Hedfan Awyren – Manon Steffan Ros

Mae’r darn isod yn ddarn a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel rhan o golofn Manon Steffan Ros ym mis Ebrill 2015 yng nghylchgrawn Golwg. Cyhoeddwyd y darn wedyn yn ei chyfrol ddiweddarach, ‘Golygon’, a ryddhawyd gan y Lolfa ym mis Tachwedd 2017.

RHYBUDD: Mae’r darn hwn yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio a all eich atgoffa o deimladau anodd. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999.

 

Ebrill 2015

Ar 24 Mawrth 2015, credir bod y peilot Andreas Lubitz wedi achosi i’w awyren ddisgyn yn fwriadol ac iddo ddioddef o iselder ysbryd.

Mae Nia wedi bod ar fin ffonio’r meddyg droeon yn ystod y misoedd diwethaf.

Yr adeg honno pan dreuliodd hi ddiwrnod cyfan yn syllu ar wal ei llofft, ei meddwl yn gwbl wag. Yr adeg pan sylweddolodd nad oedd hi’n medru cysgu heb iddi grio. Trothwy hunllefus yr hunanddolurio, a ddigwyddai heb iddi ystyried y peth, bron, wrth iddi olchi’r gyllell fara yn y sinc. ‘Y gyllell fara wedi llithro! Mae o’n iawn… ddim yn brifo…’ Ond nid llithro wnaeth y gyllell fara, dim ond ildio’n wirfoddol i’w llaw wlyb, sebonllyd. Safodd Nia yno am yn hir , yn gwylio’r coch yn lliwio’r swigod gwyn, glân.

Mae angen help arni.

Mae hi wedi deialu’r rhif unwaith neu ddwy, cyn pwyso’r botwm bach i orffen yr alwad cyn iddi ddechrau. Bydd y ddynes yn y dderbynfa yn siŵr o ofyn, yn ôl ei harfer, ‘… pam ydych chi angen gweld y meddyg heddiw?’ Fedr Nia ddim wynebu defnyddio’r hen air trwm yna. Iselder. Byddai’n hawdd ateb y ddynes yn y dderbynfa petai’n dioddef o ‘ffliw’ neu ‘inffecshyn clust’. Dydi iselder ddim yn air i’w ddweud yn uchel.

Rŵan, mae’r gyllell fara wedi dechrau ‘llithro’ yn amlach, a Nia wedi mynd yn drwsgl gyda’r haearn smwddio a’r hob, ac mae’n rhaid iddi wisgo crysau llewys hir am fod ei braich chwith yn greithiau blin. Bob tro, bydd hi’n gaddo iddi hi ei hun mai dyma fydd y tro olaf, ond yna, bydd yr ysfa’n dychwelyd. Eisiau teimlo rhywbeth mae Nia, a hithau wedi mynd i deimlo mor hesb.

Yna, a hithau ar fin ffonio’r meddyg unwaith eto, mae hi’n codi ei ffôn, cyn ei roi yn ôl yn ei grud. Mae hi wedi darllen am y peilot wnaeth achosi’r ddamwain drychinebus, wedi darllen y geiriau people with depression should not fly planes drosodd a throsodd a throsodd. Ond penderfynu peidio cyfaddef wrth unrhyw un am y gwacter sydd ynddi mae Nia, achos os mai dyna sy’n bod arni, iselder, efallai mai’r papurau newydd sy’n iawn. Efallai na ddylai pobol fel hi ofalu am bobol eraill. Achos os nad ydi hi’n iawn i bobol fel hi fod yn beilot awyren, mae’r un peth yn wir am yrru bws, a char ac ynddo hen bobol a phlant. Yr hyn mae’r papurau yn ei ddweud mewn gwirionedd, meddylia Nia, ydi nad ydi pobol sy’n dioddef o iselder yn dryst. Felly mae’n penderfynu peidio ffonio’r meddyg, a pheidio, byth bythoedd, â gofyn am help.

 

Hoffem ddiolch i Manon ac i’r Lolfa am ein caniatau i rannu’r darn uchod ar meddwl.org. Cliciwch yma er mwyn archebu’r cyfrol gyfan.

