Lansio pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd.  Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas.



Lansiad ‘Mae gan bawb Iechyd Meddwl’ Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, Ddydd Iau, 30 Mai 2019

Mae tîm o wirfoddolwyr gwefan meddwl.org wedi bod yn gweithio ar addasu’r pecyn i’r Gymraeg, gyda Sophie Ann Hughes yn arwain ar y gwaith. Dywedodd:

“Rydym yn gwybod fod na fwy a mwy o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma mewn bywyd llawn cyfryngau cymdeithasol, ‘photoshop’ a phwysau academaidd ar ben hynny.  Mae’n bosibl hefyd fod rhieni llawer o’r bobl ifanc yma yn dod o genhedlaeth ble na fyddai iechyd meddwl wedi arfer cael ei drafod mor agored, ac felly mae llawer o bwysau ar athrawon i fod o gymorth.”

“Mae’r athrawon hyn mewn sefyllfa anodd, ac angen mwy o arweiniad nac erioed. Felly mi aethom ni ati i gydweithio efo Canolfan Anna Freud i ddatblygu’r pecyn addysgol fyddai’n cynnig yr arweiniad hwnnw.  Rydym ni eisiau gweld sefyllfa ble mae plant a phobl ifanc yn cael yr addysg angenrheidiol fel y gallant edrych ar ôl eu hunain a’u ffrindiau.  A thra fod adnodd o’r fath ar gael i athrawon cyfrwng Saesneg, roeddem yn gweld fod angen gwirioneddol am adnoddau o safon yn y Gymraeg gan fod trafod yn dy famiaith yn gwneud byd o wahaniaeth.”



Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Bydd hefyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan meddwl.org. Ychwanegodd Sophie:

“Er fod y pecyn wedi ei greu fel adnodd i athrawon, mi ellir ei ddefnyddio yn ehangach hefyd gan unrhyw un sydd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd.  Mae gan bawb iechyd meddwl, ac er lles ein pobl ifanc ni’n arbennig mae’n hollbwysig ein bod ni’n siarad a thrafod y peth yn fwy agored.”



Animeiddiad ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ – Pwyswch yma i lawrlwytho’r pecyn





‘Cymraeg yn y carchar’ – goblygiadau adroddiad ar garcharorion ag anawsterau iechyd meddwl

Delwedd a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol gan Gomisiynydd y Gymraeg

Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, ei hadroddiad diweddaraf – ‘Cymraeg yn y carchar’ – sy’n cyflwyno canlyniadau ei harolwg o hawliau a phrofiadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg.

Yn ei rhagarweiniad i’r adroddiad, noda’r Comisiynydd:

“Mae angen diwallu anghenion iaith carcharorion sy’n siarad Cymraeg er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt gael eu hadsefydlu’n effeithiol. Mae galluogi carcharorion i siarad eu hiaith eu hunain yn dangos parch at eu hunaniaeth, ac yn eu galluogi i’w mynegi eu hunain yn well.”

O ystyried ymchwil a phrofiadau sydd eisoes wedi eu rhannu, mae’r adroddiad yn cyflwyno pryderon sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer y carcharorion hynny sy’n byw ag anawsterau iechyd meddwl. Mae hyn, wrth reswm, yn destun pryder i griw meddwl.org â ninnau’n ymwybodol fod gan garcharorion fwy o anghenion iechyd meddwl na’r boblogaeth yn gyffredinol, a llai o reolaeth dros eu hanghenion gan fod eu bywyd bob dydd, i bob pwrpas, wedi’i reoli gan y carchar.

Rydym eisoes yn ymwybodol fod cleifion iechyd meddwl yng Nghymru yn annhebygol o ofyn am, nac hyd yn oed defnyddio, gwasanaethau Cymraeg a gynigir iddynt rhag cael eu hystyried yn lletchwith a derbyn gwasanaeth israddol.

Nid yw’n syndod felly fod adroddiad y Comisiynydd yn amlygu bod carcharorion hefyd yn dewis peidio â defnyddio’r Gymraeg neu ofyn am wasanaeth yn Gymraeg yn y carchar er mwyn osgoi ‘gwneud bywyd yn anodd’.

