Trefniant newydd o ‘Anfonaf Angel’ yn uno côr : Newyddion 9

Ar S4C dros yr Wyl bydd cyfle i glywed trefniant newydd o’r gân boblogaidd ‘Anfonaf Angel’.

Mae’r rhaglen yn dod â nifer o bobl ynghyd sydd wedi bod drwy gyfnod anodd, ac yn archwilio pwer cerddoriaeth i helpu pobl i oroesi cyfnodau anodd yn eu bywydau.

Bydd ‘Anfonaf Angel: Côr Rhys Meirion’ ar S4C am 9pm nos Fercher 26 Rhagfyr

Gallwch wylio’r rhaglen eto yma

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Effaith cerddoriaeth – Rich Jones : Hansh

Rich Jones yn esbonio sut mae cerddoriaeth yn ei helpu i ddelio â chyflyrau iechyd meddwl.


Rhannu

Ffyrdd Ymarferol o Ymateb i Iselder Ysbryd

Cyn dechrau, ella ddylwn i nodi rhyw fath o disclaimer nad wyf yn therapydd nac yn seicolegydd proffesiynol, nid oes gennyf chwaith gymhwyster yn y maes hwn. Yr hyn a geir isod ydi ffrwyth fy mhrofiad personol yn unig o fyw gydag iselder a gor-bryder clinigol, ac o ymdrechu i ddelio’n llwyddiannus â hwy. Efallai y dylid nodi hefyd mai cyngor ar gyfer unigolion sy’n gwella o gyfnod o iselder clinigol sydd yma; yr adeg hwnnw pan mae pethau wedi sadio ychydig a’ch bod mewn sefyllfa i ymateb yn ymarferol i bwl ychwanegol o iselder neu ansicrwydd.

Dyma rai o’r gweithgareddau ymarferol rwyf i’n eu defnyddio’n rheolaidd ac yn eu ffeindio’n fuddiol:

Cymryd cawod

Mae cymryd cawod yn ffordd hawdd o gymryd mantais o nodweddion llesol dŵr. Os oes gennych gawod yn eich tŷ yna mae gennych uned hydrotherapi bersonol, heb orfod hyd yn oed mynd allan. Dylid cymryd eich amser o dan y gawod a thrio canolbwyntio’n ofalus ar effaith braf y dŵr ar eich corff. Rhowch gyfle i bob rhan o’r corff gael bod o dan y gawod, gan ddechrau efo’ch pen. Gellid hefyd arbrofi efo’r tymheredd, newid o ddŵr cynnes i ddŵr claear cyn gorffen efo dŵr oer, ond nid oes rhaid gwneud hyn yn syth os ydi o yn rhy anodd. Parhau i ddarllen

Rhannu

triniaethau

triniaethauMae nifer o driniaethau effeithiol ar gael, ond nid oes un driniaeth sy’n iawn i bawb. Mae’n bwysig eich bod yn trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol i ddod o hyd i driniaeth sy’n gweithio i chi. Isod ceir rhestr o rai o’r triniaethau mwyaf cyffredin. Yma ceir gwybodaeth am wahanol fathau o driniaethau siarad, meddyginiaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, a therapiau eraill.


Triniaethau Siarad

Math o driniaeth yw triniaethau siarad sy’n cynnwys siarad â therapydd am eich meddyliau a’ch teimladau. Diben triniaethau siarad yw eich helpu i ddeall eich teimladau a’ch ymddygiad yn well ac, os ydych yn dymuno, i newid eich ymddygiad neu’r ffordd rydych yn meddwl am bethau.

Mae triniaethau siarad yn gweithio drwy roi cyfle i chi siarad am eich meddyliau, ofnau ac ymddygiad gyda rhywun sydd wedi cael hyfforddiant proffesiynol er mwyn eich helpu i ddeall y pethau hyn yn well, a’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o newid y pethau rydych am eu newid.

Efallai y byddwch yn teimlo’n orbryderus neu’n ofidus ar y dechrau hefyd. Gall hyn fod am eich bod yn gorfod canolbwyntio ar deimladau anodd y byddai’n well gennych eu hanwybyddu. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch sut rydych yn ymateb i’r therapi – ar unrhyw gam.

Mae llawer o fathau gwahanol o driniaethau siarad, sy’n defnyddio arddulliau a dulliau gwahanol i’ch helpu, ond mae gan bob un ohonynt yr un nod: eich helpu i deimlo y gallwch ymdopi’n well â’ch emosiynau a’r pethau sy’n digwydd yn eich bywyd.

Mae rhagor o wybodaeth i gael ynglŷn â thriniaethau siarad ar wefan Mind.

Parhau i ddarllen

Rhannu