Arolwg gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg i bobl ifanc : Mind Cymru

Mae Mind Cymru eisiau deall profiadau pobl ifanc o’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Mind: 

Rydyn ni eisiau deall profiadau pobl ifanc o’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yng Nghymru trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.Lansiodd Mind Cymru arolwg ar gyfer pobl ifanc, er mwyn clywed eu llais ar y pwnc. Fe fyddan ni’n gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn y prosiect hwn trwy rannu’r arolwg gydag eich aelodau a chyfeillion er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang o bobl ifanc ar draws Gymru.

Ar ddiwedd yr arolwg, rydyn ni’n bwriadu trefnu cyfarfod ‘bwrdd-grwn’ (efallai trwy Zoom dan yr amgylchiadau presennol) i drafod yr atebion gyda rhan-ddeiliad a llunio argymelliadau sut gallwn ni, yng Nghymru, gwella ein gwasanaethau iechyd meddwl iaith Gymraeg ar gyfer plant a’r glasoed.”

 >>Cwblhau’r arolwg<<


Rhannu

Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud iechyd meddwl a lles yn rhan statudol o’r cwricwlwm cenedlaethol

Mae un o bob saith person ifanc yn disgrifio’u hiechyd meddwl fel ‘gwael’ neu ‘gwael iawn’, yn ôl ymchwil newydd gan Mind Cymru.

Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud iechyd meddwl a lles yn rhan statudol o’r cwricwlwm cenedlaethol.

Canfu arolwg Mind hefyd:

  • Bod 80% o bobl ifanc yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod eu hysgol yn meddwl ei bod yn bwysig cael iechyd meddwl a lles da i bawb yng nghymuned yr ysgol, ond mae 56% o bobl ifanc yn dweud nad ydyn nhw’n dysgu am iechyd a lles yn yr ysgol;
  • Dywedodd 48% o’r holl bobl ifanc na fydden nhw’n gwybod i ble i fynd i gael cymorth yn yr ysgol, a dywedodd 56% na fydden nhw’n teimlo’n hyderus i fynd at athrawon neu aelodau eraill o staff yr ysgol pe bai angen help arnynt.

Darllen rhagor : Mind Cymru


Rhannu

Credyd Cynhwysol yn taro pobl â phroblemau iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae’r system Credyd Cynhwysol yn rhy gymhleth ac nid yw’n cynnig cefnogaeth i bobl sydd ddim yn ei ddeall, yn ôl cyfarwyddwr Mind Cymru.

Mae nifer o gwynion wedi bod ynglŷn â’r system newydd, ac yn ôl cyfarwyddwr Mind Cymru, Sara Moseley, mae angen datrys y sefyllfa “ar frys”.

Dywedodd bod angen “ystyried anghenion iechyd meddwl mewn achosion perthnasol”, a “chynnig rhagor o gefnogaeth wyneb-yn-wyneb”.

Ychwanegodd Ms Moseley bod y taliadau’n rhy araf yn cyrraedd y rhai sy’n eu hawlio, a bod hynny’n achosi problemau iddynt:

“Os ydi pobl yn byw o’r llaw i’r genau p’run bynnag, mae gorfod aros er mwyn talu’r rhent, talu am fwyd, talu biliau – mae hynny’n gallu drysu eich bywyd yn llwyr.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Effaith nosweithiau hir y gaeaf ar iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Wrth i’r diwrnod ddechrau ymestyn yn araf bach, mae nifer o bobl yn ei chael hi’n anoddach na’r gweddill i ymdopi gyda nosweithiau hirion.

Mae’r diffyg golau’n effeithio’n aruthrol ar unigolion â’r cyflwr Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD).

Esboniodd Sara Moseley, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gweld newid tywydd a hinsawdd yn cael effaith ar ein hiechyd meddwl ni, ond mae SAD yn rhywbeth mwy dwys ac yn peri i bobl fynd yn wirioneddol isel eu hysbryd ac i gorbryderu.

Mae golau’n benodol yn rhywbeth sy’n gallu effeithio ar y newid hwnnw. Mae golau yn rheoleiddio pryd rydym yn cysgu a deffro ac mae’r newid yn hyd y dydd yn ystod y gaeaf yn amharu ar hynny hefyd.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Cyfeirio 17% yn fwy at dimau argyfwng iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae nifer y bobl sy’n cael eu cyfeirio at dimau argyfwng iechyd meddwl yng Nghymru wedi cynyddu 17% mewn tair blynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe gododd nifer yr achosion a gafodd eu cyfeirio at dimau Triniaeth Datrys Argyfwng yn y Cartref o 16,508 yn 2014/15 i 19,269 yn 2017/18.

Mae’r timau yn cefnogi pobl a fyddai, fel arall, angen mynd i’r ysbyty wedi ymgais i ladd neu anafu eu hunain, ac mae’r timau’n cynnwys gweithwyr iechyd meddwl, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogol.

Yn ôl elusen Mind Cymru, mae angen rhagor o gymorth ar bobl cyn iddyn nhw gael argyfwng iechyd meddwl, ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod “yn parhau i fuddsoddi” mewn gwasanaethau argyfwng a gwasanaethau y tu hwnt i oriau.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth iechyd meddwl

Wrth i argymhellion adolygiad annibynnol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl gael eu cyhoeddi, mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut mae’r Ddeddf yn cael ei chymhwyso yng Nghymru.

