Llyfrau ar bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl : Darllen yn Well

Fel rhan o’r cynllun llwyddiannus, Darllen yn Well, mae The Reading Agency a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru yn lansio rhestr o lyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru.

Datblygwyd y cynllun gyda chyrff iechyd blaenllaw, ynghyd â phobl sydd â phrofiad o salwch meddwl a’r bobl sy’n gofalu amdanynt.

Mae The Reading Agency yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn cyfieithu llyfrau sydd ar y rhestr i’r Gymraeg; bydd casgliadau o lyfrau a deunyddiau cefnogi ar gael oddi wrth lyfrgelloedd, yn Gymraeg a Saesneg.

Mae ymchwil rhyngwladol a thystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn pwysleisio’r angen i ddarparu gwasanaethau seiciatryddol a therapiwtig yn y Gymraeg. Mae’n anodd i lawer o bobl sy’n siaradwyr Cymraeg cynhenid ddefnyddio Saesneg i drafod eu teimladau a’u hemosiynau, ac nid yw triniaeth drwy gyfrwng y Saesneg o anghenraid yn briodol nac o gymorth iddynt.

Mae’r rhestr o 37 o lyfrau’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion gydag anghenion iechyd meddwl, ac mae’n cynnwys llyfrau yn ymdrin ag ymwybyddiaeth ofalgar, therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), dicter, profedigaeth a cholled, gorbryder, straen, iselder, anhwylderau bwyta a chyflyrau eraill.

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cynnig cefnogaeth i bobl gydag anghenion iechyd meddwl ddefnyddio’r cynllun i argymell deunydd darllen fyddai o gymorth. Gall pobl hefyd gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth i gael cymorth. Bydd y llyfrau ar gael ar y silffoedd agored yn y llyfrgell gyhoeddus leol, er mwyn i unrhyw un allu eu benthyca.

Darllen rhagor : Darllen yn Well (pdf)

Rhestr o lyfrau Cymraeg sy’n ymwneud ag iechyd meddwl : meddwl.org




Lansio pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd.  Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas.



Lansiad ‘Mae gan bawb Iechyd Meddwl’ Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, Ddydd Iau, 30 Mai 2019

Mae tîm o wirfoddolwyr gwefan meddwl.org wedi bod yn gweithio ar addasu’r pecyn i’r Gymraeg, gyda Sophie Ann Hughes yn arwain ar y gwaith. Dywedodd:

“Rydym yn gwybod fod na fwy a mwy o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma mewn bywyd llawn cyfryngau cymdeithasol, ‘photoshop’ a phwysau academaidd ar ben hynny.  Mae’n bosibl hefyd fod rhieni llawer o’r bobl ifanc yma yn dod o genhedlaeth ble na fyddai iechyd meddwl wedi arfer cael ei drafod mor agored, ac felly mae llawer o bwysau ar athrawon i fod o gymorth.”

“Mae’r athrawon hyn mewn sefyllfa anodd, ac angen mwy o arweiniad nac erioed. Felly mi aethom ni ati i gydweithio efo Canolfan Anna Freud i ddatblygu’r pecyn addysgol fyddai’n cynnig yr arweiniad hwnnw.  Rydym ni eisiau gweld sefyllfa ble mae plant a phobl ifanc yn cael yr addysg angenrheidiol fel y gallant edrych ar ôl eu hunain a’u ffrindiau.  A thra fod adnodd o’r fath ar gael i athrawon cyfrwng Saesneg, roeddem yn gweld fod angen gwirioneddol am adnoddau o safon yn y Gymraeg gan fod trafod yn dy famiaith yn gwneud byd o wahaniaeth.”



Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Bydd hefyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan meddwl.org. Ychwanegodd Sophie:

“Er fod y pecyn wedi ei greu fel adnodd i athrawon, mi ellir ei ddefnyddio yn ehangach hefyd gan unrhyw un sydd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd.  Mae gan bawb iechyd meddwl, ac er lles ein pobl ifanc ni’n arbennig mae’n hollbwysig ein bod ni’n siarad a thrafod y peth yn fwy agored.”



