Pyliau o Banig

Panic Attacks

Mae pwl o banig yn llif o symptomau seicolegol a chorfforol dwys sy’n dechrau’n sydyn.

Maent yn achosi ymdeimlad llethol o ofn, yn ogystal â theimladau corfforol megis cyfog, chwysu a chrynu. Mae’n beth cyffredin teimlo fel na allwch anadlu, eich bod yn tagu, fel petai eich calon yn curo’n rhy gyflym, neu hyd yn oed fel pe baech yn marw neu’n colli rheolaeth.

Efallai eich bod yn deall pa sefyllfaoedd neu leoedd sy’n debygol o ysgogi pwl i chi, neu efallai eich bod yn teimlo bod eich pyliau yn dod yn ddirybudd ac yn digwydd ar hap.

Efallai y byddwch yn cael un pwl o banig a byth yn cael un arall, neu efallai y cewch bwl unwaith y mis neu hyd yn oed sawl gwaith yr wythnos.

Mae’r rhan fwyaf o byliau o banig yn para rhwng 5 ac 20 munud. Gallant ddod yn gyflym iawn, a bydd eich symptomau ar eu gwaethaf o fewn 10 munud fel arfer. Weithiau, gallwch brofi symptomau pwl o banig sy’n para hyd at awr. Os digwydd hyn, y tebyg yw eich bod yn profi un pwl ar ôl y llall, neu orbryder mawr ar ôl y pwl cyntaf o banig.

Symptomau Corfforol

  • Teimlo’n benysgafn
  • Chwysu’n anarferol
  • Poen yn y frest
  • Calon yn curo’n gyflym
  • Teimlo’n gyfoglyd (nauseous)
  • Teimlo’n boeth iawn neu’n oer iawn
  • Teimlo eich bod methu anadlu
  • Teimlo wedi eich datgysylltu o’ch corff neu’ch amgylchiadau, sy’n fathau o anhwylderau datgysylltiol
  • Cryndod neu theimlad llipa yn y breichiau neu goesau
  • Teimlad y byddwch yn colli rheolaeth, yn llewygu, neu’n cael trawiad ar y galon a marw

Meddyliau a theimladau

  • eich bod yn colli rheolaeth
  • eich bod yn mynd i lewygu
  • eich bod yn cael trawiad ar y galon
  • eich bod yn mynd i farw

Sut i reoli pyliau o banig

Arafwch eich anadlu

Ceisiwch anadlu’n araf. Anadlwch drwy eich trwyn ac allan drwy’ch ceg. Peidiwch dal eich anadl. Ceisiwch gymryd anadl wedi’i rheoli yn lle – ble rydych yn ffocysu ar wneud pob anadl yn ddwfn ac yn araf. Gwnewch hyn am tua munud, yna dychwelwch at anadlu arferol.

Ymlaciwch eich corff

Ffocyswch ar ymlacio gwahanol gyhyrau yn eich corff. Dechreuwch o fysedd eich traed a gweithiwch i fyny at eich pen. Meddyliwch am ymlacio pob un yn eu tro.

Trowch eich meddwl at rywbeth arall

Er mwyn helpu â gorbryder a phyliau panig gallwch:

  • gyfrif pethau o’ch amgylch fel cadeiriau, ffenestri neu bensiliau
  • cyfansoddi cerdd yn eich pen
  • meddwl am y geiriau i’ch hoff gân
  • dychmygu hafan lle teimlwch yn sâff a thawel eich meddwl
  • cyfrif yn ôl o 100

Atgoffwch eich hunan o’r rhain:

  • dim ond gorbryder yw hyn – ni all fy niweidio
  • bydd yn mynd heibio
  • rydw i mewn rheolaeth (darllen rhagor)

Pwl o Banig – Sut alla i helpu?

Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn cael pwl o banig – yn enwedig os yw’n digwydd heb rybudd. P’un ai ydynt yn ddieithryn ar y trên neu yn ffrind agos i chi, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

  • Peidio â chynhyrfu
  • Gadael iddynt wybod eich bod chi yno iddyn nhw
  • Eu hannog i eistedd i lawr mewn man tawel tan eu bod yn teimlo’n well
  • Eu cysuro
  • Gofyn sut allwch chi helpu
  • Eu hannog i anadlu’n araf ac yn ddwfn
  • Cynnig rhywbeth sy’n tynnu eu sylw
  • Aros gyda nhw a bod yn amyneddgar (darllen rhagor)

Dolenni allanol

Ffynonellau: Mind a NCMH