PWNC ANGHYFFORDDUS? Gorbryder vs y Ddannodd – Non Parry

Yn dilyn ei blog cyntaf, mae Non Parry yn ôl…

Mae pethe’n well ond dwi’n meddwl bod dal lle inni wella sut, lle a phryd ‘da ni’n siarad am iechyd meddwl.

Yn ddiweddar nes i ddisgrifio cân fel ‘gwrando ar nervous breakdown’. Funny i rai bobol, ansensitif i eraill efallai ond y peth yw do’n i ddim yn trio bod yn funny, nac yn ansensitif. Dyna’r peth cyntaf ddaeth i ‘mhen. Fel yna oedd o’n teimlo i fi. Fel fysa rhywun arall yn deud ‘mae’n swnio fel migrane’ neu’r ddannodd efallai. Yn anffodus i fi dwi wedi cael mwy o breakdowns nac ydw’i o’r ddannodd. Ffaith. Ffaith anghyfforddus i rai falle ond mae’n ok, peidiwch a theimlo’n weird, achos dwi’n ok hefo hynna! Dwi wedi byw gyda gorbryder ers tua 16 o flynyddoedd erbyn hyn. Mae o’n rhywbeth dwi’n ymwybodol ohono ac yn ei reoli bob dydd felly erbyn hyn mae deud ‘mae’n anxiety fi’n chwarae fyny heddiw’ mor naturiol i fi ddeud dros frecwast ac ydi o i rywun arall ddeud ‘mae’n eczema i wedi fflêrio fyny heddiw’. Dwi hefyd yn ystod yr 16 o flynyddoedd yna wedi magu plant, gweithio, siopa ‘Dolig lot o weithie a phopeth arall normal… just fel y miloedd ar filoedd o bobol fel fi sy’n dioddef o orbryder.

Ond ti’n gwybod be fysa wedi ei neud o’n haws? Siarad amdana fo yn fwy normal.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Hedfan Awyren – Manon Steffan Ros

Mae’r darn isod yn ddarn a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel rhan o golofn Manon Steffan Ros ym mis Ebrill 2015 yng nghylchgrawn Golwg. Cyhoeddwyd y darn wedyn yn ei chyfrol ddiweddarach, ‘Golygon’, a ryddhawyd gan y Lolfa ym mis Tachwedd 2017.

RHYBUDD: Mae’r darn hwn yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio a all eich atgoffa o deimladau anodd. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999.

 

Ebrill 2015

Ar 24 Mawrth 2015, credir bod y peilot Andreas Lubitz wedi achosi i’w awyren ddisgyn yn fwriadol ac iddo ddioddef o iselder ysbryd.

Mae Nia wedi bod ar fin ffonio’r meddyg droeon yn ystod y misoedd diwethaf.

Yr adeg honno pan dreuliodd hi ddiwrnod cyfan yn syllu ar wal ei llofft, ei meddwl yn gwbl wag. Yr adeg pan sylweddolodd nad oedd hi’n medru cysgu heb iddi grio. Trothwy hunllefus yr hunanddolurio, a ddigwyddai heb iddi ystyried y peth, bron, wrth iddi olchi’r gyllell fara yn y sinc. ‘Y gyllell fara wedi llithro! Mae o’n iawn… ddim yn brifo…’ Ond nid llithro wnaeth y gyllell fara, dim ond ildio’n wirfoddol i’w llaw wlyb, sebonllyd. Safodd Nia yno am yn hir , yn gwylio’r coch yn lliwio’r swigod gwyn, glân.

Mae angen help arni.

Mae hi wedi deialu’r rhif unwaith neu ddwy, cyn pwyso’r botwm bach i orffen yr alwad cyn iddi ddechrau. Bydd y ddynes yn y dderbynfa yn siŵr o ofyn, yn ôl ei harfer, ‘… pam ydych chi angen gweld y meddyg heddiw?’ Fedr Nia ddim wynebu defnyddio’r hen air trwm yna. Iselder. Byddai’n hawdd ateb y ddynes yn y dderbynfa petai’n dioddef o ‘ffliw’ neu ‘inffecshyn clust’. Dydi iselder ddim yn air i’w ddweud yn uchel.

Rŵan, mae’r gyllell fara wedi dechrau ‘llithro’ yn amlach, a Nia wedi mynd yn drwsgl gyda’r haearn smwddio a’r hob, ac mae’n rhaid iddi wisgo crysau llewys hir am fod ei braich chwith yn greithiau blin. Bob tro, bydd hi’n gaddo iddi hi ei hun mai dyma fydd y tro olaf, ond yna, bydd yr ysfa’n dychwelyd. Eisiau teimlo rhywbeth mae Nia, a hithau wedi mynd i deimlo mor hesb.

Yna, a hithau ar fin ffonio’r meddyg unwaith eto, mae hi’n codi ei ffôn, cyn ei roi yn ôl yn ei grud. Mae hi wedi darllen am y peilot wnaeth achosi’r ddamwain drychinebus, wedi darllen y geiriau people with depression should not fly planes drosodd a throsodd a throsodd. Ond penderfynu peidio cyfaddef wrth unrhyw un am y gwacter sydd ynddi mae Nia, achos os mai dyna sy’n bod arni, iselder, efallai mai’r papurau newydd sy’n iawn. Efallai na ddylai pobol fel hi ofalu am bobol eraill. Achos os nad ydi hi’n iawn i bobol fel hi fod yn beilot awyren, mae’r un peth yn wir am yrru bws, a char ac ynddo hen bobol a phlant. Yr hyn mae’r papurau yn ei ddweud mewn gwirionedd, meddylia Nia, ydi nad ydi pobol sy’n dioddef o iselder yn dryst. Felly mae’n penderfynu peidio ffonio’r meddyg, a pheidio, byth bythoedd, â gofyn am help.

