Dermatillomania

Dermatillomania

Mae dermatillomania yn gyflwr sy’n cymell person i bigo a chrafu ei groen nes iddo greu briwiau gweladwy.

Mae’n anhwylder rheoli cymhelliad (impulse-control disorder); cyflwr seicolegol lle nad yw person yn gallu atal ei hun rhag cyflawni’r weithred.

Bydd person â dermatillomania yn pigo, crafu neu wasgu croen sydd fel arall yn iach. Bydd yn gwneud hyn yn aml ac i’r eithaf. Fel arfer, mae pobl sy’n dioddef â’r cyflwr yn pigo’r croen ar eu wynebau a’u gwefusau, ond fe all fod yn unrhyw ran o’r corff, megis y dwylo, croen y pen a’r breichiau. Caiff y cyflwr hwn ei ystyried yn ffurf ar Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD).

Emosiynau

Bydd person â’r cyflwr hwn yn profi emosiynau cryf fel rhan o’i orfodaeth. Mae’n arferol iawn i deimlo ysfa gref i bigo’r croen, a theimladau o densiwn cynyddol hyd nes cyflawnir y weithred. Ar ôl pigo’r croen, daw teimlad o ryddhad. Gall dermatillomania hefyd achosi teimladau negyddol megis euogrwydd, cywilydd ac embaras. Yn aml bydd pobl sy’n dioddef yn ceisio gwadu’r broblem neu’n ceisio cuddio’r croen â cholur.

Beth sy’n achosi dermatillomania?

Nid ydym yn sicr beth yn union sy’n achosi dermatillomania ond mae sawl theori. Mae rhai arbenigwyr o’r farn bod y cyflwr yn fath o ddibyniaeth. Po fwyaf y mae’r person yn pigo ei groen, y mwyaf y mae’r awydd i barhau yn cynyddu. Gall dermatillomania fod yn adlewyrchiad o broblem iechyd meddwl. Yn ôl theoriau seicolegol ac ymddygiadol, gall pigo’r croen fod yn ffordd o liniaru straen neu gorbryder. Mewn rhai achosion, gall dermatillomania hefyd fod yn ffurf ar hunan-niweidio, pan fydd person yn brifo ei hun yn fwriadol er mwyn teimlo rhyddhad dros dro rhag eu gofid emosiynol.

Cyflwr tebyg arall yw trichotillomania – pan fydd person yn teimlo’r angen i dynnu ei wallt o’r gwraidd. Nid yw’n anghyffredin i berson ddioddef ag OCD ac i bigo ei groen yn ogystal â thynnu ei wallt yn orfodol.

Beth ddylwn i ei wneud?

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych yn pigo eich croen drwy orfodaeth neu’n sylwi bod eich plentyn yn gwneud hynny. Bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at seicolegydd neu seiciatrydd ar gyfer ryw fath o therapi siarad.
Os oes niwed difrifol i’r croen, efallai y bydd angen i chi gael eich cyfeirio at ddermatolegydd (arbenigwr ar y croen) yn gyntaf.

Cyngor ar sut i roi’r gorau iddi

  • Cadwch eich dwylo’n brysur drwy gyflawni tasg arall nes i’r awydd i bigo basio, neu gwisgwch fenig.
  • Pan fyddwch yn teimlo’r awydd i bigo, gofalwch am eich croen yn lle – er enghraifft, rhowch leithydd ar eich croen.
  • Anelwch at beidio ag ildio i’r awydd yn hirach ac yn hirach bob tro os nad oes modd i chi ei wrthsefyll yn gyfan gwbl.
  • Cadwch y croen yn lân er mwyn atal heintiau.
  • Cadwch yn brysur.
  • Gwaredwch ag unrhyw blicwyr blew (eich ‘tweezers’), pinnau ac offer arall y byddech yn debygol o’u defnyddio.
  • Ceisiwch wasgu pêl feddal neu damaid o blu tack yn hytrach.

Ffynhonnell: NHS