Oes rhaid bod yn alcoholig i stopio yfed yn gyfan gwbl? – Angharad Griffiths

Angharad

Oes rhaid bod yn alcoholig i stopio yfed yn gyfan gwbl? Wel, nagoes, wrth gwrs  – ond pam bod e’n teimlo felly? 

Mis yma, rwyf yn dathlu 6 mis o fod yn sobor. Sdim dropyn o alcohol wedi pasio fy ngwefusau ers y 30ain o Fedi 2018 (a bi-product bach handi o hyn – dwi heb gael dim un sigaret chwaith….o ni’n “ffag ‘da diod” kinda gal!).

Ond dwi’n sicr bod y gair alcoholig wedi stopio fi rhag neud rhywbeth am fy mhroblem yn gynt – ac yn stopio lot o bobl erill rhag neud rhywbeth am gor-yfed.

Mae’r ddelwedd o alcoholig yn un eithaf hen ffasiwn – rhywun sydd yn yfed bob dydd…whiskey mas o fag papur brown fel arfer! Rhywun sydd wedi colli bob dim – wedi cyrraedd y proverbial rock bottom – colli swydd, trwydded gyrru, teulu, cartref…ayyb.  Yr unig ateb i’r broblem ar y raddfa yma ydi mynd i AA a gorfod defnyddio will power bob dydd i beidio yfed.   Jest cwffio cravings am byth.  Mae’n swnio fel uffern i rhanfwyaf o bobl – hyd yn oed i bobl sydd heb broblem yfed!  Mae hefyd yn label eithaf embarrassing ac yn llawn cywilydd – rhywun sy wedi colli rheolaeth yn llwyr.  O ni ddim ishe’r label yma – ac felly dyna pam oedd derbyn bod rhaid i mi rhoi’r gorau i yfed yn gyfan gwbl mor blydi anodd a wedi cymryd fi dros 10 mlynedd o soul-searching i ffeindio’r ateb sy’n siwtio fi.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Problem gamblo gan un o bob cant o bobl yng Nghymru : Golwg360

Mae gan tua un o bob cant o bobl yng Nghymru broblem gamblo, gyda mwy na thair gwaith hynny mewn peryg o gael problem.

Yn ôl yr amcangyfrif swyddogol, mae gan 27,000 o bobl yng Nghymru broblemau gamblo ond, yn ôl y Comisiwn Gamblo, mae’r gwir ffigurau’n uwch.

Mae yna amcangyfrif hefyd fod 95,000 o bobl Cymru mewn peryg o gael problemau o’r fath, sy’n gallu arwain at afiechyd corfforol a meddyliol, dyledion a chwalu perthynas.

Darllen rhagor : Golwg360


Rhannu

Trafodaeth ‘Hel Meddyliau’ yn yr Eisteddfod

Cynhaliwyd trafodaeth ar effaith llenyddiaeth ar iechyd meddwl yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod eleni gyda: 

  • Alaw Griffiths – golygydd ‘Gyrru Drwy Storom’
  • Angharad Gwyn – a gyfrannodd ddarn am ei phrofiad o anorecsia i ‘Gyrru Drwy Storom’
  • Wynford Ellis Owen – sefydlydd Stafell Fyw Caerdydd – canolfan gymunedol sy’n cynnig triniaeth, cefnogaeth ac ôl-ofal i bobl sy’n dioddef o bob math o ddibyniaethau
  • Sara Gibson – newyddiadurwr a brofodd gyfnod anodd ar ôl geni ei thrydydd plentyn, ac roedd darllen straeon newyddion neu nofelau yn anodd iddi.

Diolch i’r cyfrannwyr am drafodaeth werthfawr. Mae fideo o’r drafodaeth, a gynhyrchwyd gan Cwmni Da, i’w weld isod.


Rhannu

Cymorth i fyfyrwyr ag alcoholiaeth yn undeb Caerdydd : BBC Cymru Fyw

Mae myfyriwr wedi sôn am ei brwydr ag alcoholiaeth, wrth i sesiynau Alcoholics Anonymous wythnosol gael eu sefydlu yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Yn ystod ei chyfnod gwaethaf, roedd Marie – nid ei henw iawn – yn yfed 15 peint o seidr y dydd:

“Ro’n i’n teimlo na allen i fyw gyda’r peth ddim rhagor, ro’n i jest eisiau iddo ddod i ben.

Fe gollais fy ffrindiau, ro’n i’n unig, ac ro’n i’n teimlo nad oeddwn i eisiau parhau fel hyn. Fe gafodd effaith negyddol ar fy iechyd meddwl, gorbryder ac iselder ofnadwy, a meddyliau am orffen fy mywyd.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Obsesiwn â gemau cyfrifiadurol “yn gyflwr iechyd meddwl”

Mae’r anallu i stopio chwarae gemau cyfrifiadurol bellach yn cael ei ystyried yn gyflwr iechyd meddwl gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

‘Anhwylder Chwarae Gemau’ neu ‘gaming disorder’ yw’r term sydd wedi’i fathu am y cyflwr, ac yn ôl y WHO mae’r broblem i’w weld mewn “sawl rhan o’r byd”.

Dywedodd Dr Henrietta Bowden-Jones o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion:

“Rydym yn dod ar draws rhieni sydd mewn trallod, wedi i’w plant gefnu ar yr ysgol [oherwydd gemau cyfrifiadurol]. Maen nhw’n gweld strwythur cyfan eu teuluoedd yn chwalu’n ddarnau.”

Darllen rhagor : Golwg360


Rhannu

Ail Gyfle : Dechrau Canu Dechrau Canmol

Ar Dechrau Canu Dechrau Canmol yr wythnos hon (15 Ebrill) ar S4C, bydd sgwrs onest a theimladwy gyda Malan Wilkinson am iselder, ac ymwelir â chanolfan Tŷ Penrhyn ym Mangor, sy’n rhoi cefnogaeth i bobl sy’n goresgyn problemau cam-drin alcohol a chyffuriau.

S4C ~ Nos Sul ~ 15 Ebrill ~ 7.30pm

[Fideo gwreiddiol : Dechrau Canu Dechrau Canmol]


Rhannu

Fy mhrofiad o hunan-niweidio

RHYBUDD: Darllenwch gyda gofal gan fod y blog hwn yn trafod hunan-niweidio. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999. Gallai’r tudalennau hyn fod o gymorth yn ogystal: CymorthTechnegau ymdopi gyda hunan-niweidio. 


Roeddwn i’n 16 oed pan niweidiais fy hun yn fwriadol am y tro cyntaf. Noson cyn arholiad TGAU a minnau’n teimlo’r pwysau anferth arnaf ac yn llawn ofn fy mod am fethu, neu nad oeddwn am wneud yn ddigon da.

Roeddwn i’n teimlo dan gymaint o straen, a fu’n cynyddu ers rai misoedd, ond ni wyddwn sut i gael gwared ohono.

Wn i ddim o ble daeth y syniad i niweidio fy hun y tro cyntaf hwnnw. Mae’n bosib i mi ddarllen amdano mewn cylchgrawn neu ar y we. Yn sicr, nid wrth fy nghyfoedion y clywais am hunan-niweidio. Doedd pynciau mor ddwys â salwch meddwl byth yn codi yn ein sgyrsiau arwynebol.

Yr eiliad y niweidiais fy hun y tro cyntaf, teimlais ryddhad anferth. Rhyddhad o’r straen a’r pwysau a fu’n cynyddu ers misoedd. Ond, ni pharhaodd y rhyddhad am hir. Teimlais gywilydd, euogrwydd, ac ofn am yr hyn yr oeddwn wedi ei wneud.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Effaith ddinistriol gamblo ar bobl a’u teuluoedd yng Nghymru : WalesOnline

Caiff gamblo effaith “ddinistriol” ar bobl yng Nghymru, ac mae’n rhwygo teuluoedd, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton.  

Yn ei ail adroddiad blynyddol ar gyflwr iechyd y genedl, dywed Dr Atherton fod gamblo yn prysur ddod yn broblem iechyd cyhoeddus, ac mae angen gwaith ymchwil i’r broblem ar frys.

Yn ôl ffigyrau diweddar, mae 61% o oedolion yng Nghymru wedi gamblo yn y 12 mis diwethaf, a dywedodd 30,000 o bobl fod ganddynt broblem gyda gamblo.

Mae datblygiadau ym myd technoleg wedi gweld cynnydd anferth mewn apiau betio ar ffônau symudol, tabledi a chyfrifiaduron, sy’n gwneud gamblo yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen.

Mae Dr Atherton yn galw ar Lywodraeth Cymru i gytuno ar “gynllun gweithredu cryf ac uchelgeisiol” er mwyn lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru.


Rhannu

Faint o broblem ydy alcohol i ferched yn y gymdeithas? : BBC Cymru Fyw

_98952413_caroltachwedd17
Carol Hardy

Mae Carol Hardy, sydd wedi bod yn ddibynnol ar alcohol yn y gorffennol, erbyn hyn yn Rheolwr Gwasanaethau yn Y Stafell Fyw, canolfan sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n gaeth i alcohol, cyffuriau, rhyw a gamblo yng Nghaerdydd.

Yn ôl Carol, mae darlun y cyfryngau o alcohol a’r nwyddau â sloganau sy’n cael eu gwerthu sy’n targedu merched, gan normaleiddio alcohol yn y gymdeithas, yn “frawychus iawn”. Mae merched erbyn diwedd eu 30au neu 40au yn gallu ffeindio eu hunain o dan lot o straen, yn cadw swydd a gofalu am y teulu, a weithie mae’n ymddangos taw dyna’r rhesymau pam bod merched yn mynd yn ddibynnol ar alcohol ac yn chwilio am help, meddai.

“Yfed gwin ydy’r brif broblem i ferched, am ei fod wedi cael ei normaleiddio. Os ydych chi’n gwylio opera sebon ar y teledu, os ydy dwy ferch yn dod at ei gilydd, dim cynnig paned o de neu goffi maen nhw, ond fe welwch chi botel o win bob amser.


Rhannu

Pornograffi – dros ddegawd o gaethiwed

Blog PornograffiDydw i ddim yn cofio yn union pryd y gwnes i sylweddoli mod i’n gaeth i bornograffi, mae’n rhaid ei bod hi dros ddeg mlynedd yn ôl bellach. Does neb yn y byd yn gwybod am fy mrwydyr dyddiol gyda phornograffi.

Yn allanol o leiaf, rwyf wedi bod yn hynod llwydiannus yn cuddio’r broblem. Yn y blynyddoedd ers i mi sylweddoli fod gen i broblem, dwi wedi priodi, cael teulu, meithrin gyrfa lwyddiannus, ac o’r tu allan mae gen i’r bywyd perffaith.

Dechreuodd pethau’n weddol ddiniwed am wn’i, fel llawer o fechgyn fy nghenhedlaeth; gweld delweddau o ferched hanner noeth mewn ‘lads mags’ a Page 3, neu raglenni teledu hwyr y nos.

Parhau i ddarllen

Rhannu