Cerdded y ci yn llesol i iechyd meddwl dros draean o bobl : Golwg360

Mae 35% o berchnogion cŵn yng Nghymru wedi datgan bod cael ci wedi gwella eu hiechyd meddwl ac yn lleihau lefelau straen.

Yn ôl yr ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan gwmni bwyd ci Lintbells, mae’r rheini sydd â chŵn yn cerdded dros 15 milltir yr wythnos a thua 870 milltir y flwyddyn yng Nghymru.

Mae 15% yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy cymdeithasol ac yn fwy o ran o’r gymuned hefyd, tra mae 28% yn dweud eu bod yn cerdded mwy ar ôl cael ci nag oedden nhw heb gi.

Darllen rhagor : Golwg360


Rhannu

Cŵn yn lleihau’r straen ar fyfyrwyr adeg arholiadau : BBC Cymru Fyw

Mae myfyrwyr yn un o brifysgolion Cymru’n cael cymorth o le annisgwyl i’w helpu gyda’u harholiadau.

Mewn partneriaeth unigryw, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn defnyddio cŵn i leihau’r straen ar fyfyrwyr adeg eu harholiadau.

Trwy gydol Ionawr, mae’r elusen Achub Milgwn Cymru (AMC) wedi dod â chŵn i gampws Singleton y coleg er mwyn helpu’r myfyrwyr ymlacio rhwng arholiadau.

Mae’r sesiynau Cymorth Astudio hefyd yn helpu rhai o’r cŵn i “ddechrau ymddiried mewn pobl eto”, meddai un o wirfoddolwyr yr elusen.

Y sesiynau gyda’r cŵn yw’r mwyaf poblogaidd o holl raglen Cymorth Astudio’r undeb.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Gallai treulio amser gydag anifeiliaid helpu

Mae llawer ohonom yn caru anifeiliaid, a gall ein hanifeiliaid anwes wir ein helpu i deimlo’n well am ein hunain, ac am fywyd. Gall eu presenoldeb godi ein hwyliau a bod yn gysur i ni.

Sut maen nhw’n helpu?

Mae nifer y ffyrdd y gall anifeiliaid ein helpu. Gallant wella ein hwyliau, ein tawelu, a bod yn ffrind gorau i ni.

Daearu (grounding)

Weithiau gallwn deimlo ‘allan ohoni’, neu wedi ein datgysylltu oddi wrth y byd. Gall rhoi mwythau, neu gysylltu ag anifail wir helpu i’n daearu a’n hail-gysylltu ni â’r byd o’n cwmpas.

Lleihau teimladau o unigrwydd

Gall salwch meddwl ein hynysu ni. Gall ei wneud yn anodd i ni i weld pobl ac i wneud pethau. Weithiau, gall bod yng nghwmni ein cyfaill blewog leihau pa mor unig y teimlwn. Yn ychwanegol, gall ein hanifeiliaid ein cyflwyno i bobl eraill sydd â rhywbeth yn gyffredin â ni – bydd cŵn yn aml yn gwneud ffrindiau â chŵn eraill, sy’n medru ein cyflwyno ni i’w perchnogion. Gall anifeiliaid mwy, fel ceffylau, ein cyflwyno i bobl eraill yn y stablau. Mae cyfarfod â’r bobl hyn yn wych gan fod gennym bwnc trafod hawdd – ein hanifeiliaid.

Parhau i ddarllen

Rhannu