Mewn breuddwyd: Sut beth yw byw gyda Dadwireddu? – Manon Elin

Mae syniad cyffredinol bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am faterion iechyd meddwl yn gwella, sydd yn wir i ryw raddau, ond dim ond gyda chyflyrau cyffredin fel iselder a gorbryder.

Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch Dadwireddu, nid yn unig ymhlith y boblogaeth gyffredinol, ond hyd yn oed ymhlith gweithwyr iechyd, dal i fod yn broblem fawr. Anaml iawn fydd ymgyrchoedd i ‘godi ymwybyddiaeth’ am iechyd meddwl yn rhoi sylw i’r cyflyrau hynny sydd wir angen codi ymwybyddiaeth ohonynt.

Dwi wedi cyfeirio at fy mhrofiadau â dadwireddu yn fras mewn blogiau eraill, ond roeddwn i eisiau ysgrifennu blog penodol amdano, er mwyn i bobl eraill ddeall, ond hefyd er mwyn i mi geisio ei ddeall yn well fy hun. Mae ysgrifennu wir yn help i wneud synnwyr o bopeth!

Yn y blog yma byddai’n trafod: sut mae dadwireddu’n teimlo, y pethau sy’n gallu ei waethygu, sut mae’n effeithio arna’ i o ddydd i ddydd, a rhai pethau sy’n gallu helpu.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mwy o weinidogion yn mynychu sesiynau cwnsela : BBC Cymru Fyw

Mae hi wedi dod i’r amlwg bod mwy a mwy o weinidogion yr efengyl a chlerigwyr yn mynd i sesiynau cwnsela, a hynny’n aml oherwydd natur eu gwaith.

Mae tua 70 yn mynychu sesiynau Cynnal sydd dan ofal yr elusen Stafell Fyw. Mae’r gwasanaeth ar gael mewn pedair ardal ar hyn o bryd ond oherwydd y galw, y bwriad ydy ehangu i ardal Aberystwyth hefyd cyn hir.

Dyma Guto Llywelyn yn rhannu ei brofiad.

Erthygl a fideo : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Cwnselwyr Cymraeg

Dyma restr o gwnselwyr cymwysiedig all gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg. Daw’r manylion isod o wefannau Counselling Directory, BACP a UKCP. Os gwyddoch chi am gwnselwyr cymwysiedig Cymraeg eraill, cysylltwch â ni i’w hychwanegu at y rhestr.

Caerdydd a’r Fro

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dim cywilydd, dim cyfrinachau. Cyfathrebwch.

Rhys Owain Jones

Mae’n braf iawn gweld cymaint o sôn am iechyd meddwl o’n cwmpas ni erbyn hyn, ar y newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol yn bennaf. Mae llawer mwy o bobl yn ymwybodol o broblemau iechyd meddwl yn gyffredinol ac mae llawer mwy o bobl yn magu dewrder i siarad am eu profiadau. Dyw hynny ddim yn beth hawdd i’w wneud.

Ond mae’n dal i fod yn destun tabŵ i lawer, yn enwedig ymysg dynion. Rhywsut, rydyn ni’n ei chael hi’n anoddach rhyddhau ein teimladau ac yn tueddu i feddwl bod rhaid i ni ymddangos yn “macho” drwy’r amser. I ni, mae sôn am ein problemau iechyd meddwl yn gallu dangos ein bod ni’n wan, a gallem ni feddwl na fydd pobl yn edrych arnom ni yn yr un ffordd eto.

Amdana i

Dwi’n 26 oed ac wedi dioddef gyda gorbryder drwy’r rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn, yn ogystal ag iselder ers cwpl o flynyddoedd. Tan yn ddiweddar, roeddwn i’n ofni siarad am fy nhrafferthion ac wynebu beirniadaeth gan bobl, p’un a oeddwn i’n eu nabod nhw neu beidio. A dweud y gwir, dwi’n dal i gadw hyn i gyd yn gyfrinach rhag llawer o fy ffrindiau agos. Ond yn y bôn, pa fantais sydd i gadw’r pethau hyn i ni’n hunain?