Animeiddiad ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ – Pwyswch yma i lawrlwytho’r pecyn





Argyfwng #iechydmeddwl y Gymraeg – Wyn Williams

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Y Cymro ar-lein ar Fai 5ed 2019.


Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2019  yn dechrau wythnos nesaf yn anlwcus i rai – gan gynnwys y triskaidekaphobics yn ein mysg – ar 13eg o Fai. 

Dyna’r fath o agwedd a gymrais i o’n system addysg o ran iechyd meddwl – bod hi’n afiechyd, ac fel pob afiechyd, gwell chwerthin amdano na chymryd o ddifri achos…wel be chi’n mynd i wneud, atal pob afiechyd? Gwell chwerthin ar ben gwely angau…

Wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr rhwng – dwedwch chi – cancr ac iechyd meddwl, yw bod yna llawer yn fwy y gall dioddefwr iechyd meddwl ei wneud o ran ymateb iddo. Dyna un o’r rhesymau mae’r Cymro yn falch iawn i roi llwyfan i’r myfyriwr Joedi Grabham ar ein gwefan ac yn ein papur newydd misol oherwydd ceir yno camau ymarferol i ddefnyddio ymarfer corff i godi eich hwyliau.

Gallen i nodi hefyd nad ydw i yn bersonol yn gefnogwr mawr o’r cysyniad bod yna ddyletswydd bersonol ar bob dioddefwr/aig cancr i gymryd y cyfrifoldeb o aros yn bositif wrth wynebu angau eu hunain – gan fod hynny yn rhoi eitha’ tipyn o gyfrifoldeb ar y claf ac oddi ar ein Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol – ond efallai taw dadl arall yw honno.

Y MWG DRWG?

“That’s all in your imagination” neu’r tebyg oedd yr adborth ges i ar lafar gan ‘adran’ Adnoddau Dynol cwmni eitha’ llewyrchus yn Llundain pan gefais i wythnos o’r gwaith er mwyn ymdopi gyda theimladau cryf o iselder yn dilyn marwolaeth yn ein teulu yn ystod gaeaf 2001. Nid gwefan newydd sbon Y Cymro yw’r man i fynd i fanylion fan hyn, ond y pwynt dw i am godi heddiw ar y Sul yw bod yna gwestiwn go iawn ynglŷn â’n hagwedd at iechyd meddwl sydd yn parhau hyd heddiw (ac felly na fuaswn i yn bersonol yn rhoi gormod o fai ar yr unigolyn hen ffasiwn yna ar ddechrau’r ganrif hon.)

YSTADEGAU DRWG?

Ry ni’n clywed tro ar ôl tro bod 1 ym mhob 4 pedwar ohonom yn dioddef o afiechyd meddwl ar unrhyw bryd… ond dw i’n dechrau amau nid y gwirionedd yn hyn, ond yn hytrach pwrpas yr ymadrodd yna. Yn fy achos i, roedd y doctor es i siarad efo pan oeddwn i ‘dan y meddyg’ (ymadrodd Cymraeg ond anffodus braidd o bosib!) wedi cadarnhau mai od iawn buasai’r dyn na fuasai’n dioddef iselder yn dilyn profedigaeth o’r fath. Felly, yn debyg i’r meddyliwr arall nodedig hwnnw Jim Carrey dwi’n gweld bod angen inni ail-ystyried ein diffiniad o iechyd meddwl, ac wynebu’r her y bydd pawb yn y byd i gyd yn grwn yn wynebu iselder ar ryw adeg. Ie, dyna ni, gwell cyfaddef yn awr y bydd pob un ohonom ni yn teimlo pyliau o iselder yn ystod ein bywydau hir. Ac mae hynny tipyn yn fwy na chwarter poblogaeth Cymru!

AR GOLL

I ddychwelyd i fy thema agoriadol, yn fy marn i mae yna ddyletswydd fawr ar y system addysg i wella ymwybyddiaeth ein plant o’u hunaniaeth feddyliol yn ogystal â chenedlaethol, ac er na ges i’r profiad capel cyflawn pan yn grwt, dw i yn credu bod sicrwydd a ffydd Cristnogaeth (yn arbennig yn yr emynau) wedi cynnig rhywfaint o ysbrydoliaeth imi wrth brifio; ac felly dwi yn poeni braidd y bydd yna dwll yn ein cwricwlwm wrth i’r gymdeithas newid – ac er dw i o blaid trin pob ffydd yn gydradd, mae dal i fod angen ar blant negeseuon positif a dyna pam mae dysgu bouncebackability (dwi’n croesawu unrhyw fathiadau cyfoes!) yn mynd i fod mor bwysig i Gymru a Chymry’r ganrif hon yn ein gwacter crefyddol posib.

