Coronafeirws ac absenoldebau: eich hawl i dderbyn tâl: Cyfreithwyr Monaco

Dyma erthygl gan Gyfreithwyr Monaco ynghylch eich hawliau yn y gweithle yn ystod yr achos Coronafeirws.

Effaith Coronafeirws (COVID-19) ar weithwyr

Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar amryw o gwestiynau yr ydym wedi’u derbyn gan weithwyr am absenoldebau gwaith a tâl salwch a’r Coronafeirws.

Gyda’r ymlediad diweddar o’r feirws yn y Deyrnas Unedig, mae pobl, yn naturiol, yn pryderu am eu hawl i dderbyn tâl os nad ydynt yn gallu gweithio o ganlyniad i deithio ac amryw o ffactorau eraill. Dyma rai o’r cwestiynau ac atebion am Coronafeirws a’ch hawl chi i dderbyn tâl os ydych chi’n absennol o’r gwaith o ganlyniad i’r feirws.

Rydym wedi grwpio chwe cwestiwn ac ateb i gategorïau sy’n seiliedig ar faint y mae eich rhyddid i ddewis/deithio wedi ei gyfyngu gan eraill:

  • Dewis i hunan-ynysu
  • Arbenigwr meddygol neu llywodraeth yn awgrymu i chi hunan-ynysu
  • Gofalu am ddibynyddion sydd fel arfer mewn gofal/ysgol/unrhyw beth tebyg sydd wedi cau o ganlyniad i’r feirws
  • Atâlfeydd gan eich cyflogwyr
  • Cwarantîn gorfodol neu atâlfeydd wedi eu gosod gan y llywodraeth
  • Cael y feirws

(Noder: Pan fo sôn am y llywodraeth a deddfwriaeth, bydd hyn yn ymwneud â llywodraeth a deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.)

Oes gen i’r hawl i gael fy nhalu os ydw i’n dewis hunan-ynysu er mwyn osgoi dal y feirws?

Mae gennych chi nawr yr hawl i dderbyn tâl statudol salwch os ydych chi wedi dewis hunan-ynysu o ganlyniad i’r Coronafeirws, hyd yn oed os yw eich cyflogwr yn mynnu eich bod yn gweithio. Mae deddfwriaethau newydd yn datgan eich bod yn cael eich cyfrif fel unigolion a “ystyrir fel na allwch chi weithio” os ydych chi yn “ynysu rhag pobl eraill mewn modd sy’n atal trosglwyddo’r Coronafeirws… ac o ganlyniad i’r hunan-ynysu, nid ydych chi yn gallu gweithio”.

Os oes modd gweithio o gartef, ac mae eich cyflogwyr yn cytuno i ganiatáu hynny, yn y sefyllfa hynny mi fydd gennych hawl i dderbyn eich tâl arferol.

Bydd angen siarad â’ch cyflogwr am eich pryderon cyn penderfynu gweithredu, er mwyn ceisio cytuno ar y ffordd orau i weithio trwy hyn. Mi fydd cyflogwyr da yn awyddus i drin eu gweithwyr yn yr un ffyrdd. Er hynny, os ydych yn feichiog, yn anabl neu gydag afiechyd y mae eich cyflogwr yn ymwybodol ohono, gobeithiwn y byddant yn fwy derbyniol o’ch cynigion i weithio o adref.

Mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaethau yn gynwysiedig yn The Statutory Sick Pay (General) (Coronavirus Amendment) Regulations 2020. Mae hefyd trafodaethau ynglŷn a gwneud Tâl Salwch Stadudol a fydd ar gael ar y diwrnod cyntaf o absenoldeb, ond nid yw’r deddfwriaeth hyn wedi’i gyhoeddi eto.

A fyddaf yn cael fy nhalu os yw meddyg neu’r llywodraeth yn awgrymu i mi hunan-ynysu o ganlyniad i’r Coronafeirws?

Fel y trafodwyd uchod, mae’r deddfwriaeth nawr yn dweud bod gennych yr hawl i dderbyn Tâl Salwch Statudol os ydych yn hunan-ynysu o ganlyniad i’r Coronafeirws, os yw eich meddyg neu’r llywodraeth wedi ei awgrymu neu beidio. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad oes gennych symptomau. Ond, os oes modd i chi weithio o adref, bydd hawl gennych i dderbyn tâl arferol.

Mae cyflogwyr nawr yn gorfod trin absenoldeb o ganlyniad i hunan-ynysu fel absenoldeb salwch, a chynnig tâl yn unol â hynny. Bydd hi’n well i gyflogwyr os yw unrhyw un sydd wedi bod mewn cyswllt â rhywun gyda’r feirws, eu bod nhw hefyd yn hunan-ynysu.

