Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth iechyd meddwl

Wrth i argymhellion adolygiad annibynnol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl gael eu cyhoeddi, mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut mae’r Ddeddf yn cael ei chymhwyso yng Nghymru.

Wrth ymateb i gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Dylanwadu Mind Cymru:

“Er bod y Ddeddf Iechyd Meddwl yn berthnasol i Gymru, mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u datganoli ac yn gweithredu o dan fframwaith gwahanol. Mae rhai o argymhellion yr adolygiad eisoes yn rhwymedigaethau statudol yng Nghymru o dan y Mesur Iechyd Meddwl.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth, polisi ac ymarfer iechyd meddwl yng Nghymru. Byddem yn dymuno gweld yr adolygiad hwn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn ystyried effeithiolrwydd y Mesur Iechyd Meddwl, argymhellion yr Adolygiad o’r Ddeddf Iechyd Meddwl a sut mae’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn rhyngweithio mewn cyd-destun Cymreig.”  [cyfieithiad]

Testun gwreiddiol : Mind


Rhannu

Cyfreithiau a Strategaethau ynghylch Iechyd Meddwl

Mae’r erthygl hon yn rhoi crynodeb o’r deddfau, y strategaethau a’r canllawiau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru.

Y prif gyfreithiau sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yw:

  • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983 (a gafodd ei diwygio yn 2007)

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddarnau eraill o ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

‘Angen mesurau diogelwch cryfach i amddiffyn cleifion’ : Iechyd Meddwl Cymru

Mae pobl sydd yn cael eu cadw yn yr ysbyty yn sgil problemau iechyd meddwl angen deddfwriaeth sydd yn eu hamddiffyn yn well, yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr yn Lloegr a Chymru, i adolygiad annibynnol o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

“Yn ôl y gyfraith heddiw, mae rhywun sydd wedi ei ddal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn medru cael ei drin heb roi caniatâd, a hynny am y tri mis cyntaf ac nid oes unrhyw fesurau diogelwch yn eu hamddiffyn. Rhaid i hyn ddod i ben,” dywedodd is-lywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr, Christina Blacklaws.

“Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r wladwriaeth i gadw cleifion am gyfnodau hir o amser – ond wedi’r penderfyniad cychwynnol, mae’n cymryd chwe mis cyn bod y claf yn cael cyfle i adolygu hyn.

“Rydym yn credu y dylent fod yn medru herio’r penderfyniad hwn i’w cadw yn yr ysbyty, a hynny dipyn ynghynt – mae chwe mis yn rhy hir o lawer ac yn medru gwaethygu’r straen sydd yn cael ei brofi gan bobl sydd eisoes yn dioddef.

Rhannu