Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Cyfrol sydd yn ymdrin â phrofiadau pobl a’u perthynas ag alcohol yw Un yn Ormod. Ceir cyfraniadau gan 13 unigolyn, gydag un bennod wedi’i hysgrifennu gan olygydd y gyfrol, sef Angharad Griffiths. Yn debyg i gyfrolau blaenorol Y Lolfa megis Galar a Fi, Codi Llais, Gyrru Trwy Storom a Byw yn Fy Nghroen, mae dyfyniad ysbrydoledig a pherthnasol rhwng pob pennod ynglŷn â dibyniaeth gan unigolion adnabyddus megis Mathew Perry, Brené Brown, a’r diweddar Robin Williams.
Rhannu