Rhannu

Pryder am lefel hunan-niweidio ymysg troseddwyr ifanc : BBC Cymru Fyw

Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ag un o’r cyfraddau uchaf o hunan-niweidio ymysg troseddwyr ifanc yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ffigyrau newydd.

Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth (FOI) – sydd wedi’u dadansoddi gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru – fod 160 achos o hunan-niweidio yno yn 2017.

Roedd 113 achos o drais yno hefyd – y gyfradd uchaf yng Nghymru a Lloegr ymhlith carchardai cyffelyb.

Yn ôl Dr Robert Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r data’n dangos y “niferoedd brawychus o hunan-niwed a thrais sy’n cael ei brofi gan blant yn y ddalfa”.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Beth i wneud mewn argyfwng iechyd meddwl

[Daw’r wybodaeth isod o lyfryn ‘Gweithio gyda Thosturi‘ Samariaid Cymru. Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r Samariaid ar 0808 164 0123 (Cymraeg) neu 116 123 (Saesneg) neu’r gwasanaethau brys ar 999.]

Argyfwng iechyd meddwl yw pan fydd ar rywun angen cymorth ar frys.

Pan fydd rhywun yn mynd drwy argyfwng iechyd meddwl, efallai eu bod yn profi:

Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd aros yn ddigyffro os oes rhywun yn cael argyfwng iechyd meddwl ac efallai y byddwch yn ei gael yn frawychus. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio y gall gweithredu’n dosturiol wneud llawer i gynorthwyo rhywun sydd mewn trallod. Byddwch yn hyderus ynghylch eich gallu i’w helpu, a chofiwch nad oes angen i chi fod yn arbenigwr.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Ambiwlans: ‘Delio mwy â hunan-niweidio na thrawiadau’ : BBC Cymru Fyw

Mae’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael eu galw i lawer mwy o achosion o hunan-niweidio nag achosion o drawiadau neu anafiadau difrifol.

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Cynulliad, dywedodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bod angen rhagor o hyfforddiant ar staff ambiwlans i allu delio ag achosion o’r fath.

Mae gwaith ymchwil diweddar gan y gwasanaeth wedi canfod:

  • Bod tua 5% o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn ymwneud â hunan-niweidio, ffigwr “llawer uwch na galwadau i anafiadau difrifol a thrawiadau gyda’i gilydd”;
  • Bod rhai unigolion yn osgoi defnyddio gwasnaethau rhag ofn iddyn nhw gael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999


Rhannu

Hunan-niweidio – Sut alla’i helpu?

RHYBUDD: Darllenwch gyda gofal gan fod yr erthygl hon yn sôn am hunan-niweidio a allai eich atgoffa o deimladau anodd. Os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999.


P’un ai yw rhywun yn dweud wrthoch chi yn uniongyrchol, neu os ydych chi’n amau bod rhywun yn niweidio eu hunain, gall fod yn anodd gwybod beth i ddweud a sut i ymdrin â’r sefyllfa. Efallai eich bod yn teimlo sioc, yn flin, yn ddiymadferth, yn gyfrifol neu nifer o emosiynau anodd eraill.

Bydd person sy’n hunan-niweidio yn aml yn meddwl nad ydynt yn niweidio pobl eraill drwy gymryd eu poen emosiynol arnyn nhw eu hunain. Wrth gwrs bydd eu hunan-niweidio yn brifo’r rhai sy’n poeni amdanynt, ond cofiwch nad dyma yw eu bwriad.

Cofiwch fod hunan-niweidio fel arfer yn ffordd i rywun ymdopi â theimladau neu brofiadau anodd iawn, ac yn y rhan fwyaf o achosion mae’n wahanol i deimladau hunanladdol.  Parhau i ddarllen

Rhannu

Chwaraewyr yn gwawdio pêl-droediwr am ei iselder : BBC

David Cox

Mae pêl-droediwr wedi disgrifio sut y bu i gyd-chwaraewyr a chefnogwyr ei wawdio wedi iddo siarad yn gyhoeddus am ei broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd David Cox, sy’n chwarae i Cowdenbeath iddo gael ei alw’n ‘psycho.’

Mae David Cox wedi galw ar awdurdodau’r gêm i weithredu ar y gamdriniaeth yn yr un modd ag y byddent yn gweithredu yn erbyn hiliaeth.

