Effaith nam golwg ar fy iechyd meddwl – Elin Williams

Rhannol ddall, dall ac anabl, dyma rhai o’r labelau sydd wedi diffinio sawl agwedd o’m mywyd i ers i fi gael y diagnosis o’r cyflwr llygaid dirywiol, Retinitis Pigmentosa (RP), pan oni’n chwe mlwydd oed.

Dwi wedi bod yn berson reit hapus a positif erioed ond dwi methu cuddio’r ffaith bod tyfu i fyny hefo anabledd wedi bod yn sialens ac mae o’n rhywbeth sydd wedi cael effaith ar fy iechyd meddwl mewn mwy na un ffordd.

Dwi wedi bod yn berson distaw ers pan oni’n blentyn a dydi magu hyder erioed wedi dod yn hawdd i mi ond pan nes i ddechrau cael fy mwlio oherwydd fy nam golwg, fe wnaeth o brofi i fod hyd yn oed yn fwy anodd i fynegi fy hun. Roedd y sylwadau câs a’r chwerthin oherwydd bod fi wedi baglu dros rhywbeth gan bod fi heb ei weld yn dechrau cael effaith mawr ac er fy mod yn trio eu cau nhw allan, roedd y sylwadau yn gwneud i mi deimlo’n ddibwys ac fel fy mod i ddim yn perthyn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

‘Mwy angen blogio i gadw iechyd meddwl iach’ : BBC Cymru Fyw

Mae Elin Williams yn galw am fwy o hwb i ysgrifennu blogiau a dyddiaduron wrth ymdrin ag iechyd meddwl.

Dechreuodd Elin, sydd â nam golwg, ei blog ‘My Blurred World‘ fel ffordd i drafod ei theimladau a’i gofidiau.

Dywedodd Elin:

“Mi wnes i ddechrau fy mlog yn 2015 a wnes i ddechrau oherwydd y teimlad o unigrwydd, ac roeddwn i eisiau rhoi fy nheimladau i gyd ar daflen ac roedd o’n dod lot haws a lot fwy naturiol i mi.

Yn amlwg mae pawb yn wahanol ond dwi’n meddwl fod blogio’n gallu bod yn help mawr. Mae ‘di dod yn fwyfwy boblogaidd ac yn helpu i ni siarad am ein problemau.

Unwaith gewch chi eich teimladau ar bapur, does ddim rhaid cyhoeddi nhw. Mae’r teimlad yna o ryddhad. Wnes i erioed feddwl y byddai rhywbeth ‘nes i ysgrifennu yn gallu helpu pobl eraill ac uniaethu hefo. Mae’n rhyfedd ond yn deimlad da.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Y cydberthynas rhwng salwch meddwl a chorfforol – fy mrwydr â Ménière’s Disease

Dwi’n cofio’r pwl o banig cyntaf i mi ei gael erioed yn iawn. Roeddwn i’n 16 oed ac yn gweithio mewn caffi ar y pryd. Y prif symptom y sylweddolais oedd fy nghalon yn carlamu’n andros o gyflym, ond y peth nesaf oedd yr ymdeimlad erchyll bod y ddaear wedi troi ar ei echel ryw 90 gradd o fewn eiliad o dan fy nhraed. Roedd y ddau beth yn bwydo’i gilydd, a’r panig yn codi ynof wrth i’r penysgafndod barhau. Yn y diwedd bu’n rhaid i mi fynd adref o’r gwaith.

