Fideos o’r digwyddiad ‘Perfformio: ydi o’n dda i ni?’

Clipiau fideo o’r digwyddiad a gynhaliwyd yn Eisteddfod 2019 gyda Non Williams, Miriam Isaac, Gruff Jones a Carys Eleri.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Sesiwn Meddwl.org – Eisteddfod Sir Conwy 2019 : Heno

Ar Lwyfan y Llannerch yn yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Non Parry gadeirio sesiwn hynod ddifyr yn trafod a yw perfformio’n effeithio ar iechyd meddwl, gyda Miriam Isaac, Gruff Jones a Carys Eleri.

Diolch i raglen Heno am ddod draw i greu eitem am y digwyddiad.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Yr Asiantaeth Ddarllen yn dathlu cynllun iechyd meddwl a lles yn yr Eisteddfod : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Dathlodd yr Asiantaeth Ddarllen ei chynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bellach, gall gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru roi presgripsiwn am lyfrau llyfrgell am ddim i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

“Rydyn ni’n falch o gael gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen ar y cynllun yma, ac mae cael llyfrau o’r math yma yn Gymraeg yn hanfodol. Rydyn ni wrth ein boddau bod y pedwar llyfr cyntaf ar gael mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau ledled Cymru i gynnig help a chymorth i ddarllenwyr. Y gobaith yw y bydd y llyfrau yma’n ysbrydoli gwaith gwreiddiol yn y Gymraeg, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n dymuno eu defnyddio fel darllen hunan-gymorth i ddeall amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.”

Darllen rhagor : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Rhannu

Trafodaeth ‘Hel Meddyliau’ yn yr Eisteddfod

Cynhaliwyd trafodaeth ar effaith llenyddiaeth ar iechyd meddwl yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod eleni gyda: 

  • Alaw Griffiths – golygydd ‘Gyrru Drwy Storom’
  • Angharad Gwyn – a gyfrannodd ddarn am ei phrofiad o anorecsia i ‘Gyrru Drwy Storom’
  • Wynford Ellis Owen – sefydlydd Stafell Fyw Caerdydd – canolfan gymunedol sy’n cynnig triniaeth, cefnogaeth ac ôl-ofal i bobl sy’n dioddef o bob math o ddibyniaethau
  • Sara Gibson – newyddiadurwr a brofodd gyfnod anodd ar ôl geni ei thrydydd plentyn, ac roedd darllen straeon newyddion neu nofelau yn anodd iddi.

Diolch i’r cyfrannwyr am drafodaeth werthfawr. Mae fideo o’r drafodaeth, a gynhyrchwyd gan Cwmni Da, i’w weld isod.


Rhannu

Trafodaeth iechyd meddwl yn Eisteddfod yr Urdd – clipiau fideo

Cynhaliwyd trafodaeth ar iechyd meddwl, ar y cyd rhwng meddwl.org a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yr aelodau ar y panel drafod oedd Dr Dai Lloyd AC, Gwen Goddard o’r elusen Hyfforddiant Mewn Meddwl, David Williams ar ran meddwl.org a chadeiriwyd y drafodaeth gan Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith. Y prif bynciau a drafodwyd oedd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, a gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.

Caiff clipiau fideo o’r drafodaeth eu hychwanegu i’r dudalen hon dros yr wythnosau nesaf…

Parhau i ddarllen

Rhannu