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cynnydd mewn sesiynau cwnsela gan Childline

Cynhaliodd Childline 4,636 o sesiynau cwnsela am unigrwydd yn 2017/18 – cynnydd o 14% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Siaradodd pobl ifanc gyda Childline am y problemau y maent yn eu hwynebu o ran delio â theimladau o arwahanrwydd ac unigrwydd, a hynny yn sgil trafferthion iechyd meddwl, bwlio a’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

Darllen rhagor : Iechyd Meddwl Cymru


Rhannu

Mynd reit lan at ddrws marwolaeth a chanu’r cloch a llwyddo dianc cyn odd hi’n rhy hwyr.

Sioned Martha

 

Ma’ dioddef a delio gyda iselder ysbryd yn brofiad nad yw’n hawdd ei ddisgrifio.

Ma’ fe’n dy flino di’n emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn blino pawb o’th gwmpas di hefyd. Mae fe’n chwarae gyda dy emosiynau di nes bo ti’n rhacs a swp sâl yn methu stopio crio neu’n gwneud i rhywun arall grio a sgrechian ata ti, ond ti methu helpu sut wyt ti a sut ma’r cemhegion yn dy feddwl di ‘di datblygu (neu heb, cweit.) Mae e’n gallu achosi i ti gael ystod eang o broblemau iechyd meddwl a chorfforol eraill hefyd, ond ma cadw i fynd trwy’r twnnel tywyll yn bwysig, achos ma’ na olau disglair yn disgwyl amdanoch chi ar y diwedd.

Well i mi gyflwyno fy hun i chi cyn i fi fynd ymlaen.

Hia, Sioned Martha yw’n enw i. ’Dwi’n dod o bentre bach yn Sir Gaerfyrddin a ches i’n ddiagnosio gydag iselder ysbryd pan o’n i’n 17 mlwydd oed. Cefais blentyndod digon bodlon er fy mod yn ddrama cwîn go iawn, ond sylwais yn gynnar iawn nad oedd fy nhad yn ddyn mor siriol â thadau eraill. Roedd e’n bach o introvert, ddim yn mynd i nunlle heblaw i’w waith, dod adref, a chysgu yn rhythmig bob dydd. Prin iawn buaswn yn gweld gwên ar ei wyneb heblaw pan oedd e gyda fi neu’n chwaer neu gyda mam. Tawel iawn, a difyr oedd e rhan fwyaf o’r adegau eraill. Ro’n i wedi gweld rhyw dabledi presgripsiwn di-ri wrth ochr ei wely ond heb feddwl lot am y peth.  Nawr, pan ddechreues i deimlo yn uffernol o isel tua adeg fy mhenblwydd yn 15, do’dd ddim syniad da fi beth o’dd yn mynd ymlaen yn fy mhen i. Oni’n casáu fy hun heb lot o reswm, yn hunan niweidio yn ddifrifol ac nid oeddwn wirioneddol eisiau bodoli. Dim ond achos bo chi’n gweld rhywun yn gwenu, dyw hynna ddim yn meddwl bo nhw’n hapus. Ro ni’n mwynhau cwmni ffrindiau ac ati, ond roedd fy ngolwg o fi fy hun yn llawn atgasedd. Parhau i ddarllen

Rhannu

Profiad o Feddyginiaeth – Manon Elin

Ymwadiad: Mae pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol cyn cychwyn neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth.


Pan fydd stori am feddyginiaethau i drin salwch neu gyflwr iechyd meddwl yn y wasg, yn amlach na pheidio, mae’r disgwrs yn un negyddol, yn gorliwio eu peryglon, yn beio’r claf am gymryd meddyginiaeth, a’u bod yn cael eu cynnig yn rhy hawdd gan feddygon. Anaml iawn mae sôn am yr effeithiau positif y gallan nhw eu cael.

Pan roeddwn i’n chwilio am wybodaeth am feddyginiaethau, roeddwn i’n gweld llwyth o straeon am beryglon tabledi a’r sgil-effeithiau brawychus. Prin iawn yw’r wybodaeth am eu heffeithiau cadarnhaol.

Pwrpas y blog yma, felly, yw rhannu ‘mhrofiad i o gymryd meddyginiaethau ar gyfer cyflwr iechyd meddwl. Dyma’r fath o beth fydden i wedi hoffi darllen am feddyginiaeth wrth benderfynu dechrau cymryd tabledi neu beidio. Roeddwn i eisiau darllen profiad onest, nad oedd yn feirniadol, oedd yn dangos nad yw meddyginiaeth o reidrwydd mor frawychus ag yw’r straeon amdanynt.

Mae’n bwysig nodi fod pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol, felly cofnod o ‘mhrofiad i yn unig yw hwn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Calon yn curo’n galed. Mygu. Llewygu.

Ffotograffiaeth; rhywbeth i dynnu meddwl oddi ar bethau

Panic attacks

Cefais fy mhanic attack cyntaf yn ôl yn 2011 a ‘dw i’n cofio poeni a brysio – ro’n i’n mynd i un o’r apwyntiadau poenus mae nifer o ferched yn dredio’u cael, y smear test. Brysiais yn syth wedyn o’r prawf i ngwaith lle roeddwn i mewn gofal o gartref henoed.

Gweithiais fy shifft tan ddeg yn nos ac ar ôl cyrraedd adref, doeddwn i jyst methu unwindio; roedd bob dim ar fy meddwl; oeddwn i wedi gwneud popeth yn iawn yn fy ngwaith?  Jyst methu rhoi switsh off.  Tua hanner nos, dechreuais grynu.  Doeddwn i methu cael fy ngwynt.  Doeddwn i ddim yn gwybod be oedd yn digwydd i fi ond yr unig beth allwn i feddwl oedd fy mod i’n marw. Parhau i ddarllen

Rhannu

Byw ym mybyl iselder

Sut beth ydi byw efo iselder?

I mi, mae fel trio ymladd brwydr dyddiol efo bob dim sy’n mynd rownd a rownd yn fy mhen i; teimladau, meddyliau, euogrwydd, cwestiynau, sylwadau pobl eraill.

Dwi’n byw mewn bybyl. Dwi’n edrych allan o’r bybyl ar fywyd pobl o nghwmpas ond dwi ddim yn rhan o ddim byd nac yn perthyn i neb. Dwi’n bodoli, dyna’i gyd.

Mae’r dyfodol yn dywyll. Dwi ddim yn gweld dyfodol… Be ydw i’n weld? Cwestiwn da!

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

‘Dw i felly mor falch o glywed cymaint o gynnydd yn y sôn am le a rôl y Gymraeg mewn iechyd meddwl dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. ‘Dw i hyd yn oed wedi cael ambell sgwrs am y peth mewn pyb yn ddiweddar, rhywbeth na fedra i ddychmygu a fyddai wedi digwydd ychydig flynyddoedd yn ôl.  Os oeddech chi yn Eisteddfod yr Urdd eleni neu wedi gweld fideos o lansiad y wefan a gymrodd lle yno, mi fyddwch chi wedi gweld eich hun cymaint gododd i rannu eu profiadau, pob un ohonyn nhw’n adrodd diffyg enfawr mewn darpariaeth Gymraeg.  Bu Gwen Goddard hefyd yn siarad yn y newyddion am fyw ag anhwylder deublyg yn ddiweddar; hithau hefyd yn cyfeirio at yr oedi ychwanegol sydd ‘ddim digon da’ wrth ddisgwyl triniaeth yn y Gymraeg.

Parhau i ddarllen

Rhannu