 

Hoffem ddiolch i Manon ac i’r Lolfa am ein caniatau i rannu’r darn uchod ar meddwl.org. Cliciwch yma er mwyn archebu’r cyfrol gyfan.

Rhannu

Sefydliad y Merched am leihau stigma iechyd meddwl

Mae Sefydliad y Merched yn bwriadu mynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl.

Yn ystod eu cyfarfod blynyddol, pleidleisiodd yr aelodau o blaid “cydnabod [y] cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol”, ac mae’r corff wedi ymrwymo i “lobïo llywodraethau am well gymorth ar gyfer iechyd meddwl”.

Dywedodd Lynne Stubbings, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched:

“Mae hyn yn ganlyniad positif iawn. Bydd yr ymgyrch hwn yn gweld aelodau SyM yn lleihau’r stigma ynghylch iechyd meddwl trwy ddysgu am y mater a’i drafod yn agored yng nghymunedau lleol, a cheisio edrych ar atebion cenedlaethol i’r broblem.”

Darllen rhagor : Golwg360

Rhannu

Cadarnhau cyllid ar gyfer Cam 3 : Amser i Newid Cymru

“Bydd ymgyrch Amser i Newid Cymru, bydd yr ymgyrch gwrth-stigma iechyd meddwl cenedlaethol yn gallu parhau i adeiladu ar ei lwyddiant dros y tair blynedd nesaf, diolch i gefnogaeth ariannol newydd gan Lywodraeth Cymru a Comic Relief.

Ers ei sefydlu yn 2012, mae Amser i Newid Cymru wedi gweld agwedd llawer mwy cadarnhaol a llai o stigma a ddangosir tuag at bobl â phroblemau iechyd meddwl, gan gyrraedd cannoedd o filoedd o bobl trwy ei waith. Defnyddir yr arian o £ 960,262 i barhau i gefnogi’r gwaith a wneir gan bobl ym mhob rhan o’r wlad i rannu profiadau eu problemau iechyd meddwl eu hunain a gweithio gyda chyflogwyr, cymunedau a grwpiau i wella ymwybyddiaeth a newid ymddygiad.

Rhagwelir y bydd Cam 3 o Amser i Newid Cymru yn cael ei lansio yn ystod gwanwyn 2018 yn dilyn cyfnod sefydlu a pharhau tan ddiwedd mis Mawrth 2021.”

Darllen rhagor : Amser i Newid Cymru


Rhannu

Elusen yn rhybuddio bod jôcs am OCD yn atal cleifion rhag chwilio am help : BBC

OCDUKLogo2016Mae Elusen wedi rhybuddio bod y modd ysgafn mae cymdeithas yn trin anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) yn rhwystro dioddefwyr rhag chwilio am yr help sydd ei angen arnynt yn fawr.

Mae rhai o’r 36,000 o bobl yng Nghymru gyda’r anhwylder yn dioddef ar ben eu hun oherwydd y stigma, yn ôl OCD-UK.

Yn y cyfamser, mae darlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi galw’r cyfnod aros o 5-7 mis rhwng diagnosis a thriniaeth yn broblem fawr.

Cyflwr genetig ydyw, ac mae dioddefwyr, sy’n ofni gall rhywbeth gwael ddigwydd, yn ailadrodd ymddygiadau er mwyn profi rhyddhad – megis brwsio dannedd neu olchi dwylo.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Diwrnod ‘Amser i Siarad’ i daclo stigma – BBC Cymru Fyw

_93913739_amserisiaradMae ymgyrch genedlaethol sy’n ceisio taclo’r stigma sy’n gallu bodoli wrth drafod iechyd meddwl yn annog pobl Cymru i gael sgwrs am y pwnc ar Ddiwrnod Amser i Siarad, 2 Chwefror 2017.

Yr ymgyrch, Amser am Newid Cymru, yw’r cyntaf i geisio mynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae Diwrnod Amser i Siarad wedi cael ei gynnal yn flynyddol ers 2014, gyda’r nod o dorri rhai o’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl.

Rhagor: BBC Cymru Fyw

 

Rhannu

Lansio Ymgyrch ‘Estyn Llaw’ : Heno

Elusen Amser i Newid Cymru yn lansio ymgyrch ‘Estyn Llaw’ i annog pobl i estyn allan ac i wneud pethau bychain i helpu dioddefwyr.

Mwy: estynllaw.cymru

Rhannu

Ymladd stigma – pedwar AC yn sôn am salwch meddwl : Golwg360

llyr-huws-gruffyddMae pedwar o Aelodau Cynulliad o bob plaid wedi siarad yn agored am eu cyfnodau o salwch meddwl.

Mae eu cyfraniad yn rhan o ymgyrch i gael gwared ar stigma a rhagfarn yn erbyn salwch o’r fath. Mae’r pedwar wedi sgrifennu blogiau ar gyfer gwefan y mudiad iechyd meddwl Amser i Newid Cymru, a hynny cyn dadl yn y Cynulliad heddiw.

Mwy: golwg360.cymru

Rhannu