Fydd genai byth gorff dwi’n hapus gyda, dwi’n gwybod hynny bellach! – Dylan Cernyw

Mae ’na adegau mewn bywyd lle da chi’n eistedd ’nol a meddwl, ‘Be ddiawl dwi ’di g’neud i’n hun?’. Ar drothwy penblwydd arall mae’r flwyddyn yma wedi gwneud i fi feddwl lot am fy hun, fy nghorff a sut dwi am dreulio gweddill fy mywyd.

Dwi’n cofio lle gychwynodd hyn i gyd – Tachwedd 1992, gweld fy hun ar yr hen deli bocs’na a meddwl, ‘Be ddiawl oedd hwna?’ –  Hogyn 22 oed, dros bwysau, ac yn ddi-siap, ddim yn hapus gyda’n hun o gwbl ac hefyd yn trio cuddio rhywioldeb. Mae’n siwr ei fod yn mynd ‘nol cyn hynny – yr ysgol efallai, ond dyna’r adeg dwi’n cofio pethau yn newid. Byth ers hynny dwi wedi bod yn paffio mhwysau, fy nheimladau ac fy nghorff.

Oni yn hogyn ysgol o Gyffordd Llandudno, Conwy, yn chwarae’r delyn a ddim yn hoffi ymarfer corff, ac ar dop hyn yn trio cuddio fy rhywioldeb. Oni’n hoffi bwyd, yfed lot o “Coke” a gwneud dim ymarfer corff.  Yr unig beth agos at fynd i’r gym oedd cario’r delyn fewn ag allan o’r car! (a’r un peth ydi hi rwan yn anffodus).

Dyna lle gychwynnodd hyn i gyd –  angen colli pwysau unrhyw ffordd posib i drio edrych a theimlo’n well! Felly peidio bwyta o gwbl, methu prydau bwyd neu stwffio’n hun yn wirion heb i neb wybod, a gwneud unrhyw esgus i fynd i’r tŷ bach ar ôl bwyd i fod yn sâl – oni wedi dod yn dipyn o ‘pro’ ar hyn.  Yna ddaru Mam ffeindio allan, dyna oedd yr ergyd fwyaf. Gorfod mynd i weld y meddyg a siarad ayyb, ddaru hyn fynd ymlaen am flynyddoedd.  Ar fy ngwaethaf oni yn Ysbyty Gwynedd ar drip ac yn teimlo’n ‘shit’ am yr hyn oeddwn i yn ei wneud, smalio  ’mod i methu bwyta a nhw’n rhoid fi ar drip i ’mwydo, ond y gwir ydi oni wedi gwneud fy hun yn sâl oherwydd sut oni yn teimlo am fy hun. Ddaru fi wella ychydig wedyn, hyd nes i rhywbeth arall ddigwydd, dyna oedd y triggers medde nhw, colli rhywun agos, teulu, neu ddigwyddiad, a ddaru hyn fynd a fi nol i’r gwaelodion… Parhau i ddarllen

Rhannu

Adeiladu bywyd ar ôl anorecsia – Nia Owens

Mae’r broses o adfywio ar ôl anorecsia bron mor anodd â’r meddyliau. Mae pawb yn gweld chdi yn rhoi pwysau nôl ymlaen ac yn meddwl ‘grêt, mae drosodd’. Ond y gwir yw, does neb yn dod dros anorecsia nag unrhyw anhwylder bwyta. Mae’r meddyliau a’r lleisiau wastad yna.

Gweld hen luniau o dy hunan yn denau, gweld lluniau o bobl arall sydd yn denau yn naturiol a meddwl am fynd nôl, ailwaelu. Yn hollol onest, yr unig ffordd dwi heb fynd nôl eto yw bod gennai amser i fy hunan yn y gampfa, dwi nawr wedi newid fy meddwl at adeiladu cryfder a chyhyrau ond ma’ amser pryd ma’ bywyd yn mynd yn ei flaen, efallai nid oes amser i fynd i’r gampfa, neu nid yw’r gampfa ar agor… Mae’r lleisiau yn dod nôl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Effaith dechrau’r brifysgol ar bobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl: fy stori i

Yn dechrau yn y brifysgol, o’n i’n ferch 18 oed, yn syth allan o’r chweched dosbarth ac yn edrych ymlaen i ddechrau bywyd newydd, mewn dinas newydd a gyda phobl newydd.