Dwi’n cofio teimlo’n ansefydlog ar fy nhraed am ddyddiau wedi hynny, ac roeddwn yn gweddïo na fyddwn i byth yn gorfod profi rhywbeth tebyg eto. Digwyddodd sawl tro yn y misoedd canlynol, er nad oeddent mor wael â’r tro cynta’, ac yn y pen draw es i at y meddyg. Y cwestiynau cyntaf y gofynnwyd i mi oedd a oeddwn i o dan unrhyw straen, oeddwn i’n bwyta’n normal ayb. O fewn 5 munud, cefais ddiagnosis o orbryder. Teimlais yn hollol ddigalon fod yr holl symptomau corfforol hyn yn golygu bod rhywbeth yn bod yn fy mhen. Roeddwn i’n teimlo braidd yn hurt yn dod oddi yna a dweud y gwir, fel petai mod i wedi dyfeisio’r holl beth. Chefais ddim cynnig o unrhyw gymorth o gwbl, jyst cyfarwyddiadau i ‘beidio â phoeni gymaint’ ac i ‘drio ymlacio’.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Un ar hugain ac yn llawn tyllau.

Ers fy niagnosis, mi rydw i wedi injectio fy hun dros 18,000 o weithiau. Bellach, dwi bron yn un ar hugain ac yn llawn tyllau. Does gen i ddim llawer o syniad lle dwi’n mynd efo hwn, ond dyma drïo – â hithau’n Wythnos Diabetes – crynhoi ychydig o be ydi byw hefo cyflwr nad ydi pobl yn gwybod hanner digon amdano, a chynnig – ar sail fy mhrofiadau i, beth bynnag – syniadau ar sut i ddygymod efo effaith y cyflwr hwnnw ar iechyd meddwl yr unigolyn.

Tydi fy nghyflwr i ddim yn cŵl. Tydi o ddim yn roc-a-rôl, nac yn ffasiynol. Mae o’n boen-yn-din, a deud y gwir (yn enwedig pan fydda i’n injectio fy insulin yn fan’no). Tydi o ddim yn glamyrys, a tydi o’n sicr ddim yn hawdd ei reoli. Ond does na ddim denig rhagddo fo. Mae o yno ddydd a nos, yn gneud petha rhyfadd i ’nghorff i, yn dweud wrtha i be ga i ei wneud a be na cha i ei wneud, ac ar brydiau’n fy ngwagio i o bob owns o egni sydd gen i. Weithiau, mae o’n penderfynu nad ydi o yn ei hun yn ddigon, a’i fod o am ymosod ar fy ngallu i frwydro bob annwyd, infection a salwch arall hefyd. Mae o’n fy ngadw i’n effro pan dwi isho cysgu; ac yn trio’i orau glas i ’nghael i i gysgu pan y dylwn i fod yn effro.

Ond mae fy nghyflwr i hefyd yn slei. Tydi o ddim yn tynnu sylw ato’i hun. Mae o’n ei guddio ei hun y tu ôl i frafado’r sgidiau cowboi a’r gôt hir a’r gwallt mop, lle nad oes neb ond y fi’n ei weld o a’i deimlo fo. Parhau i ddarllen

Rhannu

Fibromyalgia a Gorbryder

siriolFi’n dioddef o’r cyflwr fibromyalgia. Mae hwn yn gyflwr sy’n achosi i’r ymennydd anfon signals o boen at rannau o’r corff – coesau a breichiau fwyaf i fi – pan does dim anaf corfforol yna. Mae hefyd yn golygu nad ydw i’n cysgu’n dda, blinder cyson a chyfnodau hir heb egni. Ond y peth gorau nes i glywed dros yr haf (a doedd neb wedi dweud cynt) yw ei fod yn dod i ben! Efallai bydd yn cymryd blynyddoedd ond mae yn dod i ben!

Rhai o brif symptomau neu effeithiau fibromyalgia ydy iselder a gorbryder. Mae’n gwneud synnwyr mewn ffordd, pan chi mewn poen bron pob eiliad o’r dydd mae’n anodd gwneud unrhyw beth ac mae’n haws aros yn y tŷ. Wrth aros fwy a fwy yn y tŷ mae’n mynd yn anoddach i weld pobol a chi felly’n colli cysylltiad gyda ffrindiau ac mae hynny’n arwain yn ôl at yr iselder.

Parhau i ddarllen

Rhannu