Hunan-niweidio

Self-Harm

RHYBUDD: Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio a all eich atgoffa o deimladau anodd. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999.

Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn brifo ei hun gan ei fod yn ei helpu i ddelio â theimladau anodd iawn, atgofion poenus neu sefyllfaoedd a phrofiadau llethol sy’n teimlo y tu hwnt i’w reolaeth.

Yn aml, bydd pobl yn hunan-niweidio gan eu bod yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall.

Mae 400 o bob 100,000 o boblogaeth y Deyrnas Unedig wedi ymddwyn yn hunan-niweidiol, sydd ymysg y cyfraddau uchaf o hunan-niwed yn Ewrop, ac mae cysylltiad cryf rhwng yr ymddygiad yma â phroblemau iechyd meddwl.

Bydd pobl sy’n hunan-niweidio yn gwneud hynny gan amlaf fel ffordd o geisio ymdopi â phoen maent yn ei deimlo.  Gallent hefyd fod yn ceisio dangos bod rhywbeth o’i le, yn benodol os ydynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Mae’n hanfodol i’w cymryd o ddifrif.

Fodd bynnag, mae’n hollbwysig pwysleisio nad ceisio sylw yw’r rheswm dros hunan-niweidio. Mae’n arwydd cryf bod rhywbeth o’i le, rhywbeth yn eich poeni neu yn peri gofid dwys i chi.  Nid yw’n golygu eich bod yn wallgof.  Mae ymddygiad hunan-niweidiol yn aml yn gallu gwreiddio o iselder, diffyg hunanhyder, problemau perthnasau neu gamdriniaeth.

Technegau i ymdopi gyda hunan-niweidio

Gall hunan-niweidio deimlo fel ffordd o ymdopi gyda rhywbeth anodd. Ond mae yna ffyrdd eraill o ymdopi. Pan fyddwch yn profi emosiynau sy’n eich gwneud chi fod eisiau hunan-niweidio, mae’n dda i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ymdopi. Beth i wneud os ydych chi’n teimlo…

Yn unig neu’n ynysig

Beth am: siarad â rhywun, ysgrifennu eich teimladau, mynd a’r ci am dro, lapio eich hunan mewn blanced, cwrdd â ffrind, neu gwneud ymarfer corff.

Yn Ddig

Beth am: bwrw rhywbeth fel clustog, gwneud ymarfer corff, rhedeg, creu peli o bapur a’u taflu, torri brigau, gwasgu clai, bwrw ffrâm drws gyda papur newydd wedi’i blygu, sgrechian, crio, neu gael cawod oer.

Nad ydych yn ddigon da

Beth am: wrando ar gerddoriaeth, cael bath, llosgi arogl, ffonio ffrind, ysgrifennu, peintio, neu restru pethau da am eich hunan. Dewch o hyd i fwy o syniadau ar gyfer magu hunan-barch.

Nad oes gyda chi reolaeth ar bethau

Beth am: drefnu rhywbeth, glanhau neu dacluso, datrys bôs, gosod targed amser (e.e. dweud na fyddwch yn hunan-niweidio am 15 munud, ac os ydych yn llwyddo, anelwch am 15 munud arall).

Yn ddideimlad neu fel sombi

Beth am: ganolbwyntio’n ddwys ar rywbeth fel anadlu, bod o gwmpas pobl sy’n eich gwneud i deimlo’n dda, gwneud crefftau, hel casgliad o luniau at ei gilydd, chwarae offeryn, pobi, chwarae gemau cyfrifiadurol, gwneud ymarfer corff neu chwaraeon.

Fel eich bod eisiau dianc

Beth am: gael cawod twym neu oer, darlunio ar eich corff gyda phen coch, tylino’r rhannu byddwch fel arfer yn niweidio gyda golchdrwyth, gwasgu ciwbiau o iâ neu chnoi lemwn ar gyfer y teimlad o sioc, neu beintio’ch ewinedd.

Dolenni allanol

Ffynhonnell: Childline, Mind