Fy neuddeg mis o golled – Becky Williams

Becky

Galar yw’r cyflwr emosiynol poenus y byddwn ni i gyd yn dod ar ei draws ar ryw bwynt yn ein bywydau, ond rydym ni fel cymdeithas yn hynod gyndyn i’w drafod. Mae hyn yn golygu bod pobl yn hollol amharod i ddelio â her emosiynol galar y mae’n rhaid i ni ddioddef pan fydd rhywun rydym yn caru’n marw. 14 oed oeddwn i pan brofais alar am y tro cyntaf, pan fu farw fy nhad o felanoma malaen (Malignant Melanoma). Bryd hynny, ar ddechrau’r glasoed, anghyfleuster oedd fy ngalar. Roedd yn bygwth fy stopio rhag mynd ar ôl bechgyn a mynd allan gyda ffrindiau, felly fe’i rhoiais i’r neilltu i barhau â fy mywyd. Yn 20 oed, dechreuodd fy iechyd meddwl ddioddef a daeth yn amlwg fy mod yn profi galar gohiriedig (delayed grief). Es i at y GP a wnaeth fy nghyfeirio at gwnsela, ac ar ôl i mi weithio drwy fy ngalar gyda seicolegydd roeddwn i’n gallu symud ymlaen.

Pan gafodd fy ngŵr Irfon ddiagnosis o ganser datblygedig y coluddyn yn 2014, roedd fel petai’r byd wedi dod i ben. Ro’n i’n wraig weddw yn 37 oed pan fu farw Irfon ar 30 Mai 2017. Dim ond 46 oedd o. Yn Dad i bump, mae gennym ddau fab gyda’n gilydd – Sion sy’n 9 oed ac Ianto sy’n 7. Wrth i mi edrych yn ôl ar fy mhrofiad cynt o alar, roeddwn i’n benderfynol i wynebu fy ngalar ac yn gwybod ei fod yn hanfodol i mi gefnogi fy mhlant yn eu galar hefyd, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib.

Roedd y dyddiau cyntaf ar ôl i Irfon farw yn frithgof, ond yr hyn dwi’n gallu cofio yw teimlo fel petawn i’n sefyll yn stond â’r byd yn parhau o fy amgylch.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Hel Meddyliau – Meinir Ann Thomas

Tro yma, Meinir Ann Thomas fu’n egluro wrth meddwl.org mor anodd yw byw bywyd dyddiol law yn llaw â phrofiadau iechyd meddwl.

Pryd oedd y tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o’ch iechyd meddwl eich hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol? Beth yw eich profiadau chi?

O edrych nôl, yn fuan iawn ar ôl colli mam ym mis Medi 1992. Roedd hi ond yn 35 oed, a minnau ond yn 10. Ro’n i eisiau bod gyda hi, felly nes i acshyli gymryd gorddos yn fuan iawn ar ôl iddi farw (tua pythefnos mae’n siŵr) er mwyn cael bod gyda hi. Wrth gwrs, naeth e ddim gweithio, a nes i ddim trial eto chwaith, ond do’n i ddim yn iawn o bell ffordd. Wi’n cofio dweud wrth dad tua mis ar ôl colli mam fy mod i’n depressed. Wedodd e shwt allen i fod yn depressed yn 10 oed? Ar ôl hynny, nes i gau fy ngheg. Cadw fy nheimladau i mi’n hun. Parhau i ddarllen

Rhannu

Hunanladdiad: Torcalon tad o golli dau fab : BBC Cymru Fyw

Mae tad a gollodd dau o’i feibion i hunanladdiad wedi penderfynu siarad yn agored am ei brofiad yn y gobaith y gallai helpu i godi’r tabŵ o gwmpas y pwnc.

Mae Taffy, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Maiwyn neu Bob, yn dweud ei fod dal mewn sioc ac yn gwybod na chaiff o fyth ateb i’r un cwestiwn y mae o eisiau ei wybod, sef ‘Pam?’

Cymerodd Clive, mab hynaf Taffy, ei fywyd ei hun ym mis Mawrth 2015. Diwedd mis Tachwedd 2018, gwnaeth ei ail fab, Jamie, yr un peth. Roedd y ddau yn 32 oed pan fuon nhw farw.

Er fod Taffy’n gobeithio y bydd rhannu ei stori yn annog eraill i drafod pwnc mor anodd, mae’n gwybod fod yna lwybr hir o’i flaen wrth geisio galaru am ei feibion.