Ymhellach, mae’r adroddiad wedi adnabod bod profiadau unigolion sydd wedi eu lleoli yng Nghymru’n well o ran y Gymraeg na phrofiadau’r rheiny sydd wedi eu lleoli mewn carchardai y tu allan i Gymru. Er ein bod yn falch o glywed hynny, ac yn obeithiol fod agoriad HMP y Berwyn yn cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg wrth i fwy ohonynt gael eu lleoli yng Nghymru, mae’n codi pryderon sylweddol am y sefyllfa anfanteisiol y mae merched Cymru ynddi gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru o gwbl.

Fel yr eglura’r Comisiynydd yn ei hadroddiad, mae methiant i ddiwallu anghenion iaith carcharor yn gallu bod yn rhwystr i’r gwaith o adsefydlu’r unigolyn hwnnw’n effeithiol. Rydym yn ystyried bod y broses o adsefydlu’n ymwneud yn gryf ag iechyd meddwl, a chan fod sawl agwedd ymddygiadol a gwybyddol yn aml yn perthyn i waith adsefydlu, mae modd ei gymharu â therapïau newid ymddygiad (a ddefnyddir yn aml ym maes iechyd meddwl). Mae ymchwil blaenorol wedi amlygu y gall methiant i dderbyn gwasanaeth therapi o’r fath trwy famiaith arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol a pheryglus ar gyfer cleifion iechyd meddwl – gan gynnwys anawsterau i fynegi, gorwyliadwraeth annaturiol dros beth maent yn ei ddweud a straen diangen wrth geisio mynegi emosiynau cymhleth mewn sefyllfa fregus llawn pwysau. Gall hyn oll gyfyngu ar fanylder cyfraniadau’r claf gan arwain at anawsterau i gael at wraidd y materion sydd angen sylw. Credwn yn gryf mai’r un fyddai’r anawsterau wrth i garcharor geisio llywio ei ffordd drwy’r broses adsefydlu.

Y cam cyntaf wrth adsefydlu yw cynnal yr hyn a elwir yn asesiad cychwynnol er mwyn adnabod problemau ac anghenion carcharorion er mwyn medru penderfynu ar ddull adsefydlu sy’n addas ar eu cyfer nhw. Yn debyg iawn i’r cam o geisio darganfod diagnosis mewn gofal iechyd meddwl, mae cyfathrebu yn gwbl ganolog i’r broses ac mae’r gallu i wneud hynny’n hyderus ac yn rhwydd yn hanfodol er mwyn sicrhau diagnosis cywir. Mae potensial i rwystrau ieithyddol ar y pwynt hwn arwain at gamddiagnosis a thriniaeth anaddas (ac, yn aml, aflwyddiannus). Yr un yw’r egwyddor mewn ymdrechion adsefydlu. Os nad yw’r carcharor yn gallu cyfathrebu’n gwbl naturiol drwy gyfrwng yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddo, mae risg sylweddol a pheryglus y bydd camddealltwriaeth ynghylch ei anghenion yn arwain at driniaeth anaddas. Effaith hyn yn y pendraw yw perygl i lwyddiant y gwaith adsefydlu, gan osod siaradwyr Cymraeg o dan anfantais o’u cymharu â’u cyfoedion Saesneg eu hiaith. O ystyried mai poblogaeth fregus iawn sydd ymysg ein carcharorion, nid yw gwahaniaethu fel hyn yn dderbyniol o gwbl.

Gobeithio y bydd yr argymhellion yn cael sylw er mwyn cynyddu a sicrhau cydraddoldeb i siaradwyr Cymraeg, gan roi sylw penodol i sefyllfa merched yng Nghymru lle nad oes opsiwn ond eu lleoli mewn carchar dros y ffin.

 


Darllen rhagor:




Comisiynydd y Gymraeg yn galw am fwy o siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd meddwl

Meri Huws

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel iawn – gyda’r ganran cyn ised â 1.9% mewn rhai byrddau iechyd.

Yn ystod trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod hyn yn ‘annerbyniol, eilradd a pheryglus’ a rhannwyd profiadau personol dioddefwyr oedd wedi gorfod trafod eu pryderon a’u meddyliau tywyllaf yn eu hail iaith.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:

“Gan nad yw iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei weld, mae’n rhaid siarad i gyfleu a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a mwyaf personol – ac mae gwneud hynny mewn ail iaith yn boen a straen ychwanegol nad yw claf bregus ei angen.”

Sbardun y drafodaeth yn yr Eisteddfod oedd gwefan Meddwl.org, gafodd ei lansio yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg cymorth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl. Mae’r wefan yn dod â’r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg i un lle ac yn cynnwys adran ‘Myfyrdodau’, sydd yn cynnig cyfle i bobl rannu eu profiadau o salwch meddwl yn y Gymraeg.

Darllen rhagor : Comisiynydd y Gymraeg




Cymraeg yn “ganolog” i’r gwasanaeth iechyd meddwl : Golwg360

Dylai bod yr iaith Gymraeg yn cael ei thrin fel mater “canolog” i wasanaeth iechyd meddwl Cymru, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

 

“Rydym ni wedi clywed heddiw am hanes pobol sydd wedi mynd trwy’r gyfundrefn ac wedi derbyn triniaeth. Ac rydym ni wedi clywed, dro ar ôl tro, cymaint yn well oedd y driniaeth trwy eu mamiaith. Os ydych chi’n fregus ac yn teimlo’n isel ac yn ceisio mynegi hynny trwy ail iaith – dyw e ddim yn dderbyniol. Ni ddylai fod hynny yn digwydd yng Nghymru.”

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn mynd ati yn awr i bwyso ar y Cynulliad i gyflwyno camau er mwyn gallu gosod safonau iaith Gymraeg o fewn y sector iechyd.

Hefyd yn cymryd rhan yn y drafodaeth roedd aelod bwrdd Mind Cymru, Marian Wyn Jones, wnaeth nodi bod angen “cryfhau hyder” sgiliau iaith, gweithwyr yn y maes iechyd meddwl.

“Yn sicr mae ‘na brinder ymarferwyr iechyd meddwl drwyddi draw ym Mhrydain ond yn y Gymraeg mae’n ddiddorol nodi bod yna lai o siaradwyr Cymraeg yn gweithio ym maes iechyd meddwl bron nag yn unrhyw faes arall,” meddai wrth golwg360.

“Felly mae angen cryfhau apêl yr yrfa yma, ac mae angen cryfhau hyder pobol sydd yn gweithio yn y maes i gynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ond mae hefyd angen cynyddu’r nifer sy’n hyfforddi i fod yn seicolegwyr ac yn feddygon. Ac i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu trwytho.”

Darllen rhagor : Golwg360

Erthygl gan y Comisiynydd ar meddwl.org

‘Comisiynydd y Gymraeg yn galw am fwy o siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd meddwl’ : meddwl.org




Annerbyniol, eilradd, peryglus: gwasanaeth iechyd meddwl mewn ail iaith

Meri HuwsBob hyn a hyn mae rhywun yn gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n creu argraff, sy’n gymysgedd o ysgytwad ac ysbrydoliaeth, ac sy’n ei wneud yn fwy penderfynol nag erioed i weithredu er mwyn gwella pethau.

Profiad o’r fath ges i un prynhawn Gwener gwlyb yn ddiweddar. Y lleoliad oedd y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r pwnc dan sylw oedd pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.

Criw bychan ohonom oedd yno – â phawb, rwy’n tybio, yn rhannu’r un farn ynglŷn â phwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg. Er hynny, roedd clywed y siaradwyr yn dweud eu stori yn brofiad dirdynnol. Gadawodd gadernid a dewrder y bobl hyn, sawl un ohonyn nhw’n bobl ifanc, argraff ddofn arna i, a bydd eu geiriau yn aros gyda fi.