Dywedodd David Cox iddo gael ei gam-drin gan gefnogwyr pêl-droed a chyd-weithwyr wedi iddo ddatgelu ei fod wedi hunan-niweidio a cheisio cymryd ei fywyd. Dywedodd hefyd fod gwrthwynebwyr wedi defnyddio ei iselder i danseilio ei ymdrechion yn ystod gemau ar y cae.

Cred y pêl-droediwr y dylai’r un ymdrech fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl, ag sydd i herio materion cymdeithasol eraill, megis hiliaeth a rhagfarn.

“Dw’i wedi bod drwy gyfnod gwaethaf fy mywyd, ac mae cael pobl yn gwneud jôc o’r peth, ac i feddwl ei fod yn iawn i ysgwyd eich llaw ar ddiwedd y gêm ac anghofio am y peth, dyw hynny ddim yn iawn.”   [cyfieithiad]

Darllen rhagor : BBC (Saesneg)


Rhannu

Fy mhrofiad o hunan-niweidio

RHYBUDD: Darllenwch gyda gofal gan fod y blog hwn yn trafod hunan-niweidio. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999. Gallai’r tudalennau hyn fod o gymorth yn ogystal: CymorthTechnegau ymdopi gyda hunan-niweidio. 


Roeddwn i’n 16 oed pan niweidiais fy hun yn fwriadol am y tro cyntaf. Noson cyn arholiad TGAU a minnau’n teimlo’r pwysau anferth arnaf ac yn llawn ofn fy mod am fethu, neu nad oeddwn am wneud yn ddigon da.

Roeddwn i’n teimlo dan gymaint o straen, a fu’n cynyddu ers rai misoedd, ond ni wyddwn sut i gael gwared ohono.

Dw’i ddim yn gwybod o ble daeth y syniad i niweidio fy hun y tro cyntaf hwnnw. Mae’n bosib i mi ddarllen amdano mewn cylchgrawn neu ar y we. Yn sicr, nid wrth fy nghyfoedion y clywais am hunan-niweidio. Doedd pynciau mor ddwys â salwch meddwl byth yn codi yn ein sgyrsiau arwynebol.

Yr eiliad y niweidiais fy hun y tro cyntaf, teimlais ryddhad anferth. Rhyddhad o’r straen a’r pwysau a fu’n cynyddu ers misoedd. Ond, ni pharhaodd y rhyddhad am hir. Teimlais gywilydd, euogrwydd, ac ofn am yr hyn yr oeddwn wedi ei wneud.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Traean o bobol ifanc yn hunan-niweidio : Golwg360

“Mae traean o bobol ifanc yn y Deyrnas Unedig yn hunan-niweidio ar ryw bwynt yn ystod eu hoes, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg, lle cafodd 1,000 o bobol ifanc 16-25 oed eu holi, wedi’i gynnal gan yr elsuenau, Self-Harm UK, The Mix a Young Minds, ac yn datgelu bod 36% o’r rheiny’n hunan-niweidio.

Roedd hefyd yn dangos mai dim ond 46% a fyddai’n gwybod pa gamau i’w cymryd pe bai ffrind yn cyfaddef iddyn nhw eu bod yn hunan-niweidio.

Mae’r elusennau felly wedi mynd ati i gyhoeddi cynghorion i bobol ifanc ar gyfer delio â sefyllfa o’r fath, gyda’r rheiny’n cynnwys gwrando ar eu ffrind, chwilio am gymorth, a’u cefnogi yn y tymor hir.”

Darllen rhagor : Golwg360


Rhannu

Cynllun newydd i atal hunanladdiad a hunan niwed : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Bydd cynllun newydd i atal hunanladdiad a hunan-niwed yn y gogledd yn ceisio gwneud y mater yn ‘fater o bwys i bawb’.

Mae sefydliadau yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, Heddlu Gogledd Cymru a grwpiau’r trydydd sector yn cynnwys y Samariaid wedi dod ynghyd i ddatblygu cynllun gweithredu strategol i leihau hunanladdiad a hunan niwed dros y tair blynedd nesaf.

Dynodwyd y cynllun fel blaenoriaeth allweddol yn strategaeth iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a gyhoeddwyd yn ddiweddar – sy’n nodi’r cyfeiriad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar draws Gogledd Cymru.


Rhannu