Ymdopi gydag arholiadau

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo o dan straen yn ystod y cyfnod arholiadau, ond mae llawer o bethau y galli di eu gwneud i ymdopi.

  1. Edrych ar ôl dy hun. Mae’n bwysig dy fod yn bwyta ac yn cysgu’n dda.
  2. Paid ag adolygu drwy’r amser. Gwna’n siŵr dy fod yn cael amser bob dydd i ymlacio, gan gymryd seibiant
    i wneud rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau – gwylio’r teledu, gwrando ar gerddoriaeth, darllen llyfr neu fynd allan am dro.
  3. Llunia amserlen adolygu – cynllunia hi ymhell cyn i’r arholiadau ddechrau.
  4. Mae pawb yn adolygu mewn ffordd wahanol. Canfydda’r patrwm sy’n dy siwtio di – ar dy ben dy hun neu gyda ffrind neu riant/gofalwr; yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos; cyfnodau byr, dwys neu sesiynau hirach; gyda cherddoriaeth neu heb unrhyw sŵn.
  5. Gofynna am help gan dy athro / mentor dysgu, rhiant/gofalwr neu ffrind os wyt ti’n teimlo dan straen, neu os oes pethau nad wyt ti’n eu deall.

Darllen rhagor: nspcc.org (Saesneg)

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cŵn yn lleihau’r straen ar fyfyrwyr adeg arholiadau : BBC Cymru Fyw

Mae myfyrwyr yn un o brifysgolion Cymru’n cael cymorth o le annisgwyl i’w helpu gyda’u harholiadau.

Mewn partneriaeth unigryw, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn defnyddio cŵn i leihau’r straen ar fyfyrwyr adeg eu harholiadau.

Trwy gydol Ionawr, mae’r elusen Achub Milgwn Cymru (AMC) wedi dod â chŵn i gampws Singleton y coleg er mwyn helpu’r myfyrwyr ymlacio rhwng arholiadau.

Mae’r sesiynau Cymorth Astudio hefyd yn helpu rhai o’r cŵn i “ddechrau ymddiried mewn pobl eto”, meddai un o wirfoddolwyr yr elusen.

Y sesiynau gyda’r cŵn yw’r mwyaf poblogaidd o holl raglen Cymorth Astudio’r undeb.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Diwrnod Canlyniadau ac edrych ar ôl eich iechyd meddwl

canlyniadauDwi’n cofio Diwrnod Canlyniadau blwyddyn ddiwethaf yn glir. Ar ôl blwyddyn heriol gyda fy iechyd meddwl, roedd amser arholiadau wedi bod yn andros o anodd hyd yn oed gyda’r gefnogaeth oedd gennai o fy nghwmpas.

Roeddwn yn ofnus iawn o ddiwrnod canlyniadau. Roedd disgwyliadau andros o uchel ohonai ag ni oeddwn yn sicr fy mod yn gallu cyrraedd y disgwyliadau yna na fy ngraddau disgwyliedig.

Roedd y wythnosau yn arwain at y diwrnod yn ofnadwy heb siawns i ddianc o’r ffaith fod fy nyfodol am gael ei benderfynu ar y diwrnod yna. Roeddwn wedi cynllunio sut i daclo’r diwrnod er mwyn osgoi pyliau o banig a chrio o flaen unrhyw un.

Ar ôl jyst ychydig o oriau o gwsg aeth fy larwm i ffwrdd. Roedd yn amser i edrych ar UCAS. Roeddwn yn teimlo’n sâl gyda’r pryder wrth i mi logio i mewn i edrych. Wrth logio i mewn gwelais fy mod wedi derbyn lle ym Mhrifysgol Caerdydd ond nid yn fy newis cyntaf. Roeddwn yn andros o anhapus ag wnes i fyrstio i mewn i ddagrau. Roedd yn golygu fy mod i ddim wedi cyrraedd fy ngraddau disgwyliedig. Roeddwn wedi gwneud digon i gael lle mewn prifysgol ond ddim digon i gyrraedd y disgwyliadau ohonai.


Rhannu

Canlyniadau arholiadau: mwy yn chwilio am gymorth oherwydd pryder : Golwg360

unnamedMae nifer cynyddol o bobol ifanc yn chwilio am gymorth er mwyn ymdopi â phwysau canlyniadau arholiadau, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl ffigyrau’r elusen NSPCC, fe ddarparodd eu gwasanaeth Childline dros 1,000 o sesiynau cwnsela yn ystod 2016/2017 i bobol oedd yn pryderu am arholiadau.

Mae hyn yn gynnydd o 21% o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol.

Cafodd 110 o’r sesiynau cwnsela yma eu cynnal gan wirfoddolwyr y llinell gymorth mewn dwy ganolfan yng Nghymru – yng Nghaerdydd a Phrestatyn.

Daw’r ystadegau ddiwrnod cyn y bydd pobol ifanc yn eu harddegau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn derbyn eu canlyniadau lefel A.

Mae’n debyg yr oedd nifer o bobol ifanc bu’n siarad â chwnsleriaid, yn teimlo’n isel a’n bryderus, ac yn poeni am ymateb eu rhieni i’w canlyniadau.

Darllen rhagor : Golwg360

Rhannu

plant a phobl ifanc

Gall plant a phobl ifanc brofi amrywiaeth o heriau iechyd meddwl.

Mae plentyndod a’r arddegau yn gyfnod lle ‘rwyt ti’n newid ac yn datblygu yn gyflym, ac wrth i ti dyfu a datblygu mae’n bosib dy fod yn wynebu heriau a phwysau aruthrol mewn nifer o agweddau yn dy fywyd.

Mae’n bosib dy fod di hefyd yn gorfod ymdopi â nifer o sefyllfaoedd gwahanol a heriau newydd fel arholiadau, perthnasau a phwysau eraill sy’n dod gyda thyfu fyny.

Mae tudalennau penodol ar ein gwefan i:

Rhannu