Bu criw meddwl.org yn holi’r actor a pherfformwr Lisa Jên Brown am ei phrofiadau gyda’i hiechyd meddwl a PMDD.
Pryd ddois di i wybod am y cyflwr PMDD (Premenstrual Dysphoric Disorder) yn gyntaf? Oeddet ti’n gwybod unrhyw beth amdano cyn cael deiagnosis?
Mi oedd na sawl ‘light bulb moment‘, a haenau ar sut ddesh i wybod am y cyflwr. Dwi wasdad wedi diodda’ yn emosiynol cyn y mislif. O’n i’n ifanc iawn yn cychwyn ac felly yr emosiyna’ a’r teimlada cymhleth oedd yn dod cyn gwaedu – wedi gadal fi’n bentwr ers o’n i’n 11 oed. Mae pawb sy’n agos ata’ fi, fy Mam a’n chwaer ayyb yn gwybod o edrych arna’ fi ‘mod i am ‘ddod ‘on’.
Ond dim ond ers tua 6 mis ddesh i wybod am y cyflwr sy’n ‘disorder’ – o’n i wasdad yn meddwl mai PMT drwg oedd gen i, neu hyd yn oed mod i efo Bipolar neu Iselder gwael… wasdad yn chwilio am atebion ‘pam mod i fel hyn?’ ‘Be sy’n digwydd i fi?’. Ac er mod i yn gymaint o hipi, yn addoli’r lleuad, yn nofio mewn afonydd, yn cysylltu â’r tir, yn canu i’r brain… nesh i erioed gysylltu fy nheimlada’ a fy emosiyna efo fy ‘cycle’- sy’n hollol ridiculous! (Ac ia, rheswm arall i deimlo fel methiant pan dwi’n ganol y niwl o’r uffern ac ydy PMDD!!).
Ond dwi’n lwcus i gael Mir! Ffrind gora’ sy’n nabod fi’n well na fi’n hun! Un noson yn y clo mawr mis Mawrth, nath hi ‘screen shotio’ symptomau PMDD i fi a deud ‘Dol! Chdi!’ a dwi’n cofio darllan o yn fy ngwely a mynd…. ‘ia! fi ‘di hon!’. Y noson wedyn nesh i weld eitem ar newyddion 10 o’ gloch y BBC, a sawl dynas yn siarad am eu teimladau ac mi o’n i a fy ngŵr Mart yn digwydd gwylio – dyna pryd nesh i sylweddoli bod symtomau fi’n cyfateb efo rhai y merched ‘ma ar y teli. Diolch byth fod na ferched yn codi ymwybyddiaeth!