Storm

Mi gychwynodd y diwrnod yn dda – y trydydd diwrnod da ar y tro (ar ôl pump diwrnod drwg, tywyll ag isel).

Mi ges i fore neis efo’n ffrind a’i hogia (a’r ci sy’n gwmni bach da iawn i mi ar adegau) drwy gael panad, sgwrsio a chwarae chydig cyn mynd ymlaen i dreulio’r pnawn ym mharti penblwydd fy nith. Eto, pnawn bach neis o hwyl a chwarae.

Roeddwn i’n dal i deimlo’n iawn ac yn edrych mlaen am y chwarae a’r brechdanau ŵy (y peth gorau am barti plant!). Ond, ar ôl riw hanner awr roeddwn i’n dechrau teimlo fy hun yn pellhau o’r sefyllfa – ddim yn gorfforol ond yn feddyliol. Doedd gen i ddim awydd sgwrsio a chymdeithasu a roeddwn i’n teimlo’n flin efo fi’n hun am hynny. Roeddwn i’n gorfod gwneud ymdrech i gyfrannu, a dylwn i ddim fod yn gorfod gwneud ymdrech mewn sefyllfa mor hwyliog, ysgafn a chariadus, ond fel’na roeddwn i’n teimlo.

Aeth y p’nawn yn ei flaen yn ddi-lol ac roedd digon o chwerthin, chwarae a chanu penblwydd hapus. Ar ôl chwythu’r canwyllau a thorri’r gacen, penderfynais mod i am fynd. Parhau i ddarllen

Rhannu

Be ydi iselder ym meddwl eraill?

Dwi’n meddwl bod lot o bobl sydd ddim yn deall beth ydi iselder ac heb gael profiad ohono yn meddwl bod pobl sy’n dioddef gydag o yn gwneud dim ond crio. Yn eistedd ar y llawr mewn ystafell dywyll yn siglo nôl ac ymlaen am oriau. Oce, gall hyn fod yn wir am rhai pobl ac am rhai gyfnodau o iselder falle, ond dim drwy’r amser.

Gallai person fod yn cael diwrnod hunllefus o fod yn crio, heb fod am gawod a ddim isio gwneud dim. Ond yn dal i fedru ateb neges text, medru gwisgo dillad lliwgar, mynd allan am dro neu hyd yn oed gwneud jôc ysgafn a chwerthin. Gall bobl roi gwyneb neu act ymlaen a pharhau i ymddangos o’r tu allan fel rhywun sydd ddim yn dioddef o salwch meddwl. Mae hyn yn sgil gan nifer o bobl sy’n dioddef o wahanol achosion o salwch meddwl. Er y cynnydd diweddar mewn cyhoeddusrwydd am salwch meddwl, mae rhai pobl yn parhau i gysylltu’r peth gydag ysbytai a phobl yn ymddwyn mewn ffordd “gwahanol” yn y stryd – dydyn nhw wirioneddol ddim yn deall sut beth ydi o.

Mae ‘na gymaint o bobl yn parhau i wneud jôc a defnyddio geiriau sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yn rhy ysgafn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Plismyn yn dioddef o bryder ac iselder : Golwg360

Mae corff sy’n cynrychioli plismyn yn dweud bod wyth bob deg ohonyn nhw yn dangos arwyddion o bryder neu iselder.

Mae heddluoedd yng Nghymru ymhlith y rhai sydd wedi bod yn canslo dyddiau gorffwys gan olygu fod arnyn nhw filoedd o ddyddiau o amser bant i’w swyddogion.

Pwysau gwaith, argyfyngau a diffyg adnoddau lles sy’n gyfrifol am y problemau yn ôl Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, Calum Macleod.

Mae’r ffigwr am iselder a phryder yn un i godi dychryn, meddai Calum Macleod, gan roi’r bai yn rhannol ar ddiffyg cyfle i blismyn orffwys.

Darllen rhagor : Golwg360


Rhannu

Ar goll

Dwi’m cweit yn siwr be sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd.

Dwi’n temlo’n blanc ac yn ddi-deimlad. Dwi’n teimlo dim byd. Dwi ddim isio gwneud dim a dwi ddim isio gweld neb. Ond mae’n deimlad gwahanol i be dwi wedi bod yn ei deimlo. Dio ddim y teimlad o fod yn styc mewn twll tywyll a methu dianc allan. Dio ddim mod i’n crio ar y llawr am oriau a methu stopio. Dio ddim mod i’n gorfforol methu mynd allan i’r siop. Does gen i jysd ddim yr egni na’r nerth i ‘neud yr un o’r pethau hynny. Ac i fod yn onest, dwi ddim isio eu gwneud nhw chwaith. Dwi digon bodlon i fod yn y tŷ trwy’r dydd yn gwneud dim.

