Ysgol Dyffryn Conwy yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl : North Wales Pioneer

Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst yw’r ysgol gyntaf i gyflwyno’r rhaglen Blues Programme drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Caiff Blues Programme ei gyllido gan y Post Brenhinol ac mae’n rhan o’r ymgyrch Build Sound Minds gan yr elusen Action for Children – ymgyrch sy’n annog sgyrsiau positif ac iechyd meddwl da.

Mae’r rhaglen arloesol chwe wythnos wedi ei seilio ar ddulliau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), ac mae’n helpu pobl ifanc i ddeall y cysylltiad rhwng meddyliau negyddol, gweithredoedd a theimladau.

Dywedodd Angharad Roberts, sy’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy:

“Roeddwn i’n profi hwyliau isel yn eithaf aml, ond ar ôl gwneud rhai sesiynau sylwais bod fy hwyliau’n gwella. Mae defnyddio technegau i ymdrin â meddyliau negyddol wedi helpu, a byddwn yn ei argymell i bobl eraill sy’n dioddef o hwyliau isel.

Mae hefyd yn bwysig fy mod wedi medru gwneud hyn yn Gymraeg. Nid yw rhai pobl yn teimlo’n hyderus yn siarad Saesneg ac yn fwy cyfforddus yn siarad am eu teimladau yn Gymraeg, ac mae’n dda i’r ysgol mai ni yw’r ysgol gyntaf i wneud hyn.” [cyfieithiad]

Darllen rhagor : North Wales Pioneer (Saesneg)


Rhannu

Iechyd meddwl a’r Gymraeg – mae’n amser deffro (Gwerddon Fach)

Cloriau dau lyfr - Gyrru Drwy Storom a Rhyddhau Cranc
Dau lyfr diweddar a fu’n trafod iechyd meddwl yn Gymraeg

Sophie Ann Hughes, ymchwilydd ac ymgyrchydd ym maes iechyd meddwl, sy’n disgrifio gwaith ymchwil sy’n profi’r angen am driniaeth therapi siarad drwy famiaith. 

“Mae’n hysbys fod nifer o siaradwyr Cymraeg yn fwy cyfforddus a chartrefol yn siarad Cymraeg na Saesneg a bu ymdrechion lu ers blynyddoedd gan wahanol fudiadau i bwysleisio arwyddocâd hynny ym maes iechyd Cymru. Ond, plant ifanc a phobl hŷn wedi colli gafael ar eu hail iaith yw’r unig siaradwyr uniaith Gymraeg sydd ar ôl bellach felly nid rhyfedd fod oedolion wedi’u hanwybyddu – bron yn llwyr – ym myd polisi tan yn ddiweddar.”

Mae’r erthygl ar Gwerddon Fach yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ac yn amlygu goblygiadau pellgyrrhaeddol a pheryglus o beidio a derbyn gwasanaeth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl yn llawn.

Rhannu

Cynllun iselder ar gyfer pobl ifanc ar gael yn Gymraeg : BBC Cymru Fyw

Mae cynllun arbennig i roi cymorth i bobl ifanc sy’n dioddef o iselder ar gael am y tro cyntaf drwy’r iaith Gymraeg.

Cafodd ‘Curo’r Felan’ ei lwyfannu gyntaf yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac mae’n cael ei redeg drwy’r elusen Action for Children ers mis Ebrill.

Mae’r elusen eisoes wedi bod yn cynnal cyrsiau Saesneg ar hyd a lled y DU dan y teitl ‘Blues Programme’.

Yn ôl Catrin Price, sy’n gweithio ar y cynllun, y nod yw rhoi cymorth i bobl ifanc i ddelio gyda sefyllfaoedd gwahanol:

“Be ydy o ydy rhaglen i bobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed, rheiny sy’n dangos rhyw fath o iselder, dan straen efo arholiadau, dan straen efo pethau adref a bywyd yn gyffredinol. ‘Da ni’n mynd i mewn i’r ysgolion a ‘da ni’n rhoi’r rhaglen i bobl ifanc i helpu nhw ddygymod efo’r straen i helpu nhw i guro’r felan.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Diffyg adnoddau i helpu pobl ifanc â galar yn y Gymraeg : BBC Cymru Fyw

Mae yna ddiffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael i helpu pobl ifanc ymdopi â galar, yn ôl awdures.

Daw’r sylw gan Ann Atkin wrth i lyfr newydd o’r enw ‘Popeth yn Newid’ gael ei lansio er mwyn helpu plant a phobl ifanc i ddelio â cholled.

Cyfieithiad o ‘Everything’s Changing’ gan yr un awdur yw’r llyfr newydd, adnodd a ddefnyddiwyd gan nifer o wasanaethau sy’n cefnogi pobl ifanc a phlant mewn profedigaeth.

