Ymarfer Corff

Exercise

Mae’n hysbys bod gweithgaredd corfforol yn dda i’n iechyd corfforol, ond a wyddoch chi fod ymarfer corff yn fuddiol i’n hiechyd meddwl a’n lles hefyd?

Mae gan weithgaredd corfforol botensial mawr i wella ein lles: gall cerdded yn sionc am 10 munud wella ein hegni a’n hwyliau, a gall cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn rheolaidd gynyddu ein hunan-barch a lleihau straen a gorbryder. Mae hefyd yn chwarae rhan yn atal datblygu problemau iechyd meddwl ac o ran gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl.

Gall roi cynnig ar rywbeth newydd fel ymarfer corff beri pryder, a gall rhwystrau megis cost, anafiadau, salwch, diffyg egni neu hyd yn oed y tywydd ein rhwystro rhag cychwyn arni, Ond, gall cefnogaeth ymarferol ac emosiynol gan ffrindiau, teulu ac arbenigwyr helpu.

Gall delwedd y corff hefyd fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Efallai y byddwch yn poeni am sut bydd eich corff yn
edrych i bobl eraill ac yn osgoi gwneud ymarfer corff oherwydd hynny.

Mae gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl gyngor ar sut i fynd ati i ddechrau gwneud ymarfer corff. Nid yw bod yn weithgar yn gorfod golygu gwneud chwaraeon neu fynd i’r gampfa. Mae yna lawer o ffyrdd i fod yn weithgar; ffeindiwch yr un sy’n gweithio i chi a dewch i fwynhau!

(Ffynhonnell: Y Sefydliad Iechyd Meddwl)

Dolenni allanol