PAID A BOD OFN… – Non Parry

Hei! Non Parry dwi. Dwi’n 45, yn briod gyda 3 o blant ac un llys fab ac un llys ferch. Dwi’n aelod o grŵp pop Cymraeg Eden. Dwi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau, felly fel rhywun sydd wedi arfer sgwennu ‘straeon’ os liciwch chi, dwi wedi hen arfer disgrifio cymeriadau a theimladau, meddwl am blot, helpu’r gynulleidfa ddod i ‘nabod prif gymeriadau ayyb. Ond mae sgwennu hwn yn wahanol achos fi yw’r prif gymeriad a’r stori yw’n iechyd meddwl i. Anodd gwybod lle i pitchio ‘dwi’n byw gyda cyfnodau o iselder, panic attacks ac anxiety’ Ond TADAAA! Fi’n ‘colli’r plot’ yw’r plot. Awkward.

I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd gydag Eden googlwch os chi isio… fi di’r un yn y canol sy’n dawnsio a gwenu a chanu caneuon super fun am ‘Parti’s’ a Pethe Bach sy’n neud i fi deimlo’n hapus – a dwi’n feddwl o, mae pethe bach yn neud fi’n hapus. Dwi’n berson rili hapus. A dwi’n CARU canu a dawnsio gyda’r band, mae’n ridiculous o AWESOME! #blessed. ‘Paid a Bod Ofn’ ydy kind of theme tune ni… Ond rŵan dwi am bummio chi gyd allan a datgelu dwi actually ofn LOADS o bethe!

Parhau i ddarllen

Rhannu

Sgitsoffrenia’n ‘codi ofn’ ar gyflogwyr : BBC CymruFyw

Mae dynes o Ynys Môn sydd â sgitsoffrenia yn dweud bod stigma ynglŷn â’r cyflwr wedi effeithio ar ei chyfleoedd gwaith.

Dywed Siobhan Davies, 45 o Rosneigr a mam i bedwar o blant, ei bod eisiau gweithio a chyfrannu i gymdeithas, ond bod cyflogwyr posib yn ofni rhoi cyfle iddi.

Mae Ms Davies yn clywed amrywiaeth o leisiau yn ei phen ers yn 16 oed – pob un ag enw a phersonoliaeth ei hun.

Dywed bod cyflogwyr posib yn clywed ei bod wedi methu gweithio am y saith mlynedd diwethaf tra’n cael gofal i mewn ac allan o’r ysbyty a gofyn i’w hunain: “Ydy hi’n mynd i fod i fewn eto? Fedran ni gymryd siawns arni? Ac mae lot o bobl ddim yn barod i neud hynny. Dyna ‘di’r broblem. Ti’n ca’l dy ddal yn y gorffennol.”

Gwyliwch Siobhan yn trafod ei phrofiadau ar Newyddion9


Rhannu

Clywed Lleisiau; beth sydd o gymorth?

Ymwadiad: Mae gwrthiselyddion yn driniaeth gyffredin ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, ac mae’n bwysig iawn trafod hyn gyda’r meddyg ac i beidio â stopio cymryd tabledi eich hunain.

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am rai sy’n clywed lleisiau nad oes neb arall yn eu clywed neu gweld pethau sy’n anweledig i bawb arall neu, hyd yn oed, teimlo cyffyrddiad pan nad oes neb yn bresennol. Beth yw eich barn am hyn tybed? Eu bod yn bobl sy’n dioddef o gyflyrau dwys? Nad ydyn nhw o’ch cwmpas chi ac nad ydych yn adnabod neb sy’n dioddef fel yna?

Efallai y cawn ni i gyd sioc o ddeall peth mor gyffredin ydi ‘lleisiau’ fel hyn. Ac ar ben hynny, nad ydi hyn yn gyfyngedig i rai sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl yn unig. Mae’n brofiad eithaf cyffredin ond, er hynny, yn brofiad cyfrinachol iawn. Pam hynny tybed? A ydym ni, nad ydym yn clywed lleisiau fel hyn, yn ofnus o unrhyw un sy’n ddigon dewr i gamu ‘mlaen a dweud yn onest am eu profiad? Mae’n amser i ni fod yn agored a derbyn ein bod, fel unigolion, yn wahanol i’n gilydd. Mae’n bryd hefyd i ni groesawu unrhyw un sy’n fodlon rhannu eu profiad a derbyn yr hyn a ddywedant fel ffaith. Ydych chi’n cofio’ch ffrind dychmygol pan oeddech yn blentyn ifanc? Mi fydde hwnnw’n cael eich sylw ac yn ennyn sgwrs hirfaith ar brydiau. Beth sy’n digwydd i chi mewn hunllef ganol nos? Oni fyddwch yn gwrando ar leisiau adeg hynny ac yn ymateb gyda geiriau, sy’n dawel yn eich meddwl gan amlaf, ond sydd dro arall i’w glywed gan eraill o’ch cwmpas? Fe dderbyniwn y ffrind dychmygol a’r cnaf mewn hunllef …….pam bod oedolyn effro sy’n clywed lleisiau yn ein dychryn gymaint tybed? Beth allwn ni ei wneud i fod yn fwy derbyniol o’r sefyllfa?  Parhau i ddarllen

Rhannu

Clywed Lleisiau

lleisiau1Mae’n cael ei ddweud fod pobl yn ‘clywed lleisiau’ os ydych yn clywed llais pan nad oes unrhyw un arall yn bresennol, neu lle nad yw pobl eraill sydd gyda chi yn eu clywed.

Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl yn clywed lleisiau ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn sâl yn feddyliol.

Mae seiciatryddion yn ystyried bod clywed lleisiau yn rhithweledigaethau clywedol, ac yn llawer o achosion ystyrir ei fod yn symptom o sgitsoffrenia. Fodd bynnag, nid yw pawb sy’n clywed lleisiau wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef o sgitsoffrenia.

Mae gan seiciatryddion, seicolegwyr a’r bobl sy’n clywed lleisiau theorïau anghyson ynglŷn â pham fod pobl yn clywed lleisiau. Mae rhai pobl yn dechrau clywed lleisiau o ganlyniad i straen neu drawma eithafol.

Mae’r Rhwydwaith Clywed Lleisiau (rhwydwaith genedlaethol i bobl sy’n clywed lleisiau), yn credu bod y lleisiau’n debyg i freuddwydion, yn symbolau o’n meddyliau’r isymwybod. Oherwydd bod y Rhwydwaith yn agored i lawer o
farnau amrywiol, mae’n derbyn esboniad pob unigolyn sy’n clywed lleisiau.

Parhau i ddarllen

Rhannu