Trawma
Trawma yw’r enw sydd weithiau’n cael ei roi ar y profiad o fynd drwy ddigwyddiadau sy’n achosi straen, ofn neu ofid mawr.
Wrth siarad am drawma emosiynol neu seicolegol, gallwn fod yn sôn am:
- sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau sy’n drawmatig i ni
- sut mae ein profiadau’n effeithio arnon ni.
Gallwn brofi digwyddiadau trawmatig mewn unrhyw oed a gallant achosi niwed sy’n para’n hir. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i drawma, felly gallech sylwi ar unrhyw effeithiau yn fuan wedyn, neu’n bell ar ôl y digwyddiad.