Ioga a Fi

Cwpwl o flynyddoedd yn ôl fe ddes i i’r casgliad bod rhaid i rywbeth yn fy mywyd newid a bod rhaid i mi gymryd fy iechyd i mewn i fy nwylo fy hun neu base ni mewn peryg o ddioddef gydag afiechyd gwael.

Os ydych wedi archebu fy llyfr ‘O’r Pridd i’r Plât’, ble rwyf yn rhannu fy stori bersonol sydd yn sôn am fy mherthynas negyddol gyda bwyd a fy nghorff, yna byddwch yn ymwybodol pam yn union roedd yn rhaid i mi newid fy ffordd o fyw a sut es i o gwmpas helpu fy hun i deimlo’n gryfach, yn llai o dan bwysau a cymaint yn fwy cyfforddus yn fy nghroen fy hun.

Er fy mod wedi gweld llawer o’r newidiadau positif yma o ganlyniad i newid fy niet a fy mherthynas gyda bwyd, cafodd ioga hefyd effaith mawr ar fy iechyd meddwl ac fy mherthynas gyda fy nghorff.

Mae ioga wedi fy helpu i fagu’r sgiliau i ddelio gyda pwysau meddyliol ac iselder ac wedi rhoi gymaint o hyder i fi i ddeall fy emosiynau a deall yn union sut i drin nhw. Mae ioga wedi fy helpu i weld bod angen gwynebu a delio gyda’r ffordd i ni’n teimlo yn lle eu hanwybyddu. Mae anadlu yn benodol a chymryd tua 5 – 10 munud pob bore i ffocysu ar yr anadl yn newid fy nhymer ac rhoi cryfder mewnol a sicrwydd i mi sydd mor bwysig gan bod ni’n byw mewn oes lle mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu rhoi gymaint o bwysau a straen arnom ni i fod yn ‘berffaith’.

Diolch i ioga, rwyf nawr yn berson mor wahanol i bwy oedden ni ac yn gymaint yn fwy amyneddgar, tawel, hyderus ac hapus!

Rwy’n deall bod bywydau pobl yn brysur iawn ond rwyf yn trial annog pobl i weld bod treulio cynlleiad a thri munud y diwrnod yn anadlu yn cael gymaint o effaith ar ein hiechyd meddyliol a corfforol. Mae ymroi llai na pum munud y dydd yn medru gwenud cymaint o wahaniaeth, nid yn unig i’ch helpu i deimlo’n fwy egnïol a phresennol, ond i weld newidiau anhygoel yn chi’ch hun a’r ffordd rydych chi’n teimlo.

Rwy’n trial byw yn y foment a bod yn bresennol gymaint a gallai ac mae anadlu ac ymarfer ioga yn fy helpu i lwyddo gyda hynny. Mae hyn yn golygu fy mod i’n poeni llai am beth sydd wedi digwydd neu beth sydd yn mynd i ddigwydd ac yn canolbwytio fy sylw ar y foment hon – sef yr unig beth sydd yn wir ac sydd yn bwysig!

Ar ôl ymarfer techneg anadlu mi fyddaf hefyd yn ymarfer diolchgarwch. Rwyf yn gwneud hyn drwy restru mewn dyddiadur tri peth rwy’n ddiolchgar amdano! Mae’n ymarfer sy’n rhoi popeth i mewn i bersbectif ac yn fy helpu i deimlo’n hapusach ac ysgafnach. Mae’n amhosib teimlo o dan bwysau a diolchgar ar yr un pryd, felly mae canolbwyntio a bod yn ddiolchgar am y pethau sydd gen i yn barod a’r pethau rwyf wedi’i gyflawni, yn lle poeni am beth sydd ddim gen i a beth rwyf heb ei gyflawni, yn rhoi’r cyfle i mi weld pethau’n wahanol a deall bod popeth yn iawn yn y foment yma.

Rwyf yn rhannu llawer mwy o wybodaeth am hyn ar fy ngwefan ble mae hefyd gen i stiwdio ioga ar-lein sydd yn cynnwys llawer o ddosbarthiadau ooga ac anadlu yn yr iaith Gymraeg a Saesneg i bobl ddilyn o’u cartref eu hunain. Ewch i’r linc yma i ffeindio mwy o wybodaeth;

I archebu copi o fy llyfr ‘O’r Pridd i’r Plat’ ble rwy’n rhannu dros 60 rysáit bwyd hynod iachus i’r corff yn ogystal a nifer o engrheifftiau o ddefodau, gwybodaeth a chyngor’ ar sut i fyw bywyd iach a ryseitiau ar gyfer cynnyrch ymolchi diwenwyn, dilynwch y linc yma.