Lansio canllaw ar hunanladdiad a hunan-niwed i gefnogi ysgolion : Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar Hunanladdiad a Hunan-niwed newydd i gefnogi athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phobl ifanc yn rheolaidd.

Mae’r canllaw’n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar a rheoli meddyliau am gyflawni hunan-niwed a hunanladdiad yn ddiogel pan fyddant yn codi.

Bydd y canllaw’n darparu ffynhonnell gyflym a hygyrch ar gyfer egwyddorion arfer gorau a bydd yn cyfeirio at ffynonellau cymorth a chyngor eraill.

Darllen rhagor : Llywodraeth Cymru

Gweld y canllaw


Rhannu

Athrawon a Rhieni / Gwarchodwyr

Gwybodaeth i athrawon a rhieni / gwarchodwyr ar gefnogi pobl ifanc

Athrawon

Tra bo ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl o fewn y system addysg yn gwella, bydd maint y gefnogaeth a roir i athrawon ac i fyfyrwyr fel ei gilydd yn amrywio o ysgol i ysgol. I athrawon, mae lles a buddiannau myfyrwyr yn flaenoriaeth amlwg. O’r herwydd, mae ar athrawon angen teimlo’n ddigon hyderus i gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd 2019. Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Lansio pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd.  Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas.



Lansiad ‘Mae gan bawb Iechyd Meddwl’ Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, Ddydd Iau, 30 Mai 2019

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mae gan bawb Iechyd Meddwl: Animeiddiad a Phecyn Cymorth i Athrawon

Animeiddiad

Anelir yr animeiddiad ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’ a’r pecyn cymorth cysylltiedig at ddisgyblion uwchradd Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9). Fe’u datblygwyd gan Ganolfan Anna Freud mewn cydweithrediad â phobl ifanc, athrawon ac arbenigwyr iechyd meddwl, ac fe’u haddaswyd i’r Gymraeg gan griw meddwl.org. Gallwch wylio’r animeiddiad isod.

Nod yr animeiddiad yw sicrhau fod gan pobl ifanc o’r oedran yma:

  • Iaith gyson a hygyrch er mwyn trafod iechyd meddwl
  • Ddealltwriaeth well o hunanofal iechyd meddwl
  • Wybodaeth am bwy i ofyn am gefnogaeth pan fo’i angen

Mae’r Pecyn Cymorth ar gyfer staff ysgol sydd i’w ddefnyddio ochr yn ochr â’r animeiddiad uchod yn cynnwys:

  • Cynllun Gwers a Chyflwyniad Powerpoint
  • Cynllun Gwasanaeth a Chyflwyniad Powerpoint
  • Adnoddau ac ymarferion dosbarth amrywiol

Ffeiliau i’w Lawrlwytho

Canolfan Anna Freud

Adborth

Ydych chi wedi defnyddio’r animeiddiad a/neu’r adnoddau? Hoffem glywed eich adborth. E-bostiwch post@meddwl.org a rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl! Byddwn yn anfon unrhyw sylwadau ymlaen at Ganolfan Anna Freud.


Byddwn yn anfon copi o’r pecyn cymorth Cymraeg i athrawon at bob ysgol Cymraeg a dwyieithog. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad tuag at y costau.


Rhagor o wybodaeth

Rhannu

Athrawon: sut mae cefnogi disgyblion sydd â chyflwr iechyd meddwl

Daw’r wybodaeth isod o wefan Blurt

Tra bo ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl o fewn y system addysg yn gwella, bydd maint y gefnogaeth a roir i athrawon ac i fyfyrwyr fel ei gilydd yn amrywio o ysgol i ysgol.

I athrawon, mae lles a buddiannau myfyrwyr yn flaenoriaeth amlwg. O’r herwydd, mae ar athrawon angen teimlo’n ddigon hyderus i gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl. Os ydych yn athro neu’n athrawes, gall yr erthygl hon fod o fudd i chi.

Polisi ar draws yr ysgol

Bydd gan lawer o ysgolion bolisi iechyd meddwl. Gall hynny gynnwys gwybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud mewn argyfwng, cadw cofnodion, cyfeirio a chyfrinachedd. Mae’n fuddiol adolygu’r polisi hwn yn rheolaidd er mwyn i chi ddod yn gyfarwydd â’r drefn weithredu os ydych yn poeni am berson ifanc.

Parhau i ddarllen

Rhannu