I gynnig bach o gyd-destun i chi, dw i wedi rhannu dosbarth efo 3 [ tri ] dyn ifanc sydd wedi dewis dod â’u bywydau i ben am wahanol resymau. Felly yn fy nhyb i, oes mae yna argyfwng iechyd meddwl ymysg dynion yng Nghymru, a gwir i Dduw dw i ddim am fod fy mab i yn mynd i fod yn ystadegyn trist dim namyn fwy nad ydw i am i fy merch i ddioddef unrhyw anhawster yn ystod ei bywyd hi. Cymry, ni mewn picl.

Mae ein plant ar goll y tu ôl i sgriniau electroneg, mae ein systemau addysg ac iechyd ar goll, mae ein dynion a merched ifanc ar goll… felly pa gamau ymarferol gallwn ni eu cymryd er mwyn adfer y sefyllfa?

Llun o www.instagram.com/dailingual

…es i siop lyfrau Waterstones Caerdydd ddoe sydd efo dewis go-lew o lyfrau Cymraeg, gweler y llun i’r chwith, ond dewis gwell fyth o lyfrau ‘self help’ yn yr iaith fain – ble mae rheiny yn y Gymraeg gwedwch?

1. DARLLEN YN Y GYMRAEG!

Bu yna poster ar wal ystafell ddosbarth S4 ym Mhenweddig – a oedd yn rhan bwysig o deyrnas Mrs Jones a roddodd y ‘D’ yn Cofiwch Dryweryn yn ystod y cyfnod hwnnw – yn datgan bod modd i bawb i golli eu hunain mewn llyfr, a phan gewn ni ddewis gwell o lyfrau hunan-help bydd yna gamau ymarferol pellach yno; ond yn y cyfamser, ymgollwch mewn Llyfr Y Flwyddyn neu’r tebyg. Cam un yw hynny, wrth gwrs. Prynwch bach o amser i leddfu eich meddwl gyda llyfr – neu bapur newydd, yn naturiol!

2. YN FEUNYDDIOL

Nes i argymell @innermammal ar fy ffrwd twitter #dieBrexitDai gynne fach gan fod yna esiampl (ac yn llythrennol, y rapiwr example oedd yn gofyn fel mae’n digwydd!) yno o gamau ymarferol hawdd i wella eich iechyd meddwl – ers dechrau’r flwyddyn – ac wedi imi eto fynychu angladd teuluol – nes addo i fy hun buasai Wyn yn ceisio datrysiadau gwahanol i de Gwyrdd a gwin Coch ambell waith eleni er mwy lleddfu’r meddwl dwyieithog yma o leiaf unwaith y diwrnod; ac yn wir yn ddigon tebyg i weddïo, os wnewch chi glirio eich meddwl tair gwaith y diwrnod gyda gobeithion da ac yn y blaen, mae’r cymylau duon a’r ci du ei hun yn pylu rhywfaint dros amser.

Mae’r golofn hon er cof am Sam, Cynfab a Terry. Gweddïwch – neu feddyliwch yn feddylgar – amdanyn nhw a’u teuluoedd heno.

Wyn Williams

[Darllen yr erthygl lawn : Y Cymro]




Iechyd meddwl, y pwysigrwydd o siarad ac adnoddau Cymraeg – Matt Spry

(Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf ym mhapur bro Y Dinesydd, Ebrill 2019)

Mae’n ddrwg gen i nad ysgrifennais i golofn ar gyfer y rhifyn diwethaf. Dw i wedi bod yn sâl iawn – cyfnod arall o iselder eithafol, y gwaethaf ers blynyddoedd.