Dywedodd Ms Atkin, sy’n gweithio yn Hosbis Sant Cyndeyrn:

“Drwy fy ngwaith gyda’r hosbis dwi’n deall pa mor bwysig yw hi i blant ddefnyddio eu hiaith gyntaf mewn amser o brofedigaeth. Hyd y gwn i, nifer fach iawn o adnoddau sydd ar gael i blant sydd yn galaru yn yr iaith Gymraeg.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg : Taro’r Post

Dyma Sophie Ann yn sôn am ganfyddiadau ei gwaith ymchwil ar bwysigrwydd y Gymraeg o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ar Taro’r Post (3/9/18).

Cliciwch ar y ddelwedd isod i fynd at y raglen (16:35 i mewn).


Rhannu

Y Samariaid yn hyrwyddo oriau estynedig y llinell Gymraeg yn yr Eisteddfod

Mae’r Samariaid yn hyrwyddo ymestyn oriau agor ei llinell gymorth Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, wrth iddyn nhw gynyddu lefel y cymorth sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg.

O’r blaen roedd llinell gymorth Gymraeg y Samariaid ar agor 28 awr yr wythnos ond yn awr bydd ar agor 49 awr yr wythnos.

Hefyd mae’r Samariaid wedi cyhoeddi eu gwasanaeth gohebiaeth Gymraeg newydd. Gall unrhyw un y mae arno angen cymorth emosiynol yn Gymraeg anfon llythyr Rhadbost.

Bydd gwirfoddolwyr ar stondin 307 yn Eisteddfod 2018 i hyrwyddo Llinell Gymraeg y Samariaid. Byddan nhw hefyd yn dosbarthu gwybodaeth am y cymorth emosiynol mae’r Samariaid yn ei ddarparu ac am wirfoddoli gyda’r elusen.

Darllen rhagor : Samariaid

Parhau i ddarllen

Rhannu

Trafodaeth iechyd meddwl yn Eisteddfod yr Urdd – clipiau fideo

Cynhaliwyd trafodaeth ar iechyd meddwl, ar y cyd rhwng meddwl.org a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yr aelodau ar y panel drafod oedd Dr Dai Lloyd AC, Gwen Goddard o’r elusen Hyfforddiant Mewn Meddwl, David Williams ar ran meddwl.org a chadeiriwyd y drafodaeth gan Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith. Y prif bynciau a drafodwyd oedd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, a gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.

Caiff clipiau fideo o’r drafodaeth eu hychwanegu i’r dudalen hon dros yr wythnosau nesaf…

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gofal iechyd meddwl y gogledd yn ‘annheg’ : BBC Cymru Fyw

Laura Burton – o Gaergybi

Mae cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn y gogledd yn wynebu “rhwystrau diangen” i dderbyn cefnogaeth, yn ôl Mind Cymru.

Dywedodd un claf, Laura Burton o Gaergybi, Ynys Môn, fod y gefnogaeth oedd ar gael yn y de o’i gymharu â’r gogledd yn “annheg“.

Roedd Ms Burton yn diodde’ o iselder er pan yn 16 oed, a dywedodd ei bod wedi cael trafferth cael cymorth meddygol pan waethygodd y cyflwr.

Pan gefais i’r diagnosis, doedd dim ymgynghorydd seiciatryddol ar Ynys Môn. Fe gefais i chwe mis o gael apwyntiadau’n cael eu canslo. Mae pobl yn credu nad yw iechyd meddwl yn broblem yng ngogledd Cymru… mae’n ymddangos nad ydyn nhw’n credu hynny tan i rywun ladd ei hun.

Dywedodd pennaeth polisi Mind Cymru, Simon Jones: “Fe ddaeth arolwg diweddar i’r casgliad bod llai na 10% o siaradwyr Cymraeg yn cael cynnig therapi yn eu mamiaith. Mae hynny’n ychwanegu rhwystr diangen i bobl sy’n ceisio cael y gefnogaeth sydd angen pan mae ei angen o.”

Darllen rhagor: BBC Cymru Fyw

Rhannu

‘Diffyg cymorth iechyd meddwl’ i fyfyrwyr yn y Gymraeg

Dydy gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl myfyrwyr drwy’r Gymraeg ddim yn digwydd yn ddigon cyflym nac yn ddigon eang, yn ôl undebau.

Yn ystod wythnos iechyd meddwl, mae swyddogion o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC), sy’n cynrychioli holl undebau myfyrwyr Cymru, wedi sgwennu at Lywodraeth Cymru’n mynegi pryderon am gyllido, diffyg staff cymwys a diffyg gwasanaethau digidol.

 

Yn y llythyr at yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething mae UCMC yn dweud eu bod yn “croesawu ymrwymiad y llywodraeth i gyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, a bod y Gymraeg yn greiddiol i hynny”.

“Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad yw cynnydd yn y maes hwn yn digwydd yn ddigon cyflym ac yn ddigon eang er mwyn diwallu anghenion y Gymru fodern sydd ohoni,” meddai’r mudiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod darparu gwasanaeth yn y Gymraeg yn “allweddol” i’w gwasanaethau iechyd meddwl.

Darllen rhagor: NUS connect a BBC Cymru Fyw


Rhannu