Diffyg gwasanaethau iechyd meddwl mewn ysgolion : Golwg360

Mae cannoedd o athrawon ledled gwledydd Prydain yn dweud eu bod nhw’n cael trafferth darparu gwasanaethau iechyd meddwl i’w disgyblion, yn ôl arolwg newydd.

Er bod yr arolwg gan yr elusen i blant, Place2Be, yn dangos bod 85% o ysgolion uwchradd a 56% o ysgolion cynradd yn darparu rhyw fath o wasanaeth gwnsela i blant, dywedodd bron hanner o’r ffigwr hwnnw eu bod nhw’n cael problemau darparu gwasanaethau ehangach.

Mae’r elusen yn dadlau bod gwasanaethau iechyd mewn ysgolion yn “hanfodol.”

“Mae ein tystiolaeth a’n profiad yn dangos bod sefydlu arbenigwyr iechyd meddwl mewn ysgolion, fel rhan o amcanion yr ysgol gyfan, yn cael effaith positif enfawr ar ddisgyblion, teuluoedd a staff,” meddai Catherine Roche, Prif Weithredwr Place2Be.

“Mae arweinwyr ysgolion yn barod o dan bwysau mawr i ddarparu cynnydd academaidd, a dylwn ni ddim disgwyl iddyn nhw ddod yn arbenigwyr ar iechyd meddwl hefyd.”


Rhannu

Astudiaeth newydd yn dangos effaith arwyddocaol profiadau plentyndod ar iechyd meddwl : Golwg360

Llun: Global Observatory for Inclusion

Yn ôl astudiaeth newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, mae’r canran o unigolion sydd wedi cael profiadau plentyndod negyddol ac sydd wedi cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl wedi cynyddu o 23% y 64%.  Yn ogystal, mae’r canran sydd wedi teimlo eisiau lladd eu hunain neu hunan-niweidio wedi cynyddu o 6% i 39%.

Roedd y math o brofiadau yn cynnwys pethau fel cam-drin, esgeulustod a thrais domestig, ac mae’r astudiaeth yn dangos sut y gall profiadau fel hyn effeithio ar eu hiechyd meddwl drwy gydol eu bywydau.

Darllen rhagor : Golwg 360

Gwybodaeth berthnasol: Pobl ifanc – meddwl.org

Rhannu

Pobl ifanc yn lansio ymgyrch iechyd meddwl : sirgar.gov

Llun: Cyngor Sir Gaerfyrddin

Daeth dros 100 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed o ysgolion, colegau a phrosiectau ieuenctid ar draws Sir Gaerfyrddin i’r Gynhadledd Ieuenctid eleni.

‘Diwrnod gwael, dim bywyd gwael’ oedd teitl y gynhadledd, a’i thema oedd Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Cafodd y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Thîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin a’i chynnal ym Mharc y Scarlets.

Yn ystod y digwyddiad, gwrandawodd pobl ifanc ar areithiau gan gymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau ynghylch Iechyd Meddwl â phobl ifanc eraill, pobl sy’n gwneud penderfyniadau a phobl broffesiynol o’r sector iechyd ac addysg. Roedd yr ymgyrch newydd ar gyfer iechyd meddwl, a sefydlwyd gan bobl ifanc Sir Gaerfyrddin, yn cael ei lansio yn y Gynhadledd Ieuenctid flynyddol eleni.


Rhannu

Elusennau’n cael mwy o alwadau am hunanladdiad gan blant : BBC Cymru Fyw

_99286027_5fbb1bc7-3413-4c03-958d-9c19d359bca7Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n cysylltu â llinellau cymorth elusennau ynglŷn â hunanladdiad.

