PAID A BOD OFN… – Non Parry

Hei! Non Parry dwi. Dwi’n 45, yn briod gyda 3 o blant ac un llys fab ac un llys ferch. Dwi’n aelod o grŵp pop Cymraeg Eden. Dwi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau, felly fel rhywun sydd wedi arfer sgwennu ‘straeon’ os liciwch chi, dwi wedi hen arfer disgrifio cymeriadau a theimladau, meddwl am blot, helpu’r gynulleidfa ddod i ‘nabod prif gymeriadau ayyb. Ond mae sgwennu hwn yn wahanol achos fi yw’r prif gymeriad a’r stori yw’n iechyd meddwl i. Anodd gwybod lle i pitchio ‘dwi’n byw gyda cyfnodau o iselder, panic attacks ac anxiety’ Ond TADAAA! Fi’n ‘colli’r plot’ yw’r plot. Awkward.

I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd gydag Eden googlwch os chi isio… fi di’r un yn y canol sy’n dawnsio a gwenu a chanu caneuon super fun am ‘Parti’s’ a Pethe Bach sy’n neud i fi deimlo’n hapus – a dwi’n feddwl o, mae pethe bach yn neud fi’n hapus. Dwi’n berson rili hapus. A dwi’n CARU canu a dawnsio gyda’r band, mae’n ridiculous o AWESOME! #blessed. ‘Paid a Bod Ofn’ ydy kind of theme tune ni… Ond rŵan dwi am bummio chi gyd allan a datgelu dwi actually ofn LOADS o bethe!

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dianc meddwl fy hun – Hannah Catrina Davies

Ma’ anxiety, depression, panic attacks ag ati ddim yn beth neis i fyw gyda, ond dyw e ddim yn diffinio ti fel person. Yn hytrach, ma’ fe’n dangos faint mor gryf wyt ti fel unigolyn.

Ma’ teimlo fel bo’ ti’n delio gyda popeth ar ben dy hun ddim yn neis, ond y cam nesaf yw i sylwi bod pobl YN becso, ac yn mynd i fod ‘na gyda ti pob cam o’r ffordd. Does dim byd mwy anodd na brwydro yn erbyn meddwl dy hun, pob eiliad o’r dydd… ond aros yn ‘ti’ yw rhan o’r frwydr, peidiwch colli eich hunain.

Y broblem yw, pan ti’n teimlo’n isel iawn, ma’ fe’n anodd iawn i sylwi’r pethau yma, ac mae’n anodd gweld y golau. Dyma fy stori i…

Parhau i ddarllen

Rhannu

Y seren rygbi, Dafydd James, yn cael pyliau o banig : BBC

Dywedodd y cyn-chwaraewr rygbi i Gymru a’r Llewod, Dafydd James, iddo ddechrau dioddef o orbryder a phyliau o banig wedi iddo ymddeol o chwarae rygbi.

Torrodd Dafydd James asgwrn yn ei wddf a arweiniodd at ddiddymu ei gytundeb â’r Scarlets yn 2009, gan ddod â’i yrfa i ben. Dywedodd:

“Collais fy hunaniaeth. Roedd hi’n anodd. Roeddwn i’n teimlo’n unig, wedi fy ngwrthod, ac yn ei chael hi’n anodd. Roeddwn i’n teimlo’n flin a gwnes i ddioddef yn wael – gorbryder, pyliau o banig, ‘beth os…?’. A dwi’n dal i gael hynny.” [cyfieithiad]

Dywedodd Dr Mikel Mellick, uwch ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon gymhwysol ac iechyd meddwl athletwyr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, bod ymddeol fel galar a phrofedigaeth:

“Dyma farwolaeth pwy oedden nhw, mae eu hunaniaeth fel chwaraewr rygbi wedi mynd. Mae eu hunaniaeth gyfan yn gysylltiedig â bod yn chwaraewr rygbi o 13, 14 neu 15 mlwydd oed. Pan fydd hynny’n cael ei gymryd oddi wrthynt, yn enwedig os yw’r ymddeoliad hwnnw wedi ei orfodi arnynt… nid yw’n syndod ein bod yn gweld ymateb seicolegol i golled.” [cyfieithiad]

Darllen rhagor : BBC (Saesneg)


Rhannu

Roedd defnyddio Facebook yn ‘gwaethygu fy ngorbryder a phyliau o banig’ : BBC

Flwyddyn yn ôl, roedd Paul Allen, sy’n gynhyrchydd cyfryngau digidol yng Nghaerdydd, yn edrych ar bostiadau ar Facebook sawl gwaith y dydd, fel y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn y DU.