Roedd y cyflyrau a’r salwch yn amrywio, ond roedd y profiadau’n gyson. Methu â chael gwasanaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Dyw salwch meddwl ddim yn rhywbeth y gallwch ei weld; mae’n rhaid siarad, ac esbonio a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a’r mwyaf personol. Mae pobl yn gweld siarad am broblemau iechyd meddwl yn anodd beth bynnag y sefyllfa. Ychwanegwch at hyn y boen a’r straen ychwanegol o orfod gwneud hynny yn eich ail iaith; iaith efallai nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn ei siarad, neu iaith nad ydych chi’n teimlo sy’n disgrifio eich teimladau’n iawn.

Pan fo rhywun wedi cyrraedd y sefyllfa lle mae angen gwasanaeth iechyd meddwl arno, nid dyna’r amser i bwyso am wasanaeth Cymraeg. Fel clywsom ni, mae’r claf ar y pwynt hwnnw yn aml – os nad yn ddieithriad, – mewn sefyllfa rhy fregus i fod yn ymgyrchu am wasanaeth Cymraeg. Mae’n cael ei roi mewn sefyllfa amhosibl, o dderbyn gwasanaeth yn ei ail iaith neu aros yn hir am wasanaeth Cymraeg.

Fel Comisiynydd y Gymraeg, mae gen i rôl o ddylanwadu ar y bobl sy’n llunio polisïau a gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Dyma dair neges yr wyf am iddynt eu clywed:

  • Mae disgwyl i glaf bwyso am wasanaeth Cymraeg yn annerbyniol.
  • Mae gwasanaeth mewn ail iaith yn wasanaeth eilradd.
  • Mae gwneud i glaf aros yn hirach am wasanaeth Cymraeg yn gallu bod yn beryglus.

Mae gen i rôl hefyd o osod safonau ar sefydliadau, eu rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth â nhw. Y safonau hyn sy’n creu hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a bydden i’n dadlau nad oes dim sy’n bwysicach nag yn fwy allweddol na hawliau claf i wasanaeth yn ei famiaith.

Serch hynny, alla i ddim cyflawni’r swyddogaeth hon ar hyn o bryd, gan nad yw’r rheoliadau safonau iechyd (sef cynnwys y safonau) wedi eu cyhoeddi. Y Llywodraeth sy’n gyfrifol am eu drafftio a’u llywio drwy’r Cynulliad. Bydd yr holl Aelodau Cynulliad yna yn pleidleisio i’w pasio neu eu gwrthod, a dim ond wedi iddynt gael eu pasio y gallaf fi fwrw ymlaen â’r broses o’u gosod ar sefydliadau.

Fe gynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriad i beth ddylai cynnwys y safonau fod  yn ystod yr haf diwethaf. Ers i’r ymgynghoriad gau, mae gwaith wedi bod yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni i ddatblygu’r rheoliadau, ond rydym dal yn aros iddynt weld golau dydd.  Mae cyflwyno’r rheoliadau hyn yn allweddol er mwyn creu hawliau i gleifion sy’n defnyddio’r Gymraeg ac mae’n bwysig ei bod yn cael eu cyflwyno mor fuan â phosibl.

Fel dywedais i, cynulleidfa fechan ddaeth i wrando ar y sesiwn yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd y profiadau a’r anerchiadau mor gryf ac mor effeithiol, fel fy mod yn teimlo ei bod hi’n hanfodol bod y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau hefyd yn eu clywed. Rwy’n awyddus iawn i gefnogi golygyddion y wefan hon, Cymdeithas yr Iaith ac eraill i rannu’r neges, drwy gael trafodaeth ehangach ar y pwnc.

Wrth gau, carwn ddiolch i meddwl.org, Cymdeithas yr Iaith a’r siaradwyr, am ddigwyddiad arbennig; ac am yr ysgytwad a’r ysbrydoliaeth a gefais i. Gyda’n gilydd fe allwn weithio gyda’n gilydd i wella pethau.

Meri Huws
Comisiynydd y Gymraeg

 

Fideo: ‘Cymraeg yn “ganolog” i’r gwasanaeth iechyd meddwl

‘Comisiynydd y Gymraeg yn galw am fwy o siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd meddwl’ : meddwl.org