o redwyr yn cael ei arwain gan hyfforddwyr rhedeg arbenigol o Athletau Cymru, a gweithwyr ym maes iechyd meddwl.

Mae nhw bellach yn paratoi i redeg Hanner Marathon Abertawe ym mis Mehefin.

10 wythnos ers cyfarfod am y tro cyntaf, mae’r grŵp wedi cwblhau rhediad o 10 milltir – y pellter mwyaf cyn y ras.

Darllen rhagor ar BBC Cymru Fyw


Gwybodaeth berthnasol:

Rhannu

Deuparth gwella ei dderbyn… – Sioned

‘ma jyst mynd mas am wâc, hyd yn oed, yn neud byd o les!’

Weda’i ddi fel hyn – ma’i ‘di bod yn gyfnod anodd. Yn gyfnod blydi anodd a heriol.

Ma crafangau iselder wedi gafael yn dynn yndda i ers rhai misoedd bellach o ganlyniad i berthynas yn torri lawr. Ma’r peth yn anodd i’w drafod, ond dwi’n teimlo bod angen siarad mas, a dangos ei bod hi’n oce i deimlo braidd yn rybish weithie.

Dwi’n berson hynod sensitif ac felly, pan ma ‘na rhywbeth gwael yn digwydd, dwi’n ei gweld hi’n anodd iawn ymdopi â’r peth ac felly ma fy iechyd meddwl yn dioddef yn ofnadwy yn sgil hynny hefyd.

Nath fy nghariad cheato arnai. A do, nath e lot o ddolur. Ma’n dal i neud lot o ddolur. Dwi’n aml yn cwestiynnu ‘Pam fi?’, ‘Beth nes i o’i le i haeddu hyn?’, a dw’i ‘di teimlo straen ofnadwy yn dilyn yr hyn sy’ wedi digwydd imi.

Dw’i ‘di teimlo mor ddi-werth, mor isel, ac weithie, dw’i ddim am godi mas o’r gwely yn y bore. Ma rhoi dillad mlan yn y bore a chyrradd darlithoedd yn gyflawniad yn ei hun weithie, ond bob tro dwi’n neud hynny, dwi’n teimlo mor falch o fy hunan achos ma hyd yn oed camau bach fel ‘na yn gamau pwysig i mi.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Anhwylder bwyta – a byw efo nhw

Ers blynyddoedd bellach dwi wedi dioddef o anhwylder bwyta. Mi es i o fod yn ferch ifanc oedd yn mwyhau bywyd (a bwyd!), oedd yn malio dim am fy mhwysau i fod efo obsesiwn mwya’ efo ymarfer corff, colli pwysau a rheoli faint oeddwn i’n fwyta. I fod yn onest, doeddwn i ddim yn bwyta – roeddwn i’n dweud wrth fy rhieni mod i’n bwyta allan a dweud wrth fy ffrindiau mod i wedi bwyta adra cyn dod allan.

Doeddwn i ddim yn fy arddegau ifanc pan gychwynnodd hyn chwaith. Dwi’n meddwl mai’r adeg pan oeddwn i’n 19 ydi’r adeg olaf i mi gofio i mi fod yn “iawn” o gwmpas bwyd – dwi’n cofio bod ar wyliau efo ffrindiau yn Magaluf a doedd y math o fwyd neu faint oeddwn i’n fwyta ddim yn obsesiwn bryd hynny. Mae’n rhaid mai rywben ar ôl hynny y dechreuodd bethau slipio.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Ffyrdd Ymarferol o Ymateb i Iselder Ysbryd

Cyn dechrau, ella ddylwn i nodi rhyw fath o disclaimer nad wyf yn therapydd nac yn seicolegydd proffesiynol, nid oes gennyf chwaith gymhwyster yn y maes hwn. Yr hyn a geir isod ydi ffrwyth fy mhrofiad personol yn unig o fyw gydag iselder a gor-bryder clinigol, ac o ymdrechu i ddelio’n llwyddiannus â hwy. Efallai y dylid nodi hefyd mai cyngor ar gyfer unigolion sy’n gwella o gyfnod o iselder clinigol sydd yma; yr adeg hwnnw pan mae pethau wedi sadio ychydig a’ch bod mewn sefyllfa i ymateb yn ymarferol i bwl ychwanegol o iselder neu ansicrwydd.

