Byw efo salwch Mam – Anna Foulkes

Anna

Tristwch.  Euogrwydd.  Ansicrwydd.  Casineb.  Blinder.  Gwylltineb.

‘Dwi ‘di teimlo pob un o’r emosiynau yna dros y bedair blynedd ddiwethaf wrth wylio Mam yn brwydro’n erbyn iselder a seicosis. Ond wrth gwrs, ‘dwi hefyd ‘di teimlo’n hapus ar adegau pan mae Mam yn well, pan fydd yr ‘hen Mam’ yn ymddangos eto. Ond fydda i wastad ofn gadael i fi fy hun deimlo’n rhy hapus, achos yn aml iawn pan mae Mam yn cael wythnos neu fis da, mae wythnos neu fis gwaeth na’r tro dwethaf yn dilyn.

Dyna un peth ‘dwi ‘di ddysgu wrth drio bod yn gefn i Mam ar yr adegau anodd.  Bob tro dwi’n meddwl bod Mam yn nôl efo ni, ei bod hi’n mynd i allu bod yn Nain i’r plantos acw eto, mi ddaw ‘na rywbeth a’i tharo hi nôl eto.  Felly byddwn ni’n mynd nôl i’r dechre ac yn trio eto.  Ac felly mae hi ‘di bod i ni fel teulu ers 2014.  Yn aml iawn, ‘dwi’n teimlo ei bod hi jest mor anodd i’r teulu a ffrindie agos sy’n gwylio rhywun mae nhw’n caru yn dioddef, ag ydi hi i’r person sy’n dioddef.  Mi fues i am hir yn methu deall a methu rili dygymod efo be’ oedd ‘di digwydd i Mam.  Ar y pryd, mi ddoth y salwch o nunlle – roedd Mam yn iawn siŵr, 54 mlwydd oed, wedi priodi ers bron i 30 mlynedd, yn gweithio yn llawn amser, y plant ‘di tyfu fyny a ‘di gadel gartre’, tŷ neis a dwy wyres fach lyfli.

Euog.

Heddiw, wrth edrych nôl, roedd yna ambell arwydd bod y frwydr yma ar ddechrau. A dyna lle mae’r teimlad o euogrwydd yn dod mewn, teimlo y buaswn i wedi gallu neud rhywbeth i stopio’r salwch ‘ma, teimlo y dylwn i fod wedi ‘neud mwy i helpu Mam.

Parhau i ddarllen

Rhannu