Ond mae’n dweud bod y fersiwn afreal hyn o fywyd wedi gwaethygu ei orbryder a’i byliau o banig.

Yn hytrach na rhoi’r gorau i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, creodd ffilm yn dangos nad ydy pobl wirioneddol fel maent yn ymddangos ar-lein.

Dywedodd Mind Cymru ei fod yn “hanfodol defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel” gan ei fod yn gallu arwain at hunan-barch isel.

I Paul, sy’n 39 oed, roedd defnyddio Facebook fel bwyta “bwyd parod” gan ei fod yn ei adael yn “teimlo’n rybish” heb iddo wybod pam.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Beth i wneud mewn argyfwng iechyd meddwl

[Daw’r wybodaeth isod o lyfryn ‘Gweithio gyda Thosturi‘ Samariaid Cymru. Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r Samariaid ar 0808 164 0123 (Cymraeg) neu 116 123 (Saesneg) neu’r gwasanaethau brys ar 999.]

Argyfwng iechyd meddwl yw pan fydd ar rywun angen cymorth ar frys.

Pan fydd rhywun yn mynd drwy argyfwng iechyd meddwl, efallai eu bod yn profi:

Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd aros yn ddigyffro os oes rhywun yn cael argyfwng iechyd meddwl ac efallai y byddwch yn ei gael yn frawychus. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio y gall gweithredu’n dosturiol wneud llawer i gynorthwyo rhywun sydd mewn trallod. Byddwch yn hyderus ynghylch eich gallu i’w helpu, a chofiwch nad oes angen i chi fod yn arbenigwr.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Y cydberthynas rhwng salwch meddwl a chorfforol – fy mrwydr â Ménière’s Disease

Dwi’n cofio’r pwl o banig cyntaf i mi ei gael erioed yn iawn. Roeddwn i’n 16 oed ac yn gweithio mewn caffi ar y pryd. Y prif symptom y sylweddolais oedd fy nghalon yn carlamu’n andros o gyflym, ond y peth nesaf oedd yr ymdeimlad erchyll bod y ddaear wedi troi ar ei echel ryw 90 gradd o fewn eiliad o dan fy nhraed. Roedd y ddau beth yn bwydo’i gilydd, a’r panig yn codi ynof wrth i’r penysgafndod barhau. Yn y diwedd bu’n rhaid i mi fynd adref o’r gwaith.

Dwi’n cofio teimlo’n ansefydlog ar fy nhraed am ddyddiau wedi hynny, ac roeddwn yn gweddïo na fyddwn i byth yn gorfod profi rhywbeth tebyg eto. Digwyddodd sawl tro yn y misoedd canlynol, er nad oeddent mor wael â’r tro cynta’, ac yn y pen draw es i at y meddyg. Y cwestiynau cyntaf y gofynnwyd i mi oedd a oeddwn i o dan unrhyw straen, oeddwn i’n bwyta’n normal ayb. O fewn 5 munud, cefais ddiagnosis o orbryder. Teimlais yn hollol ddigalon fod yr holl symptomau corfforol hyn yn golygu bod rhywbeth yn bod yn fy mhen. Roeddwn i’n teimlo braidd yn hurt yn dod oddi yna a dweud y gwir, fel petai mod i wedi dyfeisio’r holl beth. Chefais ddim cynnig o unrhyw gymorth o gwbl, jyst cyfarwyddiadau i ‘beidio â phoeni gymaint’ ac i ‘drio ymlacio’.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dychwelyd i’r gwaith.

Dychwelyd i’r gwaith yn dilyn salwch meddwl

Dwy flynedd yn ôl, yn syth ar ôl i mi raddio o’r brifysgol, dechreuais fy swydd ‘go iawn’ gyntaf. Doedd dim byd o’i le ar yr arwyneb, ac am yr wythnosau cyntaf, roeddwn i’n hapus fy myd yn mynd i’r gwaith ar y daith fer o’m fflat newydd i ganol y ddinas. Dwi wedi byw â phyliau o banig ers wyth mlynedd bellach, ond doedden nhw erioed wedi effeithio ar fy mywyd gwaith tan ychydig o wythnosau ar ôl i mi ddechrau’r swydd honno. Cefais bwl o banig gwael iawn ar y trên ar y ffordd i’r gwaith, ac fe achosodd hyn i mi fod yn hwyr, a minnau’n teimlo mwy a mwy o orbryder y mwyaf hwyr yr oeddwn i. Dwi’n cofio dod oddi ar y trên, o hyd mewn cyflwr bregus, a jyst yn rhewi yn y fan a’r lle, yn ansicr a oeddwn i hyd yn oed yn mynd i allu cyrraedd y swyddfa. Roedd yn gylch cythreulig o banig a phoeni ‘mod i’n mynd i ymddangos yn annibynadwy i’m cyflogwyr newydd. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, dechreuodd y trên fod yn rywbeth oeddwn i’n ofni i raddau, er mai dim ond pedair munud oedd y daith. Roedd ‘na rhywbeth yn fy mhen i’n dweud trên = panig. A doedd dim byd oeddwn i’n rhoi cynnig arni’n gweithio. Ymarferion anadlu, dulliau tynnu sylw fel gwrando ar bodcast neu gerddoriaeth, dulliau daearu. Doedd dim byd hyd yn oed yn crafu’r wyneb. Parhau i ddarllen

Rhannu

Pwl o banig – Sut alla’i helpu?

Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn cael pwl o banig – yn enwedig os yw’n digwydd heb rybudd.

P’un ai ydynt yn ddieithryn ar y trên neu yn ffrind agos i chi, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

Yn gyffredinol, dylech:

  • Beidio â chynhyrfu
  • Gadael iddynt wybod eich bod chi yno iddyn nhw
  • Eu hannog i eistedd i lawr mewn man tawel tan eu bod yn teimlo’n well

Parhau i ddarllen

Rhannu

Pyliau o Banig

Gall rywun gael pwl o banig pan y bydd chwydd yn ymateb arferol y corff i ofn, straen neu gyffro.

Efallai eich bod yn deall pa sefyllfaoedd neu leoedd sy’n debygol o ysgogi pwl i chi, neu efallai eich bod yn teimlo bod eich pyliau yn dod yn ddirybudd ac yn digwydd ar hap.

Efallai y byddwch yn cael un pwl o banig a byth yn cael un arall, neu efallai y cewch bwl unwaith y mis neu hyd yn oed sawl gwaith yr wythnos.

Mae’r rhan fwyaf o byliau o banig yn para rhwng 5 ac 20 munud. Gallant ddod yn gyflym iawn, a bydd eich symptomau ar eu gwaethaf o fewn 10 munud fel arfer. Weithiau, gallwch brofi symptomau pwl o banig sy’n para hyd at awr. Os digwydd hyn, y tebyg yw eich bod yn profi un pwl ar ôl y llall, neu orbryder mawr ar ôl y pwl cyntaf o banig.

Rhai symptomau cyffredin pyliau o banig:

  • Teimlo’n benysgafn
  • Chwysu’n anarferol
  • Profi poen yn y frest
  • Calon yn curo’n gyflym
  • Teimlo eich bod methu anadlu
  • Teimlo wedi eich datgysylltu o’ch corff
  • Cryndod neu theimlad llipa yn y breichiau neu goesau
  • Teimlad y byddwch yn colli rheolaeth, yn llewygu, neu’n cael trawiad ar y galon a marw

Yn ystod pwl o banig, efallai y byddwch yn teimlo ofn mawr:

  • eich bod yn colli rheolaeth
  • eich bod yn mynd i lewygu
  • eich bod yn cael trawiad ar y galon
  • eich bod yn mynd i farw.

Darllen rhagor am byliau o banig : Mind

Parhau i ddarllen

Rhannu

Caiff pyliau o banig effaith fawr arnoch – David Melding AC : BBC

Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, David Melding, wedi siarad am ei brofiadau o byliau o banig ofnadwy, gan ddweud eu bod yn cael “effaith fawr ar eich hyder”.

Dywedodd Mr Melding, a oedd yn cyfrannu i ddadl ar iechyd meddwl yn y Senedd ar 15 Chwefror:

“Pan ‘rydych chi’n dod drwy’r pyliau, a phan rydych chi wedi cael y driniaeth, y gefnogaeth, neu beth bynnag, mae’r teimlad o gyflawniad, lles a’r sefydlogrwydd yn rhywbeth y tu hwnt i’w fesur.

Rwy’n credu bod unrhyw wasanaethau sy’n helpu pobl i gyrraedd y cyflwr gwell hwnnw yn hynod o werthfawr.

Gorbryder ac iselder a phyliau o banig: efallai y byddant yn digwydd gyda salwch mwy difrifol, ond mae pobl nad ydynt yn ddifrifol wael o ran eu hiechyd meddwl dal yn medru profi’r pethau hyn.”

Roedd Mr Melding yn un o bedwar Aelod Cynulliad a rannodd eu profiadau o iechyd meddwl yn 2012.

Darllen rhagor : BBC (Saesneg)


Rhannu