Mae angen deddfwriaeth i gefnogi gofalwyr yng Nghymru – Sian Gwenllian AC

Mewn byd delfrydol byddai plentyndod bob person ifanc yn un heb straen a heb bryder.

Nid dyna fyd y rhan fwyaf o ofalwyr ifanc yn anffodus.

Yn ôl y ffigyrau mwyaf diweddar mae tua 11,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru. Mae’n bosib bod mwy na hyn gan fod angen i berson ifanc ddatgan ei hun fel gofalwr ac os yw’r person wedi byw fel gofalwr am flynyddoedd, efallai nad yw’n adnabod ei hun fel gofalwr – gan mai dyna yw eu norm nhw.

Y gwirionedd amdani, oherwydd diffyg data, nid oes modd i ni wybod yn union faint o ofalwyr ifanc sydd angen cymorth a chefnogaeth yng Nghymru.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Trafodaeth iechyd meddwl yn Eisteddfod yr Urdd – clipiau fideo

Cynhaliwyd trafodaeth ar iechyd meddwl, ar y cyd rhwng meddwl.org a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yr aelodau ar y panel drafod oedd Dr Dai Lloyd AC, Gwen Goddard o’r elusen Hyfforddiant Mewn Meddwl, David Williams ar ran meddwl.org a chadeiriwyd y drafodaeth gan Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith. Y prif bynciau a drafodwyd oedd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, a gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.

Caiff clipiau fideo o’r drafodaeth eu hychwanegu i’r dudalen hon dros yr wythnosau nesaf…

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dylai iechyd meddwl plant a phobl ifanc fod yn ‘flaenoriaeth genedlaethol’ : Plaid Cymru

Dylai iechyd meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc fod yn ‘flaenoriaeth genedlaethol’ yn ôl Plaid Cymru.

Wrth ymateb i gyhoeddiad adroddiad y Cynulliad ar gymorth iechyd meddwl emosiynol a meddyliol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, meddai Llyr Gruffydd AC, ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg a dysgu gydol oes ac aelod o’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o adroddiadau sy’n tynnu sylw at y ffaith fod diffyg argaeledd gwasanaethau Iechyd Meddwl plant a phobl ifanc. Tynwyd sylw at llawer o’r canfyddiadau hyn mewn adroddiad blaenorol a gyhoeddwyd yn 2014 gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg diwethaf y Cynulliad.” Parhau i ddarllen

Rhannu