Dydi o ddim yn deimlad eithafol lle dwi’n teimlo na fedra’i gario mlaen ddim mwy – dwi wedi cael hynny a dio ddim yn le braf i fod ynddo. Mae’r teimlad yma’n wahanol. Dwi’n gwybod hefyd ei fod yn fwy o deimlad na dim ond “sgenai ddim awydd” – mae pawb yn cael rheiny o dro i dro. Mae’n fwy na hynny. Pan mae dyddiau o’r fath yn taro rhywun mae pobl fel arfer yn medru ei luchio i’r ochr a mynd ymlaen efo’u bywyd dydd i ddydd. Dwi methu gwneud hynny. Dwi’n teimlo’n drwm.

Mae’r ochr yma o’r iselder yn newydd i mi a dwi ddim yn gwybod sut i ddelio ag o. Parhau i ddarllen

Rhannu

Ail Gyfle : Dechrau Canu Dechrau Canmol

Ar Dechrau Canu Dechrau Canmol yr wythnos hon (15 Ebrill) ar S4C, bydd sgwrs onest a theimladwy gyda Malan Wilkinson am iselder, ac ymwelir â chanolfan Tŷ Penrhyn ym Mangor, sy’n rhoi cefnogaeth i bobl sy’n goresgyn problemau cam-drin alcohol a chyffuriau.

S4C ~ Nos Sul ~ 15 Ebrill ~ 7.30pm

[Fideo gwreiddiol : Dechrau Canu Dechrau Canmol]


Rhannu

Dr. Llinos – Iselder : Heno S4C

Dr. Llinos sy’n trafod iselder a phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig ym myd y campau a sut mae adnabod y symptomau.

[Fideo gwreiddiol : Heno]


Rhannu

Aled Sion Davies – Iselder : Heno S4C

Mae mwy a mwy o sêr chwaraeon yn dechrau siarad am iechyd meddwl. Dyma sgwrs estynedig gyda’r athletwr Aled Sion Davies sy’n siarad am ei brofiad o iselder ar Heno.

[Fideo gwreiddiol : Heno]


Rhannu

Cyfweliad â Nigel Owens – Iechyd Meddwl

Nigel Owens

Mae Nigel Owens yn ddyfarnwr rygbi rhyngwladol. Bu criw Gwefan Meddwl yn trafod iechyd meddwl gydag ef yn ddiweddar.

Pryd oedd y tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o’ch iechyd meddwl eich hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol?

I fod yn onest, doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono pan oeddwn i’n iau, ond wrth edrych nôl wrth i mi fynd yn hŷn, dechreuais i ystyried beth oedd e. Ar y pryd, nes i ddim feddwl amdano fel salwch meddwl.

Fe ddechreuodd e pan oeddwn i tua 19/20 oed. Roeddwn i’n delio â fy rhywioldeb am y tro cyntaf. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd e, nac unrhyw beth am iechyd meddwl tan oeddwn i’n hŷn ac yn fwy ymwybodol.

Mae hyn yn mynd nôl rhyw 25 mlynedd, cyfnod lle nad oedd llawer o bobl yn gwybod beth oedd salwch meddwl fel maen nhw nawr.

Parhau i ddarllen

Rhannu

‘Dw i erioed ‘di neud blog o’r blaen…’ – Lowri Cêt

Blog ydi hwn lle fyddai’n trafod byw efo iselder a pryder (neu depression ac anxiety os ‘da chi’n slightly llai posh fatha fi) wrth delio efo petha bob dydd, gwaith, prifysgol, cariad, teulu a ffrindia.

Blwyddyn dwytha oedd y shitshow fwya hyd yn hyn, a tydi blwyddyn yma ddim yn mynd yn ace chwaith deud gwir. Dolig 2016, o’n i’n teimlo tha crap de. honestly, doeddwn i ddim yn malio dim am neb na ddim byd. es i fyny 3 seis dillad, a dwi DAL yn trio cael nol lawr i lle o’n i ond dw i’n ofn nai ddim achos ma merched ochr teulu dad yn tueddu bod reit big-boned de.

Ath hi ‘mond yn waeth o fana. o’n i’n jibio ar nights out, ddim yn ateb texts, snapchats na fb mails. o’n i’n isolatio fy hyn ond r’un pryd yn panicio bod pobol yn slagio fi off achos hynny. Ma hyn i gyd yn swnio mor ffocin boring, sori. ond doeddwn i wirioneddol ddim yn meddwl bod ddim byd yn bod efo fi adeg yma. o’n i’n jyst meddwl bo fi’n hogan afiach, rude, diog… jyst hen bitch bach rili. a dyna o’n i’n edrych fel hefyd, i pobol doedd ddim yn rili nabod fi. (which ar y pryd oedd lot o bobol achos o’n i’n cloi fy hyn i mewn mentally)

Dw i’n diolch i’r nefoedd am dair ffrind, nath ddeutha fi: “lowri, ti ddim dy hun. ti angen help.”

Darllen rhagor o flog Lowri

Rhannu