(Gweler The Statutory Sick Pay (General) (Coronavirus Amendment) Regulations 2020) a S151 Social Security, Contributions and Benefits Act 1992 am ddeddfwriaethau perthnasol.)

Beth yw fy hawliau i gael fy nhalu os oes angen i mi fod yn absennol er mwyn gofalu am ddibynyddion o ganlyniad i’r Coronafeirws?

Mewn argyfwng, mae hawl gennych i gael amser “rhesymol” o absenoldeb er mwyn gofalu am ddibynyddion. Bydd hyn boed eich dibynyddion yn sal, neu bod eu gofalwyr/ysgol arferol ddim yn gallu gofalu amdanynt o ganlyniad i’r Coronafeirws.

Bydd yr amser hyn yn ddi-dâl os nad yw eich cytundeb cyflogaeth yn ei grybwyll neu bod polisi yswiriant yn caniatáu tâl yn y fath sefyllfa. Bydd yr hyn sy’n cael ei dderbyn fel amser “rhesymol” o absenoldeb yn dibynnu ar bob sefyllfa yn wahanol. Bydd eich cyflogwr yn gorfod ystyried eich sefyllfa heb grybwyll yr aflonyddwch posib all hyn achosi i’r busnes. Dylech chi drafod hyn gyda’ch cyflogwyr mor fuan â phosib er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.

(Gweler S57A-57B Employment Rights Act 1996 am ddeddfwriaeth perthnasol)

Oes gen i’r hawl i dderbyn tâl arferol os yw fy nghyflogwr yn gorfodi absenoldebau o ganlyniad i’r Coronafeirws?

Os oes gen eich cyflogwyr reswm digonol i orfodi absenoldebau (er engraifft, eich bod wedi dychwelyd o wlad sydd wedi ei heffeithio neu eich bod wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun sydd wedi eu heffeithio), yna mae ganddyn nhw yr hawl i wneud hynny. Bydd hawl i chi dderbyn eich tâl arferol yn ystod y cyfnod hwn.

Os yw eich cyflogwr yn penderfynu lleihau eich oriau gwaith neu cau eich gwaith, bydd hawl i dderbyn tâl arferol, heb unrhyw leihad. Yr unig eithriad bydd os yw cymal penodol yn eich cytundeb yn cyfleu fel arall, ond mae hyn yn hynod annhebygol.

(Gweler S151 Social Security, Contributions and Benefits Act 1992 a S147-154 Employment Rights Act 1996 am ddefwriaethau perthnasol)

Beth sy’n digwydd i fy nhâl os yw deddfwriaethau yn gorfodi i mi hunan-ynysu o ganlyniad i’r Coronafeirws?

Mae deddfwriaethau newydd Coronafeirws yn y Deyrnas Unedig yn caniatáu y llywodraeth a’r rheiny sydd yn gweithio ar eu cyfer i gadw pobl ar gyfer profion, i osod cyfyngiadau teithio a chyfyngiadau eraill, ac i gadw pobl ar wahân lle bo angen.

Os ydych chi mewn un o’r sefyllfaoedd gorfodol hyn ac methu mynychu’r gwaith o ganlyniad, bydd hawl gennych i dderbyn tâl salwch stadudol. Er hynny, mae eich hawl i dderbyn tâl salwch cytundebol yn dibynnu ar dermau eich cytundeb cyflogaeth.

(Mae deddfwriaethau perthnasol yn cynnwys: The Health Protection (Coronavirus) Regulations 2020;  Statutory Sick Pay (General) Regulations 1982; Public Health (Control of Disease) Act 1984;  a Civil Contingencies Act 2004.)

Os ydw i yn cael y Coronafeirws, a fydda i’n derbyn tâl/absenoldeb salwch arferol?

Os ydych chi wedi eich diagnosio gyda’r Coronafeirws neu’n amau eich bod wedi dal y feirws, bydd hawl derbyn absenoldeb salwch arferol a bydd hawliau tâl, yn union fel salwch arferol.

(Gweler S151 Social Security Contributions and Benefits Act 1992)

Os ydych chi yn teimlo bod eich cyflogwr yn eich trin yn annheg o ganlyniad i absenoldeb neu tâl o ganlyniad i’r Coronafeirws, fel y sefyllfaoedd a drafodwyd uchod, gall Monaco Solicitors fod o gymorth. Rydym yn cynnal ymgynghoriadau am ddim ac yn cynrychioli gweithwyr yn unig.

Monaco Solicitors