Dywedodd Childline Cymru wrth raglen Newyddion 9 eu bod wedi delio ag 20% yn fwy o alwadau’n ymwneud â hunanladdiad dros y flwyddyn diwethaf. Maen nhw hefyd yn poeni fod natur y galwadau yn fwy difrifol, gyda phlant mor ifanc a 10 oed yn cysylltu â nhw. Dywedodd elusen arall, MEIC, fod nifer y galwadau wedi bron â dyblu o fewn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Lisa Vranch o Childline:

“Yn y dechre o’dd plant yn dod i siarad am deimlo yn isel falle. Lot o broblemau yn digwydd ond falle roedden nhw yn hunan frifo i ymdopi gyda’r teimladau yna. Ond nawr mae plant yn dod yn syth i ddweud bod nhw isie lladd eu hun a dyna lle ni wedi gweld y gwahaniaeth fwyaf.”

Rhannu

Iechyd meddwl plant: ‘Angen gwneud mwy’ : BBC Cymru Fyw

_98860016_8912758a-c165-4063-a5e6-07ff5a08c64dNid yw’r gwahanol asiantaethau sy’n ceisio mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl ymysg plant yng Nghymru “wedi cyffwrdd â wyneb y problemau” yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd Yr Athro Sally Holland, er ei bod hefyd yn derbyn fod peth cynnydd, fod yna “dipyn o ffordd i fynd eto cyn y byddwn yn cyrraedd y nod.”

Daeth ei sylwadau wrth Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y cynulliad dderbyn tystiolaeth ar wasanaethau iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc.

Dywedodd yr Athro Holland bod cynnydd wedi cael ei wneud wrth geisio gwella mynediad i wasanaethau arbenigol i blant, gyda thargedau ar gyfer amseroedd aros “uchelgeisiol” bellach ar waith.

Ond ychwanegodd Yr Athro Holland “nad yw’r holl asiantaethau sy’n gyfrifol am hyn, wedi llwyddo i ddiwygio’r gwaith o atal cyflyrau o’r fath drwy ymyrraeth gynnar.”


Rhannu

Ymgyrch newydd #GallwnaGwnawn : Amser i Newid Cymru

gallwn a gwnawn 3
Amser i Newid Cymru

Mae #GallwnAGwnawn yn ymgyrch iechyd meddwl i bobl ifanc sy’n geisio newid agweddau at iechyd meddwl a chreu mudiad sy’n dod â phawb ynghyd mewn ymdrech i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu.

Fel cenhedlaeth y dyfodol, mae gan bobl ifanc rym i newid agweddau a rhoi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn pobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl.

Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin na’r hyn mae pobl yn eu sylweddoli. Bydd problemau iechyd meddwl yn effeithio ar un ym mhob 10 person ifanc – sef tri pherson mewn dosbarth cyffredin. Mae’r effeithiau mor real â thorri braich, er nad oes sling na phlaster i’w dangos. Mae’r cywilydd a’r cyfrinachedd ynghylch iechyd meddwl nid yn unig yn ei gwneud hi’n anoddach siarad amdano ond gall ein harwain ni i allgau eraill, gwneud rhagdybiaethau a thrin pobl mewn ffyrdd negyddol.

Ar y llaw arall, gall siarad amdano’n agored ddileu’r tabŵ o rywbeth sy’n effeithio arnom ni i gyd.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Sut alla i helpu fy mhlentyn?

23364804_10155753919485011_1626299631_nGall darganfod bod plentyn yn cael trafferth ymdopi fod yn ofidus i rieni. Mae siarad â’ch plentyn mewn ffordd dderbyniol ac agored yn gam pwysig er mwyn goresgyn y sefyllfa.

Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn maent yn ei ddweud

Gofynnwch sut y maent yn teimlo. Os byddwch yn ofalus ac yn ddigynnwrf mae’n iawn i drafod hunan-niweidio neu hunanladdiad.