Ydy hi’n briodol fy mod i’n sôn am hyn yma? Ydy, byddwn i’n dweud. Mae pethau wedi gwella dros y blynyddoedd ond mae dal cryn dipyn o stigma/tabŵ yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, ond yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae tua chwarter y boblogaeth yn profi problemau iechyd meddwl. Hunanladdiad yw’r lladdwr unigol mwyaf o ran dynion ifanc yng Nghymru.

Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n siarad am iechyd meddwl a gwneud yn siŵr ein bod ni’n creu cymdeithas ble mae pobl yn teimlo’n gyfforddus i siarad am bethau felly.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n pwysleisio ei bod hi’n iawn i siarad a’n bod ni’n annog pobl i siarad a rhannu problemau a phrofiadau. Galla i gyfrannu drwy sôn am fy mhrofiad i pan mae’n briodol ac yn berthnasol – gobeithio y gall hyn wneud i rywun arall deimlo fel y gallan nhw siarad.

Mae’n bwysig hefyd ein bod ni’n codi ymwybyddiaeth am gyflyrau ac am adnoddau sydd ar gael i helpu pobl, yn enwedig yn y Gymraeg.

Ni wn i ddigon am ddarpariaeth Gymraeg (neu ddiffyg darpariaeth Gymraeg) yng ngwasanaethau Iechyd Meddwl i sôn amdani yma ac mae’n astudiaeth ddirfawr ynddi hi’i hun! Fodd bynnag galla i adael i chi wybod am rai o’r adnoddau Cymraeg sydd ar gael. Mae gan y sefydliadau hyn bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Mae meddwl.org yn wefan sy’n darparu gwybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, triniaeth, gwybodaeth am ble i gael cymorth, gwybodaeth ar gyfer teulu a ffrindiau rhywun sy’n profi problemau, gwybodaeth am hunanofal, cyfle i ddarllen am brofiadau personol, newyddion, straeon byrion, erthyglau a llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys yn cael ei greu gan bobl sydd wedi wynebu anhwylderau iechyd meddwl eu hunain.

Mae Amser i Newid Cymru’n canolbwyntio ar ymgyrchu ‘i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru.’ Maen nhw’n rhedeg ymgyrchoedd ar wahanol bynciau yn y maes a chynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth. Maen nhw’n gwneud llawer o waith ynglŷn ag iechyd meddwl yn y gweithle. Ceir llawer o wybodaeth ar eu gwefan hefyd am wahanol broblemau iechyd meddwl a chymorth, straeon personol ac adnoddau am ddim ar gyfer unigolion, sefydliadau a phobl ifainc.

Mae gan wefan Mind adran Gymraeg. Ceir llawer o wybodaeth am wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl a chanllaw am sut i ofyn am help ar gyfer problemau iechyd meddwl. Mae’r wefan yn dweud eu bod nhw’n cyfieithu mwy a mwy o wybodaeth i’r Gymraeg.

Diolch yn fawr iawn am ddarllen – mae’n bwnc sy’n bwysig i fi.

Matt Spry





£2m i ofal iechyd meddwl ym mhrifysgolion Cymru : BBC Cymru Fyw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £2m mewn gofal iechyd a lles myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru.

Bwriad y buddsoddiad yw darparu cymorth ariannol i hyfforddi staff ym maes lles ac iechyd meddwl, gan gryfhau’r gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr.

Dywedodd Gethin Morgan, sy’n swyddog gydag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ac UCMC, ei fod yn croesawu’r newyddion ond ychwanegodd “ar ôl dweud hynny mae angen bod yna flaenoriaeth yn cael ei roi i ddarparu gwasanaethau Cymraeg trwy Gymru”.

“Mae angen i’r Gymraeg gael ei wneud yn flaenoriaeth, Rydym yn gwybod o fewn cymunedau Cymraeg fod yna lai o barodrwydd i fynd am gymorth a bod yna deimlad o fwy o stigma, felly mae angen gwasanaethau Cymraeg.

Mae arweinwyr undebau myfyrwyr yn y gorffennol wedi galw am wasanaethau Cymraeg ac mae’n hen bryd fod rhywbeth yn cael ei wneud am y peth.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw





Grant Ras yr Iaith i meddwl.org

Rydym yn hynod o falch i gael rhannu ein bod yn derbyn grant o £500 gan Ras yr Iaith eleni!

