Fy neuddeg mis o golled – Becky Williams

Becky

Galar yw’r cyflwr emosiynol poenus y byddwn ni i gyd yn dod ar ei draws ar ryw bwynt yn ein bywydau, ond rydym ni fel cymdeithas yn hynod gyndyn i’w drafod. Mae hyn yn golygu bod pobl yn hollol amharod i ddelio â her emosiynol galar y mae’n rhaid i ni ddioddef pan fydd rhywun rydym yn caru’n marw. 14 oed oeddwn i pan brofais alar am y tro cyntaf, pan fu farw fy nhad o felanoma malaen (Malignant Melanoma). Bryd hynny, ar ddechrau’r glasoed, anghyfleuster oedd fy ngalar. Roedd yn bygwth fy stopio rhag mynd ar ôl bechgyn a mynd allan gyda ffrindiau, felly fe’i rhoiais i’r neilltu i barhau â fy mywyd. Yn 20 oed, dechreuodd fy iechyd meddwl ddioddef a daeth yn amlwg fy mod yn profi galar gohiriedig (delayed grief). Es i at y GP a wnaeth fy nghyfeirio at gwnsela, ac ar ôl i mi weithio drwy fy ngalar gyda seicolegydd roeddwn i’n gallu symud ymlaen.

Pan gafodd fy ngŵr Irfon ddiagnosis o ganser datblygedig y coluddyn yn 2014, roedd fel petai’r byd wedi dod i ben. Ro’n i’n wraig weddw yn 37 oed pan fu farw Irfon ar 30 Mai 2017. Dim ond 46 oedd o. Yn Dad i bump, mae gennym ddau fab gyda’n gilydd – Sion sy’n 9 oed ac Ianto sy’n 7. Wrth i mi edrych yn ôl ar fy mhrofiad cynt o alar, roeddwn i’n benderfynol i wynebu fy ngalar ac yn gwybod ei fod yn hanfodol i mi gefnogi fy mhlant yn eu galar hefyd, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib.

Roedd y dyddiau cyntaf ar ôl i Irfon farw yn frithgof, ond yr hyn dwi’n gallu cofio yw teimlo fel petawn i’n sefyll yn stond â’r byd yn parhau o fy amgylch.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Hel Meddyliau – Meinir Ann Thomas

Tro yma, Meinir Ann Thomas fu’n egluro wrth meddwl.org mor anodd yw byw bywyd dyddiol law yn llaw â phrofiadau iechyd meddwl.

Pryd oedd y tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o’ch iechyd meddwl eich hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol? Beth yw eich profiadau chi?

O edrych nôl, yn fuan iawn ar ôl colli mam ym mis Medi 1992. Roedd hi ond yn 35 oed, a minnau ond yn 10. Ro’n i eisiau bod gyda hi, felly nes i acshyli gymryd gorddos yn fuan iawn ar ôl iddi farw (tua pythefnos mae’n siŵr) er mwyn cael bod gyda hi. Wrth gwrs, naeth e ddim gweithio, a nes i ddim trial eto chwaith, ond do’n i ddim yn iawn o bell ffordd. Wi’n cofio dweud wrth dad tua mis ar ôl colli mam fy mod i’n depressed. Wedodd e shwt allen i fod yn depressed yn 10 oed? Ar ôl hynny, nes i gau fy ngheg. Cadw fy nheimladau i mi’n hun. Parhau i ddarllen

Rhannu

Fe ddaw dyddie gwell, dwi’n addo! – Mared Powell

Dechreuodd y cwbl tua mis Mai blwyddyn 12, o ni’n anhapus gyda fy mhwysau felly fe benderfynais fod yn fwy ofalus da’r hyn o’n i’n fyta a byta’n fwy iach. Dros y misoedd nesaf dechreuais deimlo’n isel iawn a chael meddyliau tywyll, fe sylwodd Mam fod rhywbeth o’i le ac yn y diwedd bu’n rhaid i mi ddweud y gwir wrthi er mwyn mynd ati i gael help gan gwnselydd. Erbyn mis Medi o’n i ‘di colli bron i 2 stôn a’n byta llawer llai, i fod yn honest roeddwn i ‘di dechrau mynd yn gaeth i’r holl “dieto” ‘ma.

Roedd bwyd yn dechrau mynd yn dopic sensitif (odd hyn yn anodd credu gan fy mod wedi bod yn un odd yn dwli ar fwyd ers yn fach) ac yn mis Hydref fe benderfynais fynd yn ‘vegan’ gan fy mod yn meddwl y byddai’n ffordd ‘rhwydd’ o osgoi y ran helaeth o fwyd a’n cyfyngu’r bwyd allen i ddewis.

