Mwy o weinidogion yn mynychu sesiynau cwnsela : BBC Cymru Fyw

Mae hi wedi dod i’r amlwg bod mwy a mwy o weinidogion yr efengyl a chlerigwyr yn mynd i sesiynau cwnsela, a hynny’n aml oherwydd natur eu gwaith.

Mae tua 70 yn mynychu sesiynau Cynnal sydd dan ofal yr elusen Stafell Fyw. Mae’r gwasanaeth ar gael mewn pedair ardal ar hyn o bryd ond oherwydd y galw, y bwriad ydy ehangu i ardal Aberystwyth hefyd cyn hir.

Dyma Guto Llywelyn yn rhannu ei brofiad.

Erthygl a fideo : BBC Cymru Fyw





“Y chwalfa feddyliol a newidiodd fy mywyd” – Andrew Tamplin : BBC Cymru Fyw

Mewn byd sy’n prysur newid, gydag oriau gwaith yn cynyddu, technoleg ar flaenau ein bysedd a nifer o bobl yn gweithio o’u cartrefi, mae angen ystyried yr effaith ar ein lles meddyliol, yn ôl Andrew Tamplin o’r Barri.

“Bues i am flynydde yn gorweithio enbyd ac yn rhoi y masg yma mlaen. Ro’n i’n uwch reolwr mewn banc, yn gweithio lot ac yn teithio. Ro’n i’n gweithio ar benwythnosau ac yn cael cyfarfodydd yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y nos.

Roedd pobl yn meddwl bod Andrew yn grêt drwy’r amser. Ond y gwirionedd yw, doeddwn i ddim yn grêt drwy’r amser, o’n i’n dda iawn yn cuddio’r pethe yma.

Mae’n swnio’n ddramatig… y chwalfa feddyliol ges i. Oedd hi’n chwarter wedi 10, yn y gawod, un bore Sul, a phenderfynodd fy nghorff a’n feddwl i ddweud ‘digon yw digon’.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw





Hunan-ofal : Sionedigaeth

Sioned Mills yn siarad gyda Bryn Salisbury am les, hunan-ofal, straen yn y gwaith a defnyddio improv fel therapi, ar ei phodlediad, ‘Sionedigaeth’.





Gweithwyr y gwasanaethau brys yn profi straen : Golwg360

Mae tua 90% o weithwyr y gwasanaethau brys wedi profi straen a 25% wedi ystyried hunanladdiad, yn ôl ffigyrau diweddar gan Mind Cymru.

Mae’r nifer o swyddogion yr heddlu yng Nghymru sydd yn sâl o’r gwaith oherwydd straen wedi dyblu dros y pedair mlynedd ddiwethaf.

Mae staff y gwasanaethau brys yn wynebu trawma yn ddyddiol – fel cael eu galw i ddelio a damweiniau ffyrdd erchyll, hunanladdiadau a phobl wedi niweidio eu hunain.

Yn ôl tystiolaeth gan y swyddogion eu hunain, mae nifer ohonyn nhw yn mynd a’u pryderon gyda nhw gartref ar ddiwedd eu shifft neu ddim yn cael amser i ddelio gyda’u straen cyn cael eu galw allan at ddigwyddiad arall.

Darllen rhagor : Golwg360





Cynhadledd Lles & Iechyd Meddwl yn y Gweithle 2019 : Canna Consulting

Cynhadledd drwy gyfrwng y Gymraeg yn edrych ar les ac iechyd meddwl yn y gweithle.

Cyfle unigryw i ddysgu mwy, datblygu sgiliau newydd a chymryd amser i feddwl am eich lles chi ac eraill yn y gweithle. Y siaradwyr gwadd fydd Stifyn Parri a Nia Bennett (effectus HR). E-bostiwch info@cannaconsulting.co.uk er mwyn sicrhau eich lle.