Wrth ymateb i gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Dylanwadu Mind Cymru:

“Er bod y Ddeddf Iechyd Meddwl yn berthnasol i Gymru, mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u datganoli ac yn gweithredu o dan fframwaith gwahanol. Mae rhai o argymhellion yr adolygiad eisoes yn rhwymedigaethau statudol yng Nghymru o dan y Mesur Iechyd Meddwl.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth, polisi ac ymarfer iechyd meddwl yng Nghymru. Byddem yn dymuno gweld yr adolygiad hwn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn ystyried effeithiolrwydd y Mesur Iechyd Meddwl, argymhellion yr Adolygiad o’r Ddeddf Iechyd Meddwl a sut mae’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn rhyngweithio mewn cyd-destun Cymreig.”  [cyfieithiad]

Testun gwreiddiol : Mind


Rhannu

Cyhoeddi adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru

Cyhoeddwyd ‘Busnes Pawb – Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru’ gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 5 Rhagfyr.

Prif neges yr adroddiad yw bod atal pobl ifanc rhag cymryd eu bywydau eu hunain yn fusnes i bawb ac ni all siarad â rhywun sy’n ystyried hunan-laddiad fyth wneud pethau’n waeth.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion sy’n canolbwyntio ar well cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol, gofal dilynol gwell i’r rheini sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty a chyflwyno fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Y neges allweddol rydym wedi’i chlywed yw bod hunanladdiad yn fusnes i bawb; dyna’r neges y mae angen i bawb ohonom ei chofio a’i rhannu. Gall effeithio ar unrhyw un ac nid oes cymuned yng Nghymru lle nad yw hunanladdiad wedi effeithio ar ei phobl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

£1,000,000 i Mind Cymru a’r Groes Goch Brydeinig : Y Cymro

Dyfarnwyd £1,351,066 i Mind Cymru a’r Groes Goch Brydeinig er mwyn cyflawni prosiectau iechyd meddwl ar draws Cymru.

Bydd y Groes Goch Brydeinig yn cynnal cynlluniau peilot ar gyfer oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl isel i gymedrol ac sy’n defnyddio gwasanaethau meddyg teulu neu ambiwlans yn rheolaidd yn Sir Benfro a Chaerffili.

Fe fydd Mind Cymru yn gweithio gydag oedolion sydd wrth eu hunain, yn unig ac mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl gwael yn ardaloedd Taf Elai, De Powys a Gogledd Sir Ddinbych.

Darllen rhagor : Y Cymro

Rhannu

Mind Cymru: angen mwy o amser i drafod iechyd meddwl gyda’r meddyg teulu

Mae angen i gleifion iechyd meddwl gael rhagor o amser gyda’u meddyg, yn ôl Mind Cymru.

Canfu arolwg o 550 o gleifion gan Mind Cymru a’r elusen ymchwil annibynnol, Picker, nad yw apwyntiad 10 munud gyda meddyg teulu yn ddigon.

Canfu’r arolwg hefyd fod:

  • 25% yn teimlo nad oedd ganddynt ddigon o amser i siarad am bopeth yr oeddent eisiau yn ystod eu hapwyntiad
  • Y mwyafrif llethol o apwyntiadau meddygon teulu yn cael eu gwneud dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
  • Byddai’n well gan 52% o’r holl ymatebwyr wneud apwyntiad ar-lein
  • Wrth geisio gwneud apwyntiad, gofynnwyd i 44% roi rheswm pam fod angen iddynt weld rhywun
  • O’r rheiny, nid oedd 75% yn gyfforddus yn dweud ei fod ar gyfer eu hiechyd meddwl
  • 14% yn poeni am yr hyn y byddai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei feddwl
  • Pobl ifanc a’r rheiny sy’n dioddef problemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus a dderbyniodd y profiadau gwaethaf o ran gofal
  • Llai na 50% yn teimlo y gallent drafod eu hiechyd corfforol yr un pryd â’u hiechyd meddwl

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw a Mind Cymru


Rhannu

Arolwg Cynllunio Gofal a Thriniaeth : Mind Cymru

Mae Mind Cymru wedi lansio arolwg i bobl sydd wedi treulio amser mewn ysbyty iechyd meddwl yng Nghymru.

Yn ôl Mind Cymru:

“Dylai unrhyw un sy’n treulio amser mewn ysbyty iechyd meddwl yng Nghymru gael cynllun gofal a thriniaeth. Mae hyn yn helpu pob sydd wedi profi argyfwng iechyd meddwl i wella unwaith iddynt adael yr ysbyty. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn digwydd bob amser.

Dyna pham rydyn ni’n casglu profiadau pobl, fel y gallwn ymgyrchu i sicrhau bod unrhyw un â phroblem iechyd meddwl yn cael y cyngor a’r gefnogaeth sydd angen arnynt.

Trwy lenwi’r holiadur hwn, gallwch chi ein helpu i ddeall sut mae cynlluniau gofal a thriniaeth yn cael eu defnyddio a’u gwella. Cymerwch ychydig o funudau i ddweud wrthym am eich profiadau a rhannwch yr arolwg gyda phobl eraill a allent ein helpu ni.”

Arolwg Cynllunio Gofal a Thriniaeth Mind Cymru

Rhannu