Pan fyddwn ni’n meddwl am ddibyniaeth neu gaethiwed, rydyn ni’n tueddu i feddwl am ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, ond gall dibyniaeth ymwneud â sawl peth gwahanol: cyffuriau, alcohol, bwyd, ymarfer corff, pornograffi, gemau, cyfryngau cymdeithasol, tatŵs, hunan-niweidio, gamblo, siopa – unrhyw beth rydyn ni’n teimlo nad oes gennym reolaeth arno a rhywbeth sy’n effeithio ar ein hwyliau ac ar ein hymddygiad.
Gall dibyniaeth fod yn hynod o anodd ymdopi ag ef, yn enwedig pan fydd y pethau rydyn ni’n gaeth iddynt yn aml ar gael yn rhwydd.Parhau i ddarllen →
Mae gan tua un o bob cant o bobl yng Nghymru broblem gamblo, gyda mwy na thair gwaith hynny mewn peryg o gael problem.
Yn ôl yr amcangyfrif swyddogol, mae gan 27,000 o bobl yng Nghymru broblemau gamblo ond, yn ôl y Comisiwn Gamblo, mae’r gwir ffigurau’n uwch.
Mae yna amcangyfrif hefyd fod 95,000 o bobl Cymru mewn peryg o gael problemau o’r fath, sy’n gallu arwain at afiechyd corfforol a meddyliol, dyledion a chwalu perthynas.
Caiff gamblo effaith “ddinistriol” ar bobl yng Nghymru, ac mae’n rhwygo teuluoedd, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton.
Yn ei ail adroddiad blynyddol ar gyflwr iechyd y genedl, dywed Dr Atherton fod gamblo yn prysur ddod yn broblem iechyd cyhoeddus, ac mae angen gwaith ymchwil i’r broblem ar frys.
Yn ôl ffigyrau diweddar, mae 61% o oedolion yng Nghymru wedi gamblo yn y 12 mis diwethaf, a dywedodd 30,000 o bobl fod ganddynt broblem gyda gamblo.
Mae datblygiadau ym myd technoleg wedi gweld cynnydd anferth mewn apiau betio ar ffônau symudol, tabledi a chyfrifiaduron, sy’n gwneud gamblo yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen.
Mae Dr Atherton yn galw ar Lywodraeth Cymru i gytuno ar “gynllun gweithredu cryf ac uchelgeisiol” er mwyn lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru.
Nid yw bod yn gaeth i gamblo yn cael ei gymryd o ddifrif yng Nghymru, a dywedir bod diffyg cefnogaeth i bobl sy’n gaeth.
Bydd cynhadledd yng Nghaerdydd yn dod ag arbenigwyr, gwleidyddion a phobl sy’n gaeth ynghyd i drafod y broblem ddydd Mercher (21 Mehefin).
Dywedodd Wynford Ellis Owen, o’r elusen Ystafell Fyw a drefnodd y digwyddiad, ei fod wedi dod yn “broblem iechyd cyhoeddus.”
Dywedodd Sarah Grant, sy’n 31 oed o Gaerdydd, na chafodd ei phroblem ei gymryd o ddifrif, yn enwedig o gymharu â phroblemau caethiwed i gyffuriau ac alcohol, ac mae rhai triniaethau ar gyfer gamblo dim ond ar gael i ddynion.
Dywedodd Iain Corby, o’r elusen GambleAware, er nad oes triniaeth ar gyfer gamblo ar gael drwy GIG Cymru, mae cymorth ar gael oddi wrth elusennau.
Mae dibyniaeth yn aml yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Os oes gennych broblem ddibyniaeth, efallai ei fod wedi dechrau fel ffordd o ymdopi â theimladau nad oeddech yn gallu delio â nhw mewn unrhyw ffordd arall.
Pan fyddwn ni’n meddwl am ddibyniaeth neu gaethiwed, rydyn ni’n tueddu i feddwl am ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, ond gall dibyniaeth ymwneud â sawl peth gwahanol: cyffuriau, alcohol, bwyd, ymarfer corff, pornograffi, gemau, cyfryngau cymdeithasol, tatŵs, hunan-niweidio, gamblo, siopa – unrhyw beth rydyn ni’n teimlo nad oes gennym reolaeth arno a rhywbeth sy’n effeithio ar ein hwyliau ac ar ein hymddygiad.
Gall dibyniaeth fod yn hynod o anodd ymdopi ag ef, yn enwedig pan fydd y pethau rydyn ni’n gaeth iddynt yn aml ar gael yn rhwydd.
Os na fydd ein dibyniaeth yn ein helpu ni i ryw raddau, fyddwn ni ddim yn parhau i’w ddefnyddio. Rhywbeth sy’n gallu bod yn allweddol iawn wrth ymdopi â dibyniaeth yw gwybod sut mae’n ein helpu ni ac yna dod o hyd i fecanwaith ymdopi iachus yn ei le. (Darllen rhagor am ymdopi gyda dibyniaeth)