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn cydweithio gyda’r Anna Freud National Centre for Children and Families i addasu pecyn cymorth iechyd meddwl i athrawon uwchradd i’r Gymraeg. Gellir cael blas o gynnwys y pecyn drwy gael cip ar y fersiwn Saesneg ar wefan y ganolfan. Mae’r pecyn yn seiliedig ar animeiddiad ac yn llawn adnoddau cynorthwyol megis posteri, cynlluniau gwersi a chyflwyniadau parod, taflenni gweithgareddau a llyfrynnau gwybodaeth defnyddiol i rieni ac i athrawon ynghylch sut y gallent gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Mae’r pecyn wedi ei anelu at ddisgyblion uwchradd cyfnod allweddol 3 (blynyddoedd 7-9).

Cyflawnwyd yr holl waith cyfieithu gan ein gwirfoddolwyr hael, ac mae criw meddwl.org wedi bod wrthi’n cysoni, golygu a phrawf ddarllen y pecyn (hefyd yn wirfoddol). Yn ogystal, rydym wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn cymorth tri o unigolion (dau ohonynt yn bobl ifanc) i recordio a golygu’r troslais Cymraeg ar gyfer yr animeiddiad. Bydd grant Ras yr Iaith yn ein helpu i orffen golygu’r animeiddiad, i argraffu, hyrwyddo ac anfon y pecyn i ysgolion, ac i gynnal digwyddiad i’w lansio.

Diolch i’r grant hwn, bydd pob ysgol Cymraeg a dwyieithog ymhob cymuned yng Nghymru yn derbyn deunyddiau i helpu athrawon i addysgu pobl ifanc am iechyd meddwl, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y pecyn hefyd yn caniatáu pobl ifanc i drafod ac ystyried eu hiechyd meddwl drwy gyfrwng eu mamiaith, yn rhoi arweiniad i’w rhieni ar agor y drafodaeth drwy iaith yr aelwyd, ac yn cyfrannu at yr ymdrechion i gyflwyno’r iaith mewn cyd-destun gwahanol.

Gellid defnyddio’r pecynnau hyn yn ehangach o fewn y gymuned hefyd, gan unigolion sy’n gweithio â phobl ifanc ymhob maes, darparwyr gofal, a chlybiau ieuenctid.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Ras yr Iaith am y cyfle hwn, ac i holl noddwyr y ras am wneud y grantiau’n bosibl!

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr er mwyn clywed y diweddaraf ynghylch pecyn cymorth ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’.

Gallwch hefyd gyfrannu’n ariannol tuag at gostau cynnal a datblygu’r wefan a prosiectau tebyg i hwn drwy PayPal pe baech yn dymuno. Mae cyfraniadau bach a mawr wir yn cael eu gwerthfawrogi!




‘Cymraeg yn y carchar’ – goblygiadau adroddiad ar garcharorion ag anawsterau iechyd meddwl

Delwedd a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol gan Gomisiynydd y Gymraeg

Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, ei hadroddiad diweddaraf – ‘Cymraeg yn y carchar’ – sy’n cyflwyno canlyniadau ei harolwg o hawliau a phrofiadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg.

Yn ei rhagarweiniad i’r adroddiad, noda’r Comisiynydd:

“Mae angen diwallu anghenion iaith carcharorion sy’n siarad Cymraeg er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt gael eu hadsefydlu’n effeithiol. Mae galluogi carcharorion i siarad eu hiaith eu hunain yn dangos parch at eu hunaniaeth, ac yn eu galluogi i’w mynegi eu hunain yn well.”

O ystyried ymchwil a phrofiadau sydd eisoes wedi eu rhannu, mae’r adroddiad yn cyflwyno pryderon sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer y carcharorion hynny sy’n byw ag anawsterau iechyd meddwl. Mae hyn, wrth reswm, yn destun pryder i griw meddwl.org â ninnau’n ymwybodol fod gan garcharorion fwy o anghenion iechyd meddwl na’r boblogaeth yn gyffredinol, a llai o reolaeth dros eu hanghenion gan fod eu bywyd bob dydd, i bob pwrpas, wedi’i reoli gan y carchar.

