Fi wedi bod yn byw gydag iselder a gorbryder ers bron i 3 blynedd nawr, a chefais fy diagnosio ym mis Medi, 2018. Bues i ar antidepressants o’r enw Fluoxetine i fyny hyd at Chwefror, 2019. Do’n i ddim wedi gweld yr angen i ofyn am gael nhw nôl am ddros flwyddyn a hanner achos o’n i’n teimlo’n llawer gwell a chryfach yn fy hun. Roedd gyda fi llawer o gymorth gan ffrindiau a theulu, roedd gyda fi bywyd cymdeithasol da ac o’n i’n mwynhau gwaith.
Yna, daeth y lockdown. Roeddwn i’n teimlo’n dda yn ystod y misoedd cyntaf, ac wrth edrych nôl nawr, roedd angen y brêc yna arna i, bant o ‘bywyd normal’ i jyst ‘switcho off’ o bob dim. Unwaith des i’n gyfarwydd gyda beth oedd yn digwydd (lockdown, Covid-19 ayyb) cicio mewn ‘da fi.. ‘nes i ddechrau cael cwpwl o ‘blips’ neu ‘ups and downs’ le weithiau bydden i’n gorfeddwl pethau ac yn gweithio’n hunan lan llawer. Cefais gwpwl o banic attacks ond dim byd o’n i’n reli poeni amdano, o’n i dal yn gallu rheoli’r sefyllfa. Parhau i ddarllen