Dyma rai o’r gweithgareddau ymarferol rwyf i’n eu defnyddio’n rheolaidd ac yn eu ffeindio’n fuddiol:

Cymryd cawod

Mae cymryd cawod yn ffordd hawdd o gymryd mantais o nodweddion llesol dŵr. Os oes gennych gawod yn eich tŷ yna mae gennych uned hydrotherapi bersonol, heb orfod hyd yn oed mynd allan. Dylid cymryd eich amser o dan y gawod a thrio canolbwyntio’n ofalus ar effaith braf y dŵr ar eich corff. Rhowch gyfle i bob rhan o’r corff gael bod o dan y gawod, gan ddechrau efo’ch pen. Gellid hefyd arbrofi efo’r tymheredd, newid o ddŵr cynnes i ddŵr claear cyn gorffen efo dŵr oer, ond nid oes rhaid gwneud hyn yn syth os ydi o yn rhy anodd. Parhau i ddarllen

Rhannu

ymarfer corff

running-1705716_960_720Mae llawer o resymau pam mae gweithgaredd corfforol yn dda i’ch corff – mae bod â chalon iach a gwella’ch cymalau a’ch esgyrn yn ddau ohonynt, ond a wyddoch chi fod ymarfer corff yn fuddiol i’ch iechyd meddwl a’ch lles hefyd?

Pa effaith y mae gweithgaredd corfforol yn ei gael ar les?

  • Effaith ar ein hwyliau
  • Effaith ar y straen arnom
  • Effaith ar ein hunan-barch
  • Yr effaith ar iselder a gorbryder

Darllen rhagor : ‘Sut i ofalu am eich iechyd meddwl drwy ddefnyddio ymarfer corff’ – Y Sefydliad Iechyd Meddwl(pdf)


Rhannu

Cerdded a Gweithio

Ben WimbushMae’r dyn yma, Ben Wimbush, yn ysbrydoliaeth i mi. Mae o yn anfon negeseuon i mi ar y cyfryngau cymdeithasol i ofyn a ydwyf wedi gwneud fy #20isplenty – ugain munud o ymarfer corff bob dydd. Ar ôl neges ddoe mi es i allan i gerdded llwybr cyhoeddus yng Ngheredigion a sylweddoli fod o’n iawn.

Roedd ugain munud yn ddigon i wneud i mi deimlo’n well. Felly dyma fi yn cyfieithu #20isplenty i #20ynddigon a deud wrth Ben faswn yn ceisio ysgogi fy nghyd Gymry i ddilyn y mantra.

Gyda gwaith a chyfrifoldebau a bwyta a siopa mae’n hawdd anghofio fod ymarfer corff ym mha bynnag ffordd yn gallu fod yn iachus iawn i’r enaid ac i’r meddwl. Dwi ddim yn or-hoff o bethau ffurfiol felly cerdded yw fy newis i o ymarfer corff. Ble bynnag allai mi gerdda’i.

Nid oes gan Ben y dewis yna, felly ar ei beiriant ymarfer corff aiff o bob dydd ac ar ei wefannau mae o yn dangos ac ysgogi pobol eraill ac yn deud “os allai wneud o allwch chi”.

Mae mor hawdd mewn pwl o iselder i wneud dim. Dim dewis ydy iselder ond mae o yn ddewis i frwydro fo neu beidio yn fy mhrofiad i. Mi allwn i gymryd y tabledi a thynnu yn ôl o fywyd, eistedd ar y soffa a gadael i’r meddyliau pyli. Mae ‘na le i hwnna ond hefyd mae ‘na le i gerdded ac i seiclo ac i yoga.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dibyniaeth

Mae dibyniaeth yn aml yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Os oes gennych broblem ddibyniaeth, efallai ei fod wedi dechrau fel ffordd o ymdopi â theimladau nad oeddech yn gallu delio â nhw mewn unrhyw ffordd arall.

 

 

Parhau i ddarllen

Rhannu