20 cofnod mwyaf poblogaidd 2017

Dyma restr o’r 20 cofnod mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd ar meddwl.org yn ystod 2017.

 

1. ‘Dwi’n ddig Mary Ellen, dwi’n ddig’ – David Williams (10 Mai)

“Mae dicter ac anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ac dwi am gymryd perchnogaeth o’r teimlad hollol naturiol yma. Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tân neu sosban fawr yn berwi ar y llawr?”


2. ‘Ymdopi dros gyfnod y Nadolig’ (7 Rhagfyr)

“Gall y Nadolig fod yn gyfnod hapus a llawn llawenydd; cyfle i weld teulu a ffrindiau, rhannu anrhegion a chael hwyl. Ond, gall hefyd fod yn gyfnod heriol o’r flwyddyn, yn enwedig i rai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Llynedd, cyhoeddodd Mind Cymru waith ymchwil a ddangosodd fod pwysau ariannol, ymrwymiadau teuluol, unigrwydd, prysurdeb a’r pwysau i fod yn hapus yn gwneud i filoedd o bobl yng Nghymru deimlo eu bod yn methu ymdopi dros gyfnod y Nadolig.”

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dwi’n ddig Mary Ellen, dwi’n ddig!

Jack-PleasantsDwi’n ddig, dim fel y dug Caeredin wrth gwrs ond mae o yn ddyn digon dig ei hunan. Mae dicter ac anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ac dwi am gymryd perchnogaeth o’r teimlad hollol naturiol yma.

Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tân neu sosban fawr yn berwi ar y llawr?

Yn America mae o yn fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl, yn y deyrnas ranedig gawn ni wythnos, ag yn ôl y sôn fydd S4C yn dangos rhaglenni am y pwnc. Ni fyddaf yn gweld yr un oherwydd dwi’n beio’r peiriant propaganda yma am achosi gymaint o anfodlonrwydd a dicter yn y byd. Y gobaith nol yn 1982 oedd fasa mwy o Gymraeg ar y cyfryngau yn annog mwy o bobol i siarad Cymraeg yn eu bywyd bob dydd ond yn anffodus efelychu’r diwylliant Eingl Americanaidd arwynebol mae o wedi gwneud.

Oherwydd dwi ddim yn defnyddio meddyginiaeth i fy nghyflwr iechyd meddwl bellach mae fy nheulu annwyl wedi bod yn dyst i ‘angry outbursts’. Dwi fel matchen chi! Chwythu fyny ar y pethau mwyaf dibwys ond dwi yn gweld o’n llesol. Dim iddyn nhw wrth gwrs, ond mae o allan o fy system yn syth yn lle mwydro fy mhen fel yn yr hen ddyddiau ac wedyn cymryd cyffuriau i dawelu beth sydd yn hollol naturiol. Dicter! Anger!

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dicter

dicter1Mae dicter yn deimlad naturiol pan eich bod yn teimlo eich bod o dan ymosodiad, yn cael eich twyllo, eich bod yn cael eich trin yn annheg neu yn rhwystredig.

Mae pawb yn teimlo’n ddig weithiau. Nid yw bob amser yn emosiwn ‘drwg’; mewn gwirionedd gall fod yn ddefnyddiol iawn ar adegau. Mae dicter yn dod yn broblem pan fydd yn eich niweidio chi neu bobl o’ch cwmpas.

Mae yna sawl sbardun gwahanol gall effeithio ar dymer rhywun a gall lefelau dicter pobl fod yn wahanol iawn. Gallai gael ei sbarduno gan farnau gwahanol, teimladau o rwystredigaeth, bychanu, panig, iselder a phryder, anoddefgarwch… mae’r rhestr yn un diddiwedd. Ond y ffordd rydym ni’n ymdopi â’r dicter yma sydd yn bwysig.

Mae rhai yn gallu cadw’r dicter yma dan glo tra bod eraill yn colli rheolaeth yn llwyr. Felly pa awgrymiadau sydd gennym ni i helpu rheoli’ch tymer?

Parhau i ddarllen

Rhannu