“Yr unig beth allwch chi wneud ydi meddwl amdanyn nhw, caru nhw, a ffordd yna fyddan nhw’n fyw yn eich pen. A’r ffordd yna dwi’n delio efo fo.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Colli Dad, Colli ‘Mhen – Llinos Jones

Cwta wyth wythnos ar ôl colli dad i salwch afiach, yn 53 ifanc, dyma weld fy hun yn eistedd ar gadair ardd wyrdd mewn ystafell fyw, yng nghanol dre Caerfyrddin – yn bell o adra, yn bell o’n ffrindiau, ac yn bellach fyth o dad.  

Joban newydd, cyffrous. Pennod newydd, a chael anghofio.

Bywyd prysur.

Gwen smalio, hapus fy myd, be arall oedd merch angen?

Dal i fynd, dal i weithio, dal i fyw, a dim amser i feddwl, dim amser i grio na galaru.

Gweithio.

Gwenu.

Gwin coch.

Bwyta.

Gwenu.

Gweithio.

Gwenu.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Diffyg adnoddau i helpu pobl ifanc â galar yn y Gymraeg : BBC Cymru Fyw

Mae yna ddiffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael i helpu pobl ifanc ymdopi â galar, yn ôl awdures.

Daw’r sylw gan Ann Atkin wrth i lyfr newydd o’r enw ‘Popeth yn Newid’ gael ei lansio er mwyn helpu plant a phobl ifanc i ddelio â cholled.

Cyfieithiad o ‘Everything’s Changing’ gan yr un awdur yw’r llyfr newydd, adnodd a ddefnyddiwyd gan nifer o wasanaethau sy’n cefnogi pobl ifanc a phlant mewn profedigaeth.

Dywedodd Ms Atkin, sy’n gweithio yn Hosbis Sant Cyndeyrn:

“Drwy fy ngwaith gyda’r hosbis dwi’n deall pa mor bwysig yw hi i blant ddefnyddio eu hiaith gyntaf mewn amser o brofedigaeth. Hyd y gwn i, nifer fach iawn o adnoddau sydd ar gael i blant sydd yn galaru yn yr iaith Gymraeg.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Torri tabŵ galar. – Caryl Bryn

Caryl Bryn

Yn anffodus, mae ambell noson dw i wedi bod allan yn mwynhau fy hun ac yna’n crio wedi i ddiod alcoholig droi arnaf i – ac yna’r euogrwydd, y cywilydd, ynghyd â’r hyn dw i’n ei feddwl sy’n bwysau cymdeithasol i fod â gwên o glust i glust bob tro y mae rhywun mewn tafarn.

Ambell dro, hefyd, mae tueddiad i rai unigolion (nid fy mod yn rhoi bai arnynt gan fod pawb â’u ffordd eu hunain o ddelio â phethau) yn ceisio fy nghysuro wrth ddweud rhywbeth tebyg i “ty’d ‘wan… anghofia amdana fo a bryna’i ddrinc i chdi”. Does dim ond calon dda y tu ôl i hyn ond mae’n gallu bod yn andros o beth anodd i orfod teimlo’r ffasiwn gywilydd o fod wedi colli deigryn tra bod pawb arall yn morio canu.

Y rheswm ‘mod i’n nodi hyn ydi am fod “ty’d ‘wan… anghofia amdana fo” yn digwydd yn aml – ddim mor aml â ffrindiau’n cysuro ac yn cefnogi ta waeth beth yr amgylchiadau – ond mae’r rheiny sydd yn cysuro a chefnogi yn dueddol o fod yn mynd drwy’r un math o beth, boed yn orbryder, iselder, galar, tor-calon neu unrhywbeth ‘dan haul ac mae’n gwneud i rywun sylweddoli fod angen lleisio teimladau a rhannu profiadau… felly dyma leisio fy nheimladau a phrofiadau i a fydd, gobeithio, yn gymorth lleiaf un i unrhyw un sy’n teimlo’r un fath.

***

Roeddwn i wedi troi’n un ar hugain, wedi graddio, bod ar wyliau a symud i dŷ sdiwdant bach clud ym Mangor i ddechra’ astudio fy MA. O’n i’n codi’n hwyr yn y bore a darllen un o lyfra’ Mihangel Morgan wrth boeni am be’ o’n i am wisgo i fynd i noson Open Mic yn y Glôb a phoeni am y byd a’i broblemau – dyna o’dd fy rwtîn arferol i. Dyna o’dd fy myd bach digon bodlon i; byd o lyfrau, ffrindia a gwin coch. Parhau i ddarllen

Rhannu

Be ‘di galar? – Sharon Marie Jones

Ar Fawrth y 25ain, 2016, daeth galar i fy mywyd yn sgrech anifeilaidd wrth i’r blismones ddweud fod fy machgen bach 5 oed, Ned, wedi cael ei ladd mewn damwain car.

 

Be ‘di galar?

Poen. Poen anioddefol sy’n fy ngwasgu’n dynn ac yn atal anadl. Poen sy’n gwneud i mi ddal fy hun mewn pelen tynn ar dy wely. Poen sy’n gosb am dy garu â’m holl calon.

 

Be ‘di galar?

Dagrau. Dagrau sy’n llifo’n ddyddiol ac yn gadael eu holion hallt ar fy mochau. Dagrau sy’n llifo’n dawel ac yn ddirybudd.

 

Be ‘di galar?

Tywyllwch. Tywyllwch anhydraidd. Tywyllwch y nos yn fy mygu tra’n gorwedd a’m llygaid yn led-agored.

  Parhau i ddarllen

Rhannu

Ysgrifennu yn lleddfu rhywfaint ar boen ddiddiwedd mam : BBC Cymru Fyw

Ysgrifennu yw’r unig beth sy’n lleddfu rhywfaint ar y boen ddiddiwedd i Sharon Jones wedi iddi golli Ned, ei mab pum mlwydd oed

Mae Sharon Jones wedi siarad am ei “galar annioddefol” o golli ei mab pump oed, a fu farw mewn damwain car ddwy flynedd yn ôl. Ers colli ei mab, mae Sharon wedi troi ei llaw at ysgrifennu llyfrau.


Rhannu

Byw efo salwch Mam – Anna Foulkes

Anna

Tristwch.  Euogrwydd.  Ansicrwydd.  Casineb.  Blinder.  Gwylltineb.

‘Dwi ‘di teimlo pob un o’r emosiynau yna dros y bedair blynedd ddiwethaf wrth wylio Mam yn brwydro’n erbyn iselder a seicosis. Ond wrth gwrs, ‘dwi hefyd ‘di teimlo’n hapus ar adegau pan mae Mam yn well, pan fydd yr ‘hen Mam’ yn ymddangos eto. Ond fydda i wastad ofn gadael i fi fy hun deimlo’n rhy hapus, achos yn aml iawn pan mae Mam yn cael wythnos neu fis da, mae wythnos neu fis gwaeth na’r tro dwethaf yn dilyn.

Dyna un peth ‘dwi ‘di ddysgu wrth drio bod yn gefn i Mam ar yr adegau anodd.  Bob tro dwi’n meddwl bod Mam yn nôl efo ni, ei bod hi’n mynd i allu bod yn Nain i’r plantos acw eto, mi ddaw ‘na rywbeth a’i tharo hi nôl eto.  Felly byddwn ni’n mynd nôl i’r dechre ac yn trio eto.  Ac felly mae hi ‘di bod i ni fel teulu ers 2014.  Yn aml iawn, ‘dwi’n teimlo ei bod hi jest mor anodd i’r teulu a ffrindie agos sy’n gwylio rhywun mae nhw’n caru yn dioddef, ag ydi hi i’r person sy’n dioddef.  Mi fues i am hir yn methu deall a methu rili dygymod efo be’ oedd ‘di digwydd i Mam.  Ar y pryd, mi ddoth y salwch o nunlle – roedd Mam yn iawn siŵr, 54 mlwydd oed, wedi priodi ers bron i 30 mlynedd, yn gweithio yn llawn amser, y plant ‘di tyfu fyny a ‘di gadel gartre’, tŷ neis a dwy wyres fach lyfli.

Euog.

Heddiw, wrth edrych nôl, roedd yna ambell arwydd bod y frwydr yma ar ddechrau. A dyna lle mae’r teimlad o euogrwydd yn dod mewn, teimlo y buaswn i wedi gallu neud rhywbeth i stopio’r salwch ‘ma, teimlo y dylwn i fod wedi ‘neud mwy i helpu Mam.

Parhau i ddarllen

Rhannu