Tri phrofiad o anhwylderau bwyta : Heno

Aled James, Nia Owens a Gwen Edwards yn rhannu eu profiadau o anhwylderau bwyta ar Heno (5 Mawrth 2020)


Rhannu

‘Gwella’n dechrau dod yn bosib’ – Ffion Jones

Rhybudd cynnwys – Problemau bwyta, hunanladdiad, hunan-niweidio (ond dwi’n addo bod hwn yn ddarn sy’n cynnig gobaith!)

Pan welais i bod #2019in5words yn trendio ar Twitter,  aeth fy meddwl yn syth i “totally fucked up dumpster fire”, “the government let us down” neu, fel y dywedodd Greta Thunberg mor huawdl, “our house is on fire”. Fodd bynnag, yn wahanol i’r arfer, penderfynais i fod rhywfaint yn fwy positif am y peth.

Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn dwi’n teimlo, o’r diwedd, fy mod wedi dechrau delio â’r problemau sydd wedi bod yn dinistrio fy mywyd ers blynyddoedd. Dechreuodd y flwyddyn yn wael. Ar Ddiwrnod Calan, fe wnes i hunan-niweidio, gwneud fy hun yn sâl a bron i mi geisio lladd fy hun. Oherwydd hynny, fe wnaeth ffrind agos orfod cysylltu â fy Mam oherwydd ei bod yn bryderus am fy niogelwch a lles. Wrth edrych yn ôl, dylwn i fod wedi bod yn yr ysbyty mewn gwirionedd, ac mae’n codi ofn arna i pa mor agos oeddwn i gyflawni fy nghynlluniau. Mae’r daith araf ers un o fy nyddiau isaf wedi bod yn lafurus i ddweud y lleiaf ond ers y 363 (?? ish) diwrnod diwethaf, alla i ddweud yn onest fy mod wedi dod mor bell o’r pwynt hwnnw.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Adolygiad o ‘Madi’ (Dewi Wyn Williams, Atebol) – Manon Elin

Adolygiad oddi ar gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

Dyma nofel bwerus a dirdynnol am ferch yn ei harddegau sy’n datblygu anorecsia a bwlimia, a’i brwydr hi â’r anhwylderau hynny.

Yn ogystal ag addysgu eraill am realiti byw neu ddioddef o anhwylderau bwyta, mae stori Madi yn un y gall nifer o bobl ifanc uniaethu â hi, a chael cysur o fedru darllen am eu profiadau hwy yn y Gymraeg. Dylid hefyd pwysleisio mor werthfawr yw cael nofel wreiddiol sy’n ymdrin â salwch meddwl i bobl ifanc yn Gymraeg.

Nid yw’r awdur yn cuddio oddi wrth bynciau cymhleth a dwys wrth ymdrin ag anhwylderau bwyta. O ddewis pwnc mor ddwys, mae cyfrifoldeb ar yr awdur i wneud cyfiawnder â’r rhai sy’n byw gyda’r salwch gan aros yn driw i’w profiadau hwy, ond llwydda Dewi Wyn Williams i gyflwyno darlun gonest a real, a hynny heb fod yn orddramatig.

Portreadir anorecsia drwy gymeriad ‘Llais’, sy’n dechrau fel ffrind gorau dychmygol i Madi pan mae hi’n blentyn, ond sy’n prysur droi yn fwli ac yn elyn pennaf wrth i gyflwr Madi waethygu. Mae portreadu’r salwch fel cymeriad yn effeithiol ac yn dangos ei hollbresenoldeb gan amlygu pa mor anodd ydyw i’w anwybyddu. Mae’n hawdd i’r darllenwyr anghofio nad yw Llais yn bod, ac mai ‘llais’ ym mhen Madi yn unig ydyw gan fod y portread mor fyw.

Parhau i ddarllen

Rhannu

‘Madi’ – nofel newydd am anhwylderau bwyta : Atebol

Nofel i oedolion a phobl ifanc yw Madi gan yr awdur a’r dramodydd amryddawn, Dewi Wyn Williams. Dyma gyfrol ddirdynnol a chignoeth sy’n adrodd stori merch ifanc sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac yn cuddio’r salwch.

Gydag arlunwaith lliwgar a manwl Niki Pilkington yn addurno’r clawr ac ambell i dudalen o fewn y gyfrol, dyma stori gan awdur sy’n ysgrifennu’n onest am bwnc sy’n bersonol iawn iddo.

Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth. Sut gall Madi ddod o hyd i’r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi yn gwmni? Nid yw stori Madi’n ddarllen cyfforddus, ac er bod y nofel yn llawn hiwmor tywyll a sylwadau crafog, mae’r cynnwys yn gignoeth. Dyma nofel heriol i’n cymdeithas fodern, a’i harddull a’i themâu anghonfensiynol yn torri cwys newydd.

Dywedodd Dewi:

“Mae’r cyflwr yn cynyddu ar draws y byd, yn cael ei fwydo gan gymdeithas sydd yn edrych fwyfwy i’r drych ac mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth am y cyflwr seicolegol erchyll hwn sydd yn dinistrio unigolion a theuluoedd.”.