Rydym eisoes yn ymwybodol fod cleifion iechyd meddwl yng Nghymru yn annhebygol o ofyn am, nac hyd yn oed defnyddio, gwasanaethau Cymraeg a gynigir iddynt rhag cael eu hystyried yn lletchwith a derbyn gwasanaeth israddol.

Nid yw’n syndod felly fod adroddiad y Comisiynydd yn amlygu bod carcharorion hefyd yn dewis peidio â defnyddio’r Gymraeg neu ofyn am wasanaeth yn Gymraeg yn y carchar er mwyn osgoi ‘gwneud bywyd yn anodd’.

Ymhellach, mae’r adroddiad wedi adnabod bod profiadau unigolion sydd wedi eu lleoli yng Nghymru’n well o ran y Gymraeg na phrofiadau’r rheiny sydd wedi eu lleoli mewn carchardai y tu allan i Gymru. Er ein bod yn falch o glywed hynny, ac yn obeithiol fod agoriad HMP y Berwyn yn cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg wrth i fwy ohonynt gael eu lleoli yng Nghymru, mae’n codi pryderon sylweddol am y sefyllfa anfanteisiol y mae merched Cymru ynddi gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru o gwbl.

Fel yr eglura’r Comisiynydd yn ei hadroddiad, mae methiant i ddiwallu anghenion iaith carcharor yn gallu bod yn rhwystr i’r gwaith o adsefydlu’r unigolyn hwnnw’n effeithiol. Rydym yn ystyried bod y broses o adsefydlu’n ymwneud yn gryf ag iechyd meddwl, a chan fod sawl agwedd ymddygiadol a gwybyddol yn aml yn perthyn i waith adsefydlu, mae modd ei gymharu â therapïau newid ymddygiad (a ddefnyddir yn aml ym maes iechyd meddwl). Mae ymchwil blaenorol wedi amlygu y gall methiant i dderbyn gwasanaeth therapi o’r fath trwy famiaith arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol a pheryglus ar gyfer cleifion iechyd meddwl – gan gynnwys anawsterau i fynegi, gorwyliadwraeth annaturiol dros beth maent yn ei ddweud a straen diangen wrth geisio mynegi emosiynau cymhleth mewn sefyllfa fregus llawn pwysau. Gall hyn oll gyfyngu ar fanylder cyfraniadau’r claf gan arwain at anawsterau i gael at wraidd y materion sydd angen sylw. Credwn yn gryf mai’r un fyddai’r anawsterau wrth i garcharor geisio llywio ei ffordd drwy’r broses adsefydlu.

Y cam cyntaf wrth adsefydlu yw cynnal yr hyn a elwir yn asesiad cychwynnol er mwyn adnabod problemau ac anghenion carcharorion er mwyn medru penderfynu ar ddull adsefydlu sy’n addas ar eu cyfer nhw. Yn debyg iawn i’r cam o geisio darganfod diagnosis mewn gofal iechyd meddwl, mae cyfathrebu yn gwbl ganolog i’r broses ac mae’r gallu i wneud hynny’n hyderus ac yn rhwydd yn hanfodol er mwyn sicrhau diagnosis cywir. Mae potensial i rwystrau ieithyddol ar y pwynt hwn arwain at gamddiagnosis a thriniaeth anaddas (ac, yn aml, aflwyddiannus). Yr un yw’r egwyddor mewn ymdrechion adsefydlu. Os nad yw’r carcharor yn gallu cyfathrebu’n gwbl naturiol drwy gyfrwng yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddo, mae risg sylweddol a pheryglus y bydd camddealltwriaeth ynghylch ei anghenion yn arwain at driniaeth anaddas. Effaith hyn yn y pendraw yw perygl i lwyddiant y gwaith adsefydlu, gan osod siaradwyr Cymraeg o dan anfantais o’u cymharu â’u cyfoedion Saesneg eu hiaith. O ystyried mai poblogaeth fregus iawn sydd ymysg ein carcharorion, nid yw gwahaniaethu fel hyn yn dderbyniol o gwbl.

Gobeithio y bydd yr argymhellion yn cael sylw er mwyn cynyddu a sicrhau cydraddoldeb i siaradwyr Cymraeg, gan roi sylw penodol i sefyllfa merched yng Nghymru lle nad oes opsiwn ond eu lleoli mewn carchar dros y ffin.