24 Ionawr 2019, 10am – 3pm, Gwesty Radisson Blu, Caerdydd


 




Dros 2 filiwn o bobl yn y DU yn gorfod cyfyngu eu gwaith yn sgil iechyd meddwl gwael : Iechyd Meddwl Cymru

Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl wedi canfod fod 2.3 miliwn o bobl yn y DU yn profi problemau iechyd meddwl ar hyn o bryd, sydd yn effeithio ar faint o waith cyflogedig y maent yn medru ei wneud, gyda llawer yn profi caledi ariannol difrifol yn sgil hynny.

Mae’r Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl yn galw am newidiadau sydd yn cynnwys:

  • Cynyddu hyblygrwydd o ran tâl salwch er mwyn caniatáu absenoldeb salwch ataliol, rhan amser yn ogystal â dychwelyd i’r gwaith dros gyfnod.
  • Cynyddu’r lefel o Lwfans Cymorth Cyflogaeth (neu’r elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio’ o’r Credyd Cynhwysol) sydd yn cael ei dalu yn ystod y cyfnod asesu 13 wythnos i’r un lefel â’r Tâl Salwch Statudol.
  • Cynyddu’r mynediad at ffyrdd o ddiogelu incwm, yn enwedig i bobl sydd eisoes â chyflyrau iechyd.

Darllen rhagor : Iechyd Meddwl Cymru





Andrew Tamplin : Prynhawn Da

Dyma stori bersonol Andrew Tamplin sydd wedi cael problemau iechyd meddwl yn y gorffennol ond erbyn hyn yn cynghori eraill ar faterion iechyd meddwl.

(cliciwch ar y llun i fynd at y fideo)





Pecyn Samariaid Cymru i sicrhau tosturi yn y gweithle

Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, cyhoeddodd Samariaid Cymru becyn cymorth newydd i weithleoedd yng Nghymru.

Mae’r pecyn yn cynnig awgrymiadau i staff ar sut i wrando’n well a gwybod beth i wneud pan fo cydweithiwr yn cael argyfwng iechyd meddwl.

Bwriad ‘Gweithio gyda Thosturi – Pecyn Cymorth i Gymru’ yw hybu diwylliant lle mae gan bobl hyder i ofyn am help, ac i roi help i eraill pan fo angen.

Mae’r pecyn yn cynnwys ffeithiau a gwybodaeth ynghyd ag awgrymiadau a gweithredoedd y gellir eu defnyddio yn eich bywyd gwaith. Gall y pecyn cymorth hwn eich cynorthwyo wrth ichi siarad a helpu rhywun sy’n profi iechyd meddwl gwael neu drallod emosiynol, a beth y dylid ei wneud mewn argyfwng iechyd meddwl.

Darllen rhagor: BBC a Samariaid

Darllen y pecyn ‘Gweithio gyda Thosturi’





‘Es i nôl i’r gwaith y diwrnod ar ôl i mi geisio lladd fy hun oherwydd roeddwn i’n ofn cymryd diwrnod i ffwrdd’ : WalesOnline

Georgia Lawson

Cafodd Georgia Lawson ei rhyddhau o’r ysbyty ar ôl ceisio lladd ei hun, ac aeth hi nôl i’r gwaith y diwrnod nesaf.

Y diwrnod ar ôl i’r gweithiwr siop o’r Trallwng geisio lladd ei hun, roedd hi nôl yn y gwaith – yn ofni sut fyddai ei chyflogwyr yn ymateb.

Mae’n rhaid i gyflogwyr drin absenoldeb o’r gwaith o ganlyniad i iechyd meddwl yn yr un modd â chyflwr corfforol, ond mae’r stigma sy’n gysylltiedig yn golygu bod pobl yn aml yn parhau i weithio ac yn gwneud eu cyflyrau’n waeth yn hytrach na chymryd amser i ffwrdd.

Roedd Georgia’n ofn cael eu hystyried yn “wan”, a phan ddychwelodd i’r gwaith, teimlodd nad oedd ei rheolwyr yn deall o gwbl.

Pan ddychwelodd i’r gwaith, bu’n rhaid iddi wynebu’r un broses â rhywun oedd wedi colli’r gwaith o ganlyniad i annwyd.

Mae Mind Cymru’n dweud eu bod am i gyflogwyr greu awyrgylch lle y gall gweithwyr drafod eu problemau iechyd meddwl.

Darllen rhagor : Wales Online (Saesneg)





Dychwelyd i’r gwaith.

Dychwelyd i’r gwaith yn dilyn salwch meddwl

Dwy flynedd yn ôl, yn syth ar ôl i mi raddio o’r brifysgol, dechreuais fy swydd ‘go iawn’ gyntaf. Doedd dim byd o’i le ar yr arwyneb, ac am yr wythnosau cyntaf, roeddwn i’n hapus fy myd yn mynd i’r gwaith ar y daith fer o’m fflat newydd i ganol y ddinas. Dwi wedi byw â phyliau o banig ers wyth mlynedd bellach, ond doedden nhw erioed wedi effeithio ar fy mywyd gwaith tan ychydig o wythnosau ar ôl i mi ddechrau’r swydd honno. Cefais bwl o banig gwael iawn ar y trên ar y ffordd i’r gwaith, ac fe achosodd hyn i mi fod yn hwyr, a minnau’n teimlo mwy a mwy o orbryder y mwyaf hwyr yr oeddwn i. Dwi’n cofio dod oddi ar y trên, o hyd mewn cyflwr bregus, a jyst yn rhewi yn y fan a’r lle, yn ansicr a oeddwn i hyd yn oed yn mynd i allu cyrraedd y swyddfa. Roedd yn gylch cythreulig o banig a phoeni ‘mod i’n mynd i ymddangos yn annibynadwy i’m cyflogwyr newydd. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, dechreuodd y trên fod yn rywbeth oeddwn i’n ofni i raddau, er mai dim ond pedair munud oedd y daith. Roedd ‘na rhywbeth yn fy mhen i’n dweud trên = panig. A doedd dim byd oeddwn i’n rhoi cynnig arni’n gweithio. Ymarferion anadlu, dulliau tynnu sylw fel gwrando ar bodcast neu gerddoriaeth, dulliau daearu. Doedd dim byd hyd yn oed yn crafu’r wyneb.

Ar ôl tua chwe mis o hyn, a minnau wirioneddol yn gorfod llusgo fy hun i’r gwaith bob dydd, digon oedd digon. Cefais nodyn salwch am wythnos, ac es i adre i aros gyda fy nheulu am ychydig, yn y gobaith y byddai seibiant yn gwneud lles. Ond a dweud y gwir, roedd dychwelyd ar ôl cyfnod byr i ffwrdd yn anodd iawn, a gyda fy iechyd meddwl yn gwaethygu bob dydd, penderfynwyd y byddai angen cyfnod hirach i ffwrdd o’r gwaith arna i. Roedd hi’n anodd derbyn hyn i ddechrau. Roeddwn i’n mwynhau’r swydd, roeddwn i’n gallu gwneud y swydd ac roedd fy nghyd-weithwyr yn hyfryd. Felly pam oeddwn i mor isel?

Daeth y mis cychwynnol i ffwrdd yn ddeufis, ac yna rhywsut, chwe mis.

Yn y pen draw, roeddwn i i ffwrdd am dros flwyddyn. Bu’n rhaid i mi ymddiswyddo o’r swydd honno yn y diwedd. Roedd hi’n drueni mawr gorfod cyfaddef na fyddwn i’n gallu dychwelyd, ond dwi’n gallu gweld nawr mai hyn oedd y peth mwyaf teg i mi a fy nghyflogwr. Roedd y pwysau o orfod anfon y nodyn salwch bob mis a’r teimlad o fod yn boen i’r cwmni ond yn cyfrannu at fy nheimladau o gywilydd ac iselder. Roedd yn golygu y byddwn i’n gorfod symud o fy fflat fy hun yn ôl i dŷ fy rhieni, ond roedd hyn hefyd yn gyfle i ganolbwyntio’n hollol ar wella, i ymrwymo i therapi’n llwyr am y tro cyntaf yn fy mywyd. Dwi’n ymwybodol o’r fraint oedd gen i i allu dibynnu ar fy nheulu pan leihaodd fy nghyflog yn sylweddol. Nid pob un fyddai’r un mor ffodus.

Doedd pethau ddim wedi gwella’n wyrthiol dros nos.

A dweud y gwir, roedd pethau hyd yn oed yn waeth am ychydig. Doedd gen i ddim trefn feunyddiol mwyach, roedd y rhan fwyaf o fy ffrindiau yn byw’n bell ac i fod yn onest, roeddwn i’n teimlo’n fethiant. Dim ond ar ôl misoedd o therapi dwys ydw i wedi dechrau teimlo’n well. Erbyn hyn, mae gen i swydd newydd, rhywbeth doeddwn i ddim yn rhagweld gallu gwneud pan oeddwn i ar fy isa’. Er bod y swydd yn debyg iawn i’r hyn oeddwn i’n ei wneud o’r blaen, dwi llawer yn hapusach yn fy hun, ac mae hyn yn trosglwyddo i fy mywyd gwaith. Dwi wedi cyrraedd pwynt lle dwi eisiau gweithio, ac ar ddiwedd y dydd mae gen i deimlad o foddhad a phwrpas. Nid yw hyn i ddweud mod i’n iawn 100% o’r amser. Dwi o hyd yn cael pyliau o banig weithiau, ond dydyn nhw ddim yn effeithio arna i gymaint ag o’r blaen. Dwi’n gallu adnabod beth ydyn nhw, a dweud wrth fy hun nad ydynt yn niweidiol, a byddant bob amser yn dod i ben.

Os oes rhywun arall mewn sefyllfa debyg ac yn poeni am effaith eu hiechyd meddwl ar eu gyrfa, byddwn i’n awgrymu trafod â’ch meddyg teulu i ddechrau, a fydd yn gallu eich cyfeirio at therapi neu feddyginiaeth, neu rhoi nodyn salwch i chi pe bai angen. Dwi’n gwybod nawr nad oes cywilydd mewn hynny. Mae salwch meddwl yr un mor ddilys a difrifol â salwch corfforol, a dylid eu trin yn yr un modd. Pan fyddwch chi’n barod i fynd yn ôl i’r gwaith, byddwch mwy na thebyg yn cael cynnig dychwelyd yn raddol, a fel arfer, gallwch wneud hyn yn y ffordd sydd fwyaf cyfforddus i chi. Mae’n bosib bod gan eich cwmni adran Adnoddau Dynol sy’n gallu asesu unrhyw anghenion a fydd yn gwneud y broses yn haws i chi. Byddwn i hefyd yn gofyn i bawb, yn gyffredinol, i ddechrau siarad â’ch cyd-weithwyr am iechyd meddwl. Mae ‘na gyrsiau cymorth cyntaf iechyd meddwl ar gael i fusnesau ac unigolion, neu gall fod mor syml â gwahodd rhywun am beint ar ôl gwaith, neu jyst ofyn ‘Sut wyt ti?’.

Y peth mwyaf dwi wedi ei ddysgu am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch meddwl yw nad oes ‘ar ôl’ wirioneddol yn bodoli.

Dwi’n gwybod ei fod yn debygol y bydda i’n byw â fy salwch ar ryw lefel am weddill fy oes, ond mae gen i’r adnoddau i allu rheoli’r symptomau fel nad ydynt yn rym llethol ar fy mywyd eto.


Darllen rhagor: