Cyfeirio 17% yn fwy at dimau argyfwng iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae nifer y bobl sy’n cael eu cyfeirio at dimau argyfwng iechyd meddwl yng Nghymru wedi cynyddu 17% mewn tair blynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe gododd nifer yr achosion a gafodd eu cyfeirio at dimau Triniaeth Datrys Argyfwng yn y Cartref o 16,508 yn 2014/15 i 19,269 yn 2017/18.

Mae’r timau yn cefnogi pobl a fyddai, fel arall, angen mynd i’r ysbyty wedi ymgais i ladd neu anafu eu hunain, ac mae’r timau’n cynnwys gweithwyr iechyd meddwl, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogol.

Yn ôl elusen Mind Cymru, mae angen rhagor o gymorth ar bobl cyn iddyn nhw gael argyfwng iechyd meddwl, ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod “yn parhau i fuddsoddi” mewn gwasanaethau argyfwng a gwasanaethau y tu hwnt i oriau.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Atal plant rhag symud yn ‘rhy aml’ mewn ysbyty iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae’r holl gleifion o Gymru wedi cael eu tynnu allan o’r unig ysbyty iechyd meddwl diogelwch isel i blant yn y wlad yn sgil pryderon am safon y gofal yno.

Yn ôl arolygwyr, mae uned breifat Regis Healthcare yng Nglyn Ebwy yn gyson wedi bod yn rhwystro cleifion rhag symud, gyda plant yn disgrifio’r dechneg fel un “niweidiol ac anghyfforddus”.

Cafodd un claf ei ddal i lawr 109 o weithiau mewn chwe mis, tra bod claf arall wedi cael ei atal rhag symud am dros awr a hanner.

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) mae’r ysbyty yn “destun pryder” ac yn parhau i fod o dan oruchwyliaeth fanwl.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Menter newydd gan Diverse Cymru i geisio gwella cymhwysedd diwylliannol ym maes iechyd meddwl : Iechyd Meddwl Cymru

Lansiwyd menter newydd yn ddiweddar i geisio gwella cymhwysedd diwylliannol mewn gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Lansiwyd y fenter gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, a dyma’r fenter gyntaf o’i math yn y DU.

Datblygwyd y BME Mental Health Workplace Good Practice Certification Scheme gan yr elusen cydraddoldeb Diverse Cymru. Mae wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio o fewn cymunedau BME yng Nghymru, mewn ymdrech i wella hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Suzanne Duval, Rheolwr Iechyd Meddwl BME yn Diverse Cymru:

“Mae ymchwil wedi dangos fod pobl BME yn llai tebygol o chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl yn gynnar yn sgil rhwystrau diwylliannol, mwy o broblemau yn cael mynediad at wasanaethau a’n delio gyda systemau iechyd meddwl, ac felly, maent yn cael mynediad at wasanaethau dipyn hwyrach pan fydd eu problemau yn fwy difrifol.”

Darllen rhagor : Iechyd Meddwl Cymru


Rhannu

Pwyllgor Cynulliad i ymchwilio i iechyd meddwl y gogledd : BBC Cymru Fyw

Bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad yng ngwanwyn 2019 er mwyn edrych ar reolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, ac a ddatryswyd problemau’r gorffennol.

Dywedodd y pwyllgor y bydd yn “edrych ar reolaeth gwasanaethau iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru”.

“Bydd y gwaith yn cynnwys adolygu argymhellion a gafodd eu gwneud gan bwyllgor arall, ac hefyd i edrych i’r dyfodol i sicrhau fod problemau’r gorffennol wedi’u datrys a bod systemau mewn lle i sicrhau nad yw methiannau rheoli yn digwydd eto.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Pam fod cymorth yn dod i ben ar ben-blwydd arbennig? : BBC

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl ifanc sydd â chyflwr iechyd meddwl yn gweld y cymorth y maent yn ei dderbyn yn dod i ben sydyn pan fyddant yn cyrraedd pen-blwydd arbennig.

Ar draws Ewrop, bydd hyn rhywle rhwng 16 a 21 oed, sy’n nodi’r cyfnod y daw gofal gan wasanaethau plant i ben. Yn y DU, mae cymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) fel arfer yn parhau hyd at 18 oed.