 


Darllen rhagor:




Ysgol Dyffryn Conwy yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl : North Wales Pioneer

Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst yw’r ysgol gyntaf i gyflwyno’r rhaglen Blues Programme drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Caiff Blues Programme ei gyllido gan y Post Brenhinol ac mae’n rhan o’r ymgyrch Build Sound Minds gan yr elusen Action for Children – ymgyrch sy’n annog sgyrsiau positif ac iechyd meddwl da.

Mae’r rhaglen arloesol chwe wythnos wedi ei seilio ar ddulliau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), ac mae’n helpu pobl ifanc i ddeall y cysylltiad rhwng meddyliau negyddol, gweithredoedd a theimladau.

Dywedodd Angharad Roberts, sy’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy:

“Roeddwn i’n profi hwyliau isel yn eithaf aml, ond ar ôl gwneud rhai sesiynau sylwais bod fy hwyliau’n gwella. Mae defnyddio technegau i ymdrin â meddyliau negyddol wedi helpu, a byddwn yn ei argymell i bobl eraill sy’n dioddef o hwyliau isel.

Mae hefyd yn bwysig fy mod wedi medru gwneud hyn yn Gymraeg. Nid yw rhai pobl yn teimlo’n hyderus yn siarad Saesneg ac yn fwy cyfforddus yn siarad am eu teimladau yn Gymraeg, ac mae’n dda i’r ysgol mai ni yw’r ysgol gyntaf i wneud hyn.” [cyfieithiad]

Darllen rhagor : North Wales Pioneer (Saesneg)





Iechyd meddwl a’r Gymraeg – mae’n amser deffro (Gwerddon Fach)

Cloriau dau lyfr - Gyrru Drwy Storom a Rhyddhau Cranc
Dau lyfr diweddar a fu’n trafod iechyd meddwl yn Gymraeg

Sophie Ann Hughes, ymchwilydd ac ymgyrchydd ym maes iechyd meddwl, sy’n disgrifio gwaith ymchwil sy’n profi’r angen am driniaeth therapi siarad drwy famiaith. 

“Mae’n hysbys fod nifer o siaradwyr Cymraeg yn fwy cyfforddus a chartrefol yn siarad Cymraeg na Saesneg a bu ymdrechion lu ers blynyddoedd gan wahanol fudiadau i bwysleisio arwyddocâd hynny ym maes iechyd Cymru. Ond, plant ifanc a phobl hŷn wedi colli gafael ar eu hail iaith yw’r unig siaradwyr uniaith Gymraeg sydd ar ôl bellach felly nid rhyfedd fod oedolion wedi’u hanwybyddu – bron yn llwyr – ym myd polisi tan yn ddiweddar.”

Mae’r erthygl ar Gwerddon Fach yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ac yn amlygu goblygiadau pellgyrrhaeddol a pheryglus o beidio a derbyn gwasanaeth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl yn llawn.




Cynllun iselder ar gyfer pobl ifanc ar gael yn Gymraeg : BBC Cymru Fyw

Mae cynllun arbennig i roi cymorth i bobl ifanc sy’n dioddef o iselder ar gael am y tro cyntaf drwy’r iaith Gymraeg.

Cafodd ‘Curo’r Felan’ ei lwyfannu gyntaf yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac mae’n cael ei redeg drwy’r elusen Action for Children ers mis Ebrill.

Mae’r elusen eisoes wedi bod yn cynnal cyrsiau Saesneg ar hyd a lled y DU dan y teitl ‘Blues Programme’.

Yn ôl Catrin Price, sy’n gweithio ar y cynllun, y nod yw rhoi cymorth i bobl ifanc i ddelio gyda sefyllfaoedd gwahanol:

“Be ydy o ydy rhaglen i bobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed, rheiny sy’n dangos rhyw fath o iselder, dan straen efo arholiadau, dan straen efo pethau adref a bywyd yn gyffredinol. ‘Da ni’n mynd i mewn i’r ysgolion a ‘da ni’n rhoi’r rhaglen i bobl ifanc i helpu nhw ddygymod efo’r straen i helpu nhw i guro’r felan.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw