Neges Heddwch ac Ewyllys Da Pobl Ifanc Cymru 2018

Ers 1922, mae neges Heddwch ac Ewyllys Da ieuenctid Cymru wedi bod yn cael ei lunio’n flynyddol gyda’r bwriad o’i anfon at blant y byd. Y Parchedig Gwilym Davies a fu’n gyfrifol am y weledigaeth, a theimlodd mai da o beth fyddai i blant y byd gyfarch ei gilydd ar un diwrnod arbennig bob blwyddyn, gan gymryd brawdgarwch dynol, heddwch ac ewyllys da fel testun i’r neges.

Bydd y neges yn newid bron yn flynyddol er mwyn adlewyrchu barn a theimladau pobl ifanc am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ac/neu yn rhyngwladol.  Pobl ifanc sy’n llunio’r neges ac mae’n neges sy’n annog gweithredu, ymuno ac ymateb.

Eleni, mae pobl ifanc Morgannwg Ganol wedi llunio neges i’w rhannu ar 18 Mai 2018, ac mae’n amlwg bod iechyd meddwl yn bwysig iddyn nhw.  Fe ymunwn â nhw, a gydag Urdd Gobaith Cymru i rannu’r neges isod gan eich gwahodd chi i wneud yr un fath: Parhau i ddarllen

Rhannu

Diffygion difrifol gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg : Cymdeithas yr Iaith

urdd manon 3Mae diffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, dyna oedd neges ymgyrchwyr mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (2 Mehefin).

Cafodd gwefan meddwl.org, y wefan iechyd meddwl Gymraeg, ei lansio yn swyddogol yn ystod y digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith. Mae’r wefan yn cynnwys manylion cyswllt elusennau all gynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, blogiau am brofiadau unigolion, fforwm drafod, ac adran newyddion –  i gyd yn Gymraeg.

Ychwanegodd Hedydd Elias, a fu’n siarad am ei phrofiadau yn ystod y digwyddiad:

Dros y ddegawd rwyf wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth iechyd meddwl, dim ond unwaith rwyf wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg a hynny gyda chwnselydd ysgol; dyw hyn ddim yn ddigon da, dylai cymorth craidd fod ar gael yn y Gymraeg i’r rheiny sydd yn ei mofyn. Roedd fy apwyntiad gyntaf, pan roeddwn yn 12eg mlwydd oed, gyda seiciatrydd plant doedd ddim yn medru’r Gymraeg; nid yn unig doedd hyn ddim yn deg i berson bregus, ond doedd ddim yn deg ar blentyn doedd ddim gyda geirfa digon eang i ddeall popeth oedd yn cael ei ddweud. Erbyn heddiw, mae’n well gen i siarad am fy iechyd meddwl yn Saesneg, achos yn Saesneg rwyf wedi derbyn cymorth dros y ddegawd diwethaf. Credaf yn gryf byddai pethau’n wahanol pe byddwn wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg o’r cychwyn.’

Darllen rhagor : Cymdeithas yr Iaith

Rhannu

Lansiad meddwl.org : David Williams

‘Ma’ iaith yn bwysig, ma’ wir yn gallu achub bywydau’

David yn sôn am ba mor anodd yw siarad am broblemau iechyd meddwl, a pha mor bwysig yw gallu gwneud hynny yn eich dewis iaith

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu

Lansiad meddwl.org : Hedydd Elias

‘Pam ydw i wedi gorfod dod yn gyfarwydd gyda derbyn triniaeth a chymorth ar gyfer mater fi ddim hyd yn oed yn deall drwy iaith sy’n anghyfarwydd i fi?’

Hedydd Elias yn rhannu ei phrofiadau, gan esbonio pa mor anodd yw cael triniaeth a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu

Lansiad meddwl.org : Manon Elin

‘Ma’ gwefan meddwl.org yn dystiolaeth i’r gwasanaethau iechyd pa mor bwysig yw gofal Cymraeg, a’r gwahaniaeth mae iaith yn ei gael ar y broses o wella.’

Manon Elin yn sôn am wefan meddwl.org, a pha mor bwysig yw gallu trafod materion iechyd meddwl yn Gymraeg.

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu

Lansiad meddwl.org : Nia Llywelyn

‘Ni gyd yn gwbod pa mor bwysig yw defnyddio’n iaith ein hunain wrth drafod materion sensitif ac agos i’r galon’

Nia Llywelyn yn cyfeirio at ymchwil a wnaed gan Gymdeithas yr Iaith sy’n dangos bod prinder gweithwyr iechyd meddwl sy’n medru’r Gymraeg (mwy: meddwl.org/ymchwil)

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu