Gorflino

24273263_10155817278210011_1472446512_nOs yw straen cyson wedi eich gadael yn teimlo’n ddiymadferth ac wedi blino’n lân, efallai eich bod chi ar drywydd gorflino (burnout).

Pan rydych chi wedi gorflino, mae problemau’n ymddangos yn enfawr, mae popeth yn edrych yn llwm, ac mae’n anodd magu’r egni i boeni am unrhyw beth—heb sôn am wneud rhywbeth i helpu’ch hun. Ond drwy adnabod y rhybuddion cynharaf, gallwch gymryd camau i osgoi gorflino.

Beth yw gorflino?

Mae gorflino’n gyflwr o flinder emosiynol, meddyliol a chorfforol sy’n cael ei achosi gan straen eithafol ac estynedig. Mae’n digwydd pan fyddwch yn teimlo wedi’ch llethu, yn flinedig yn emosiynol, ac yn methu â chyrraedd gofynion cyson.

Parhau i ddarllen

Rhannu