Pwysau cynyddol ar ddelwedd dynion yn ‘frawychus’ : BBC Cymru Fyw

Wrth i fwy o bobl ymarfer corff yn amlach yn ystod y pandemig, mae rhybudd bod y pwysau ar ddynion ifanc i fagu cyhyrau mawr a delwedd arbennig yn arwain at iselder a defnydd o gyffuriau.

Daw’r rhybudd gan arbenigwr ar ddysmorffia’r corff (body dysmorphia), cyflwr meddyliol sy’n achosi i rywun boeni’n ormodol am eu delwedd a’u corff.

Mae mwy o ddynion yn ymdrechu i fod yn fwy cyhyrog meddai’r arbenigwyr, gan arwain at rai achosion o’r hyn sy’n cael ei alw’n bigorexia – obsesiwn gyda bod yn fwy yn gorfforol.

Dywedodd un dyn o’r de sydd wedi bod yn defnyddio steroidau ers 17 o flynyddoedd bod pwysau “brawychus” ar bobl ifanc erbyn hyn.

Darllen rhagor: BBC Cymru Fyw