Bryn Fôn a PTSD : BBC Cymru Fyw

Mae Bryn Fôn yn chwarae rhan Dr Elgan Pritchard, sy’n dioddef gyda chyflwr PTSD, yn yr opera sebon Pobol y Cwm.

Mae PTSD (Anhwylder Straen Wedi Trawma) yn gyflwr sy’n cael ei gysylltu’n aml gyda chyn-filwyr a phobl sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd hynod o beryglus. Ond mae’n gallu effeithio ar bobl o wahanol gefndiroedd.

Bydd Bryn Fôn yn cyflwyno rhaglen ddogfen yn trafod PTSD a fydd yn cael ei darlledu ar S4C am 21.30 nos Fercher, 18 Ebrill.

Darllenwch gyfweliad BBC Cymru Fyw gyda Bryn Fôn yma.


Rhannu

PTSD – Sut alla’i helpu?

25530226_10155868429300011_803410429_nGall fod yn anodd iawn i weld rhywun annwyl i chi yn profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD), neu PTSD cymhleth. Mae’r erthygl hon yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch eu cefnogi tra’ch bod chi hefyd yn edrych ar ôl eich hunan.

Gwrandewch arnynt

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu, gallwch helpu drwy:

  • rhoi amser iddynt siarad pan maen nhw’n barod – mae’n bwysig peidio â rhoi pwysau arnynt
  • caniatáu iddynt fod yn ofidus ynglŷn â beth sydd wedi digwydd
  • peidio â gwneud rhagdybiaethau ynghylch sut maen nhw’n teimlo
  • peidio â diystyru eu profiadau drwy ddweud “gallasai fod yn waeth” neu holi pam na wnaethant ddweud neu wneud rhywbeth yn wahanol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Weinstein a’r perygl o ail-drawmateiddio goroeswyr

FiHefydMae’n siŵr eich bod wedi clywed hanes yr holl honiadau o gam-drin ac aflonyddu rhywiol yn erbyn y cynhyrchydd ffilmiau, Harvey Weinstein erbyn hyn. Mae sawl menyw wedi dod ag achosion o gam-drin ac aflonyddu rhywiol yn nwylo Weinstein i’r amlwg yn ddiweddar, a hynny’n cynnwys honiadau o drais, ymosodiad rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Mewn ymateb i’r honiadau hyn, mae pobl ar draws y cyfryngau cymdeithasol wedi dechrau’r ymgyrch #MeToo, i rannu eu profiadau o’r fath ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch pa mor gyffredin ydyw.

Dwi’n falch bod cymaint o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu straeon mor bersonol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n trafod trais ac aflonyddu rhywiol yn agored, er mor anodd ydyw. Trwy hyn, gall goroeswyr o drais a cham-drin o’r fath deimlo cysur a chefnogaeth o gymuned ar lefel anferth. Efallai byddant yn cael eu hysbrydoli i rannu eu profiad nhw; boed ag un ffrind neu ei adrodd i’r heddlu. Yn amlwg, dyma yw’r gobaith wrth greu’r fath ymgyrch, a dwi’n croesawu hynny. Dylai pob un sydd wedi cael eu cam-drin yn y ffordd hwnnw deimlo eu bod yn gallu rhannu eu stori; mae hyn yn gallu bod yn rhan o’u hadferiad. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud, mae hyn yn wirioneddol amhosibl i rai.

Parhau i ddarllen

Rhannu

PTSD a fi

PTSD a fi(1)Dwi wedi bod yn dioddef ag Anhwylder Straen Wedi Trawma, neu PTSD, am wyth mlynedd bellach. Erbyn hyn, dwi’n deall fy salwch. Dwi’n deall pam fod gen i’r salwch. A dwi hyd yn oed wedi derbyn bod y salwch yn rhan o fy mywyd bellach. Ond nid yw hynny oll yn gwneud y profiad yn un llai brawychus ac unig. Fy mwriad drwy rannu fy stori felly yw herio’r syniad sydd gan bobl am y cyflwr, ac yn bennaf, cynnig gobaith i ddioddefwyr eraill.

Wrth i mi baratoi’r darn hwn, un o’r pethau y bu’n rhaid i mi ystyried oedd p’un ai i rannu’r digwyddiad trawmatig a achosodd fy salwch neu beidio. A fyddai hyn ond yn achosi mwy o straen i mi wrth ei ysgrifennu? A fyddai’r stori’n rhy anodd i bobl ei ddarllen? A oedd manylion y digwyddiad ei hun hyd yn oed yn bwysig i’w cynnwys wrth i mi drafod y cyflwr?

Mae’r hyn a ddigwyddodd i mi’n eithafol, ond yn anffodus nid yw’n anghyffredin. Penderfynais felly y byddai’n rhaid i mi rannu’r digwyddiad er mwyn rhoi darlun cyflawn o’r salwch i chi. Dyma oedd sbardun fy salwch, wedi’r cyfan.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Arddangosfa gelf dioddefwr PTSD yn Abertawe : BBC

_92128611_seamuspic1-2Mae Gwyddel sydd wedi bod yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) wedi agor ei oriel gelf gyntaf – dri mis yn unig ar ôl paentio am y tro cyntaf.

Ers 18 mlynedd mae Seamas Johnston, sydd yn 49 oed, wedi bod yn byw yn Abertawe gyda’i wraig Emma Cownie, sydd yn artist adnabyddus yn lleol.

Dim ond ar ôl diagnosis diweddar o’i gyflwr y cafodd Mr Johnston ei annog i godi’r brws paent.

Mwy: bbc.co.uk/cymrufyw

Rhannu

Cyflwr PTSD: ‘Angen mwy o gymorth yn gynt’ : BBC

tirionMae tad i ddynes ifanc sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma – neu gyflwr PTSD – wedi dweud ei bod hi’n annheg ei bod hi wedi gorfod aros dros ddwy flynedd i gael therapi arbenigol.

Mae Tirion Lewis yn dioddef pyliau o banig ac atgofion brawychus o’r noson pan gafodd ei churo’n anymwybodol gan ei chyn-gariad yn 2009.

Mae hi wedi gweld arbenigwr, ond mae’r holl aros am driniaeth yn achosi rhwystredigaeth mawr i’w theulu. Bu tad Tirion, Dilwyn yn dweud mwy wrth Craig Duggan.

Fideo: BBC Cymru Fyw

Rhannu