Bydd Madi ar gael i’w brynu ar ddiwedd mis Mawrth am £8.99 yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwyr, Atebol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Nigel Owens ac iechyd meddwl

Nigel Owens yn rhannu ei brofiadau o iselder a bwlimia ar Radio Cymru yn ddiweddar.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Anhwylder Bwyta – Sut alla i helpu?

Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus iawn os ydych yn credu bod gan rywun yr ydych yn agos atynt broblem bwyta.

Gall fod yn anodd gwybod sut i siarad â nhw neu sut i ymdopi â’r newidiadau yn eu hwyliau. Efallai eich bod eisoes wedi ceisio cynnig cymorth iddynt, ond bod y person hwnnw yn anfodlon neu’n methu derbyn cymorth. Gall hyn wneud i chi deimlo’n ddiymadferth ac yn grac.

Mae sawl peth defnyddiol y gallwch chi wneud:

Gadewch iddynt wybod eich bod chi yna

Un o’r pethau mwyaf pwysig y gallwch chi wneud yw gadael i’r person yr ydych yn poeni amdanynt wybod eich bod chi yna, eich bod yn gwrando ac yn gallu eu helpu i ddod o hyd i gymorth. Gadewch y person wybod eu bod yn gallu siarad â chi pan fyddant yn barod.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gallai camsyniadau am anhwylderau bwyta fod yn niweidiol : BBC

Nid oes llawer o bobl yn medru adnabod arwyddion anhwylder bwyta.

O’r 2,108 o oedolion a holwyd gan YouGov, nid oedd 79% ohonynt yn medru enwi symptomau seicolegol anhwylderau bwyta, megis hunan-barch isel neu dysmorffia’r corff.

Nid yw hyn yn syndod i’r hyfforddwr ioga James Downs, a’r flogwraig Aliss Bonython.

Maent ill dau yn byw gydag anhwylderau bwyta, ac yn dweud bod camsyniadau ynghylch sut mae anhwylderau bwyta yn edrych yn niweidiol iawn.

Dywedodd James iddo gael diagnosis o anorecsia pan oedd yn 15 oed. Bellach, mae’n 28 oed ac ystyrir fod ei bwysau yn iach, ond dywedodd wrth Newsbeat ei fod yn dal i ymdopi â bwlimia bob dydd.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dynes ifanc yn disgrifio’i brwydr ag anhwylder bwyta : WalesOnline

Llun: Izzy Harris

Mae Izzy Harris yn 20 mlwydd oed ac yn dod o Abertawe. Dyma ei disgrifiad dewr hi o’i phrofiad ag anorecsia a bwlimia.

Ers i mi gofio, rwyf wedi bod yn hunanymwybodol am fy nghorff, felly, pan ddechreuais gymharu fy mhwysau a fy maint â’r merched eraill yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn hoffi’r hyn roeddwn i’n ei weld yn y drych. Roeddwn i ychydig fodfeddi yn dalach na’r cyffredin, felly roedd fy nghoesau ychydig yn fwy, fy stumog ychydig yn fwy crwn, a fy ngwasg ychydig yn fwy llydan na phawb arall.

Pan oeddwn i’n 15 oed dechreuais fynd ar ddeiet. Roeddwn i’n gwneud llawer o ymarfer corff ac yn cyfri pob calori gydag ap ar fy ffôn. Aeth fy mhrydau bwyd yn llai a dechreuais hepgor rhai pethau o’m deiet.

Roedd y glorian yn dweud bod fy mhwysau yn lleihau, ond ni allwn weld y gwahaniaeth yn y drych o ddydd i ddydd, felly wnes i barhau.

Fe wnes i roi’r gorau i fwyta brecwast a chinio. Roeddwn i’n gwneud ymarfer corff am oriau bob dydd. Gwnes fy hun yn sâl er mwyn lleihau’r nifer o galorïau roeddwn i’n eu bwyta.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Anorecsia: ‘To The Bone’ a’r gwir y tu hwnt i’r sgrîn 

to-the-bone-620x412
Llun o’r ffilm ‘To the Bone’

Ar ôl dioddef ag anorecsia am dros ddegawd, gallech chi ddweud fy mod i’n arbenigwraig wrth drafod anhwylderau bwyta. Dwi wedi dioddef â dau math o anhwylder bwyta dros y blynyddoedd: anorecsia a bwlimia.

Dwi’n 25 oed bellach ac wedi gwella cymaint. Dwi yn y categori BMI iach ac mae fy arferion bwyta yn normal, ond mae’r portread o anhwylderau bwyta yn y cyfryngau ac ati yn parhau i achosi trafferth i mi.

Dwi am drafod y ffilm newydd ‘To The Bone’ ar Netflix, a’r effaith niweidiol y gallai gael ar ddioddefwyr. Dwi’n gobeithio y bydd hyn yn helpu’r rhai hynny sy’n dioddef i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch p’un ai i wylio’r ffilm neu beidio, ac yn bennaf dwi am i’r bobl sy’n creu’r math hwn o gynnwys i wneud hynny’n gyfrifol gan ystyried y rhai hynny sy’n dioddef yn eu bywyd go iawn.

Parhau i ddarllen

Rhannu