Ceisiwch fod yn dderbyniol ac yn agored

Hysbyswch eich plentyn eich bod chi yna iddyn nhw, a’ch bod yn eu caru. Sicrhewch eu bod yn gwybod ei bod hi’n iawn i drafod eu gofidiau ac eich bod yn eu cefnogi.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dechrau yn y Brifysgol

dechrau-yn-y-brifysgolGall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad arbennig a chyffrous, ond gall hefyd ddod â’i heriau unigryw.

Mae’n naturiol i deimlo’n nerfus neu wedi eich llethu yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol, a gall gymryd dipyn o amser i ddod i arfer.

Ein prif gyngor ydy: edrychwch ar ôl eich hun.

Yn ystod prysurdeb a newydd-deb bywyd prifysgol mae’n hawdd anghofio edrych ar ôl eich hun, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys cyngor ac adnoddau i’ch helpu wrth i chi ddechrau yn y brifysgol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Chwarter o ferched ifanc 14 mlwydd oed yn ‘arddangos symptomau o iselder’ : BBC

medlYn ôl ymchwilwyr y DU, mae chwarter o ferched a bron i un ym mhob deg bachgen yn arddangos symptomau o iselder mor fuan â 14 mlwydd oed.

Roedd yn ymddangos bod hanu o gefndir tlawd neu o gefndir ethnig gwyn neu gymysg yn cynyddu’r risg.

Yn aml, nid oedd rhieni’n sylwi’r straen yr oedd eu merched yn ei brofi ond roedd ganddynt bryderon am eu meibion nad oedd y bechgyn eu hunain yn eu lleisio.

Dywedodd Dr Praveetha Patalay, y Prif Ymchwilydd o Brifysgol Lerpwl, fod plant yn eu harddegau, ac yn enwedig merched, yn wynebu mwy o anawsterau iechyd meddwl na chenedlaethau blaenorol – er nad oedd yr astudiaeth wedi ymchwilio i hyn.

Creda’r arbenigwyr y gall sawl ffactor gyfrannu, gan gynnwys straen arholiadau a phryderon am ddelwedd corfforol.

Fodd bynnag, gall y cynnydd fod o ganlyniad i well parodrwydd gan gymdeithas i gydnabod problemau iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Diwrnod Canlyniadau ac edrych ar ôl eich iechyd meddwl

canlyniadauDwi’n cofio Diwrnod Canlyniadau blwyddyn ddiwethaf yn glir. Ar ôl blwyddyn heriol gyda fy iechyd meddwl, roedd amser arholiadau wedi bod yn andros o anodd hyd yn oed gyda’r gefnogaeth oedd gennai o fy nghwmpas.

Roeddwn yn ofnus iawn o ddiwrnod canlyniadau. Roedd disgwyliadau andros o uchel ohonai ag ni oeddwn yn sicr fy mod yn gallu cyrraedd y disgwyliadau yna na fy ngraddau disgwyliedig.

Roedd y wythnosau yn arwain at y diwrnod yn ofnadwy heb siawns i ddianc o’r ffaith fod fy nyfodol am gael ei benderfynu ar y diwrnod yna. Roeddwn wedi cynllunio sut i daclo’r diwrnod er mwyn osgoi pyliau o banig a chrio o flaen unrhyw un.

Ar ôl jyst ychydig o oriau o gwsg aeth fy larwm i ffwrdd. Roedd yn amser i edrych ar UCAS. Roeddwn yn teimlo’n sâl gyda’r pryder wrth i mi logio i mewn i edrych. Wrth logio i mewn gwelais fy mod wedi derbyn lle ym Mhrifysgol Caerdydd ond nid yn fy newis cyntaf. Roeddwn yn andros o anhapus ag wnes i fyrstio i mewn i ddagrau. Roedd yn golygu fy mod i ddim wedi cyrraedd fy ngraddau disgwyliedig. Roeddwn wedi gwneud digon i gael lle mewn prifysgol ond ddim digon i gyrraedd y disgwyliadau ohonai…

Darllen yn llawn: Adnabod yr Arwyddion

Rhannu