Dwi wastad wedi meddwl y byddwn i’n cael plant ryw ddydd. Pan ddechreuodd rai o fy ffrindiau gael plant yn eu hugeiniau, nes i gymryd yn ganiataol y byddwn i’n neud yr un peth. Daeth y syniad hyd yn oed yn agosach at realiti pan briodais i ddwy flynedd yn ôl, ac yna pan wnes i droi’n 30 oed y llynedd. Yna ym mis Chwefror eleni, ffindes i mas mod i’n feichiog.
camesgoriad
Gall camesgoriad arwain at straen wedi trawma hirdymor : BBC
Rhybudd cynnwys: camesgoriad (miscarriage)
Mae 1 o bob 6 menyw sy’n colli babi yn ystod cyfnod cynnar ei beichiogrwydd yn profi symptomau hirdymor o straen wedi trawma, yn ôl astudiaeth ddiweddar.
Yn ôl ymchwilwyr, mae ar fenywod angen gofal mwy sensitif a phenodol yn dilyn camesgoriad neu feichiogrwydd ectopig.
Yn yr astudiaeth o 650 o fenywod, a gynhaliwyd gan Imperial College London a KU Leuven yng Ngwlad Belg, dangosodd 29% o’r menywod symptomau o straen wedi trawma un mis yn dilyn camesgoriad.
Mae’r astudiaeth yn argymell bod menywod sydd wedi cael camesgoriad yn cael eu sgrinio i ganfod pwy sydd â’r risg uchaf o ddatblygu problemau seicolegol.
Darllen rhagor : BBC (Saesneg yn unig)
Iechyd Meddwl a Cholled
Yn ôl y Miscarriage Association, mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad (miscarriage). Ond does neb yn siarad am hynny.
Mae’r rheol o beidio cyhoeddi eich beichiogrwydd cyn deuddeg wythnos yn achosi straen enfawr i’r rhai sy’n profi camesgoriad, a’r disgwyliad yw i barhau â’ch bywyd fel petai popeth yn iawn. Yn anffodus, nid yw mor hawdd â hynny.
Dwi’n gwybod hyn oherwydd dwi’n un o’r rhai hynny, dwi’n un o bob pedwar, dwi wedi cael camesgoriad. Mae rhannu’r holl manylion personol hyn yn teimlo’n rhy ymwthiol i oddef, ond dwi’n teimlo dyletswydd i wneud yn y gobaith y bydd o gysur i rywun arall ac yn chwalu’r stigma sy’n bodoli.