Mae angen cefnogaeth a thriniaeth barhaus ar lawer o’r bobl ifanc hyn, ond mae nifer ohonynt sy’n symud i ofal oedolion yn teimlo eu bod wedi eu gadael, eu hesgeuluso neu eu bod yn derbyn gofal gwael. Mae eraill yn methu â chael unrhyw gymorth o gwbl gan wasanaethau oedolion ac mae eu gofal yn dod i ben yn llwyr.

Nid yw rhai pobl ifanc yn gallu mynychu’r ysgol, gweld eu ffrindiau neu hyd yn oed adael eu hystafelloedd gwely.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mind Cymru: angen mwy o amser i drafod iechyd meddwl gyda’r meddyg teulu

Mae angen i gleifion iechyd meddwl gael rhagor o amser gyda’u meddyg, yn ôl Mind Cymru.

Canfu arolwg o 550 o gleifion gan Mind Cymru a’r elusen ymchwil annibynnol, Picker, nad yw apwyntiad 10 munud gyda meddyg teulu yn ddigon.

Canfu’r arolwg hefyd fod:

  • 25% yn teimlo nad oedd ganddynt ddigon o amser i siarad am bopeth yr oeddent eisiau yn ystod eu hapwyntiad
  • Y mwyafrif llethol o apwyntiadau meddygon teulu yn cael eu gwneud dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
  • Byddai’n well gan 52% o’r holl ymatebwyr wneud apwyntiad ar-lein
  • Wrth geisio gwneud apwyntiad, gofynnwyd i 44% roi rheswm pam fod angen iddynt weld rhywun
  • O’r rheiny, nid oedd 75% yn gyfforddus yn dweud ei fod ar gyfer eu hiechyd meddwl
  • 14% yn poeni am yr hyn y byddai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei feddwl
  • Pobl ifanc a’r rheiny sy’n dioddef problemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus a dderbyniodd y profiadau gwaethaf o ran gofal
  • Llai na 50% yn teimlo y gallent drafod eu hiechyd corfforol yr un pryd â’u hiechyd meddwl

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw a Mind Cymru


Rhannu

Pobl ifanc yn cael triniaeth iechyd meddwl ymhell o adref

Bu’n rhaid i Cerys, sy’n 18 oed, deithio o dde Cymru i Lundain i gael triniaeth am nad oedd adnoddau arbenigol i drin ei chyflwr anhwylder bwyta yng Nghymru.

Dywedodd: “Roedd mynd i ysbyty seiciatrig yn ei hun yn frawychus ond roedd teithio siwrne bump awr o adref yn fwy brawychus byth.”

Ym mis Ebrill dangosodd adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad bod y rhan fwyaf o’r rhai sydd angen gofal iechyd meddwl arbenigol angen teithio i Loegr.

Darllen rhagor: BBC Cymru Fyw a BBC Wales


Rhannu

Angen ‘gwneud mwy’ wrth drin dioddefwyr iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw am welliant pellach wrth i’r nifer o bobl sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ddechrau syrthio.

Mae’r nifer o bobl sydd wedi cael eu cadw gan yr heddlu dan y ddeddf wedi syrthio o 1,825 yn y flwyddyn cyn Mawrth 2017, i 1,746 yn y flwyddyn ganlynol.

Roedd y nifer gafodd eu cadw gan Heddlu’r Gogledd a Heddlu’r De wedi codi, tra bod niferoedd Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gwent wedi gostwng.

Yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds mae’r blaid yn “croesawu’r cynnydd mae Heddlu Gwent wedi ei wneud” wrth leihau’r nifer o bobl maen nhw’n eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ychwanegodd:

“Dwi’n annog lluoedd eraill i ddilyn eu harweiniad. Does gennym ddim bwriad rhoi’r gorau i’r frwydr hon tan fydd neb yng Nghymru’n gorfod cael eu cadw yn y ddalfa [dan amgylchiadau fel hyn].”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

‘Cyfeirio gormod o blant’ at wasanaethau iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru “dan bwysau anferthol” am fod ysgolion yn cyfeirio gormod o bobl atynt, yn ôl elusen.

Dywedodd Hafal fod y rheiny oedd wir angen cymorth yn cael eu hatal oherwydd “pryder” gan athrawon oedd yn cyfeirio eraill oedd ddim wir ei angen.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod ysgolion wedi cyfeirio tua 1,800 o blant at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) y llynedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw gynllun peilot ble mae arbenigwyr yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ysgolion.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu