Rhybudd i ddarllenwyr: Mae’r blog hwn yn cynnwys sôn am anhwylderau bwyta.
Gwen Edwards dwi, merch 22 mlwydd oed o Ynys Môn a dwi’n dioddef o’r cyflwr Diabulimia sef Bulimia drwy Diabetes.
Ma’n golygu fy mod i’n fwriadol yn peidio rhoi injections i’n hun er mwyn trio colli pwysa’.
Dwi’n clywed y lleisau’n deutha fi beidio rhoi nhw achos os dwi’n rhoi nhw fyddai’n rhoi pwysa ‘mlaen.
Ma’ byw efo’r cyflwr yn anodd. Ma’ bob dydd yn her gwahanol.
Neshi golli 4 stôn nol ym mis Ionawr 2019. Dros y misoedd dwytha ma’r pwysa’ wedi bod yn mynd yn llai ag yn llai a mi oni ar fy ngwaetha nol ym mis Tachwedd 2019. Oni’n mwynhau colli’r pwysa’ a mynd i’r siopa i brynu dillad plant neu maint 4. Roedd y cyflwr wedi troi yn ffrind gora’ i mi.
Oni’n cael personal training am 6 mis lle oni’n trio codi’r pwysa i fyny gan fy mod i’n wan iawn ond gan mod i ddim yn bwyta, do’dd y pwysa’ ddim yn mynd ‘mlaen, felly o’dd rhaid i fi sdopio. Parhau i ddarllen →
Mae Gwen Edwards, 22, yn byw gyda’r cyflwr diabwlimia – anhwylder sy’n effeithio ar rai pobl sydd yn ddibynnol ar inswlin ar gyfer diabetes math un.
Mae diabwlimia yn disgrifio cyflwr pan fo defnyddwyr yn cwtogi ar chwistrelliadau inswlin er mwyn colli pwysau.
“Roedd mam yn deffro fi ddwywaith, dair gwaith yn ganol nos, just i checkio os o ni dal yn fyw. Ac i fi roedd hynna’n rili anodd. Achos do ni ddim yn sylwi faint o boen o ni’n rhoi fy nheulu drwy. Achos i fi – o ni jyst yn cario mlaen.
Y ffaith fy mod i wedi bod yn diodde mor hir, ond heb wybod fod gen i diabwlimia – faswn i wedi gallu stopio hyn fisoedd, flynyddoedd yn ôl.
Ond achos bod na ddim digon o wybodaeth, doedd gen i ddim syniad fy mod i’r dioddef o afiechyd mor ddrwg.”
Mae bwyd yn chwarae rôl bwysig yn ein bywydau, a bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio amser yn meddwl am beth ydyn ni’n ei fwyta.
Weithiau byddwn ni’n ceisio bwyta’n fwy iach, yn bwyta mwy na’r arfer neu yn colli ein harchwaeth. Mae newid eich arferion bwyta o dro i dro yn normal.
Ond, os yw bwyd a bwyta yn teimlo fel petai’n rheoli eich bywyd, efallai ei fod yn broblem.
Mae llawer o bobl yn meddwl bod pobl sydd ag anhwylder bwyta dan bwysau neu dros eu pwysau. Nid yw hyn yn wir. Gall unrhyw un, o unrhyw oed, rhyw neu bwysau, brofi anhwylder bwyta.