Enwogion yn apelio i’r cyfryngau i newid sut y mae hunanladdiad yn cael ei drafod
Mae ffigyrau cyhoeddus megis gwleidyddion, awduron ac actorion yn apelio am newid yn y ffordd y mae pobl yn trafod hunanladdiad.
Mae’r awdur Ian Rankin, maer Llundain Sadiq Khan, y darlledwr Stephen Fry a’r DJ Lauren Laverne ymysg 130 o bobl sydd wedi llofnodi llythyr yn gofyn i’r cyfryngau arwain y ffordd wrth newid sut y mae hunanladdiad yn cael ei bortreadu.
Mae’r llythyr, sydd wedi cael ei gefnogi gan aelodau seneddol a’r sefydliadau iechyd meddwl Samaritans a Mind, yn nodi na ddylid defnyddio’r term “commit suicide” / “cyflawni hunanladdiad”, sy’n awgrymu bod hunanladdiad yn drosedd a bod meddyliau hunanladdol yn bechadurus, er nad yw wedi bod yn drosedd yn y DU ers 1961.
Yn ôl y llythyr, mae’r geiriau hyn yn gallu awgrymu bod hunanladdiad yn weithred hunanol, droseddol neu annuwiol yn hytrach na chanlyniad o boen meddyliol annioddefol, ac mae’n cynnig opsiwn arall, sef “died by suicide” / “marw drwy hunanladdiad”.
Anogir y cyfryngau i osgoi dyfalu achosion hunanladdiad, sydd yn aml yn gymhleth ac yn amlochrog. Mae’r ymgyrchwyr, sydd wedi sefydlu’r wefan ‘Talking Suicide’, hefyd yn pwysleisio’r perygl o ddefnyddio disgrifiadau manwl o hunanladdiad, sy’n gallu cael eu copïo gan eraill. Cafodd y llythyr ei greu gan ymgyrchwyr iechyd meddwl Luciana Berger a Bryony Gordon.
Termau eraill i’w hosgoi…
- ‘Gwallgof’
- ‘Dioddefwr’ / ‘Person sy’n dioddef o…’
- ‘Tabledi hapus’
- ‘Cyflawni hunanladdiad’
- ‘Ymgais lwyddiannus / aflwyddiannus o ladd ei hun’
Termau i’w defnyddio…
- ‘Person sydd â phroblemau iechyd meddwl’
- ‘Person sydd â diagnosis o…’
- ‘Person sydd wedi profi…’
- ‘Meddyginiaeth’
- ‘Wedi ei ladd ei hun’ / ‘Marw drwy hunanladdiad’