O hyn ymlaen roedd fy mhwysau‘n disgyn yn aruthrol, roedd hyd yn oed meddwl am fynd allan o’r tŷ yn ddigon i wneud i mi fynd mewn i banig llwyr a llefen y glaw, doeddwn i ddim eisiau siarad i fawr neb wyneb yn wyneb ac roeddwn i wedi blino drwy’r amser.

Erbyn mis Mai y flwyddyn wedyn roeddwn i wedi colli 3 stôn…

Parhau i ddarllen

Rhannu

Magu hyder a hunan-barch

Ydych chi o hyd yn meddwl y gwaethaf o’ch hun? Neu ydych chi’n teimlo nad oes hyder gyda chi? ‘Dydych chi ddim ar ben eich hun – mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn o dro i dro.

Hunan-barch yw sut ydyn ni’n meddwl am ein hun. Mae bod yn hyderus yn golygu bod yn gyfforddus gyda sut ydyn n’n edrych ac yn teimlo. Mae’n golygu teimlo’n dda am ein hun, ein meddyliau, a’r hyn y gallwn ei wneud. Gall magu hyder gymryd amser, ond gall gymryd camau bychain arwain at newid mawr yn y pendraw.

Awgrymiadau ar sut i fagu hyder:

Edrychwch ar eich hun yn wahanol

Waeth sut ydych chi’n teimlo, ceisiwch feddwl am un peth ‘rydych chi’n hoffi am eich hun. Gall fod eich gwallt, eich synnwyr digrifwch neu eich sgiliau pêl-droed. Unwaith ‘rydych chi wedi dechrau ar hyn, gallwch ddechrau feddwl am fwy o bethau a chreu delwedd bositif o’ch hun.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Hunan-hyder

arddunWedi dechrau ar fy ail mlwyddyn yn y Brifysgol, mae ‘na gymaint o bethau wedi newid mewn cyfnod byr o amser wrth i mi orfod mynd yn ôl i’r arfer o fyw mewn bybl ym Mangor Ucha’ unwaith eto. Ond un peth sydd byth yn newid o gwbl dim ots lle ydwi, ac yn fater dwi’n gorfod delio gyda yn ddyddiol, ydi fy hunan hyder.

Fel y mwyafrif o bobl, mae’r ffordd dwi’n edrych, ac sut dwi’n ymddangos i eraill yn bwysig iawn – yn enwedig ers imi gychwyn fy arddegau. Dwi hefyd yn un o’r bobl annoying ‘na ‘neith wastad gofio’r sylwada’ negyddol dwi’n ei ga’l yn lle’r rhai da – a hynny ym mhob cyd-destun; fy edrychiad, gwaith academaidd, personoliaeth ayyb.

‘Nai’m gwadu’r peth, geshi gymaint o shit gan bobl ar hyd fy amser i yn yr ysgol uwchradd. Dwi’n credu bod y term ‘bwlio’ yn cael ei daflu o gwmpas yn llawer rhy hawdd dyddia’ yma, ond dyna ges i heb os – fy mwlio. Mi ‘nath o amharu gymaint ar fy mywyd i, a neshi golli LOT o hyder o’i herwydd, yn ogystal â mynd yn isel iawn – ond dwi ddim am fynd lawr y lôn fach llon honno tro ‘ma. (Gyda llaw, dwi’n casau pan ma’ rhai yn trio cyfiawnhau pam bo’ pobl yn bwlio yn y lle cynta’, neu pam ‘nath nhw ddewis eich targedu chi. Yndw, dwi’n berson tawel, ond tydi hynny ddim yn rhoi’r hawl nac y chwaith ydio’n reswm i fy mychanu i, neu ‘nhrin i fel baw… ✌🏻 Jyst deud.)

Parhau i ddarllen

Rhannu

Magu hyder wrth fodelu : BBC

_92066849_img_2225Mae mam o Gaerfyrddin sy’n dioddef o gor-bryder wedi trawsnewid ei chorff a throi at fodelu fel modd o adennill ei hyder.

“Dyw gor-bryder byth bron yn cael unrhyw sylw,” meddai. “Wnes i benderfynu cyfaddef i bobl fy mod i’n brwydro ag e oherwydd do’n i ddim yn gallu ymdopi ei guddio mwyach.

“Byddai fy mhen, fy nwylo a fy nhraed yn oeri ac yn pigo, a fy mrest yn tynhau. Byddai fy nghalon yn curo’n uchel ac yn gyflym. I le alla i fynd i ddianc? Ydw i’n mynd i farw?”

Ers blwyddyn, mae Carmen Rouse wedi bod yn gwneud gwaith modelu ac yn teimlo ei fod yn fodd o frwydro ei gor-bryder.

“Dw i’n teimlo’n dda am fy hun, ac wrth wneud shoots dw i’n mynd mewn i fyd bach fy hun, a chanolbwyntio ar fy hun,” meddai. “Mae pryderon eraill yn diflannu.”

Mwy: bbc.co.uk/cymrufyw/

Rhannu