O’n i’n llawn addewidion. “Hwn fydd dy wneud di”, “Bydd bywyd Prifysgol y tair blynedd orau o’ch bywyd”, “Byddwch yn oedolyn annibynnol o’r diwedd – diolch byth”. O’n i’n ddigon diniwed i gredu’r addewidion hyn ac yn credu bysai mynd i brifysgol yn allwedd i droi fy hunan mewn i berson hollol newydd a gadael fi ddechrau eto – rhywbeth o’n i eisiau ac angen yn daer.

Ers amser hir, o’n i wedi bod yn struglo gyda phroblemau iechyd meddwl sylweddol yn cynnwys gorbryder, iselder ac anhwylder bwyta. Roedd y daith trwy ysgol a Lefel A yn anodd ac o’n i wedi treulio jyst llai na blwyddyn mewn therapi. Rhaid cyfaddef, o’n i’n neud yn dda. Ond, wrth edrych yn ôl fi’n meddwl efallai o’n i wedi perswadio fy hun o’n i’n well na’r realiti, a bod y dechrau newydd wedi golygu bydd dim angen cael therapi o gwbl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mae ‘na haul ar ddiwedd yr ogof – Nia Owens

Ma’ na haul ar ddiwedd yr ogof…

O ni fyth yn ferch swil o gwbl yn ysgol. Oedd ffrindiau da gen i, nid oedd unrhyw beth all unrhyw un ddweud wrtha’i fy effeithio. Ond, do’n i fyth yn hollol hapus gyda nghorff, o’ni just ddim yn meddwl llawer amdano. Pan o’ni yn y chweched newidiodd popeth yn hollol. O’n sboner a fi wedi gwahanu, ac fe ddadleais efo’n holl grŵp o ffrindiau, yn gadael fi ar ben fy hun, yn unig ac yn hollol ddi-hyder. Dyna’r peth cyntaf oedd wedi cychwyn yr holl cogs yn fy mhen fy mod i ddim digon da.

Aeth flwyddyn olaf chweched heibio, collais damed o bwysau ond dim byd llawer – dim ond tyfu i fyny o ni’n meddwl o’ni. Dechreuais y Brifysgol yn yr un dref a oedd yn golygu fy mod i wedi gallu aros adref. Oedd gen i ffrindiau newydd ac roedd pethau yn dda eto, ond yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol wnaeth pethau adref newid ychydig gan olygu fy mod i’n helpu fwy gyda gwaith adref. Oedd yr angen amdana’i adref yn rhoi rhyw fath o bwrpas i fi, o ni eto’n teimlo fel fy mod i’n plesio ac yn ddigon.

Yn y Brifysgol newidiodd pethau…

Parhau i ddarllen

Rhannu

‘Madi’ – nofel newydd am anhwylderau bwyta : Atebol

Nofel i oedolion a phobl ifanc yw Madi gan yr awdur a’r dramodydd amryddawn, Dewi Wyn Williams. Dyma gyfrol ddirdynnol a chignoeth sy’n adrodd stori merch ifanc sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac yn cuddio’r salwch.

Gydag arlunwaith lliwgar a manwl Niki Pilkington yn addurno’r clawr ac ambell i dudalen o fewn y gyfrol, dyma stori gan awdur sy’n ysgrifennu’n onest am bwnc sy’n bersonol iawn iddo.

Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth. Sut gall Madi ddod o hyd i’r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi yn gwmni? Nid yw stori Madi’n ddarllen cyfforddus, ac er bod y nofel yn llawn hiwmor tywyll a sylwadau crafog, mae’r cynnwys yn gignoeth. Dyma nofel heriol i’n cymdeithas fodern, a’i harddull a’i themâu anghonfensiynol yn torri cwys newydd.

Dywedodd Dewi:

“Mae’r cyflwr yn cynyddu ar draws y byd, yn cael ei fwydo gan gymdeithas sydd yn edrych fwyfwy i’r drych ac mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth am y cyflwr seicolegol erchyll hwn sydd yn dinistrio unigolion a theuluoedd.”.

Bydd Madi ar gael i’w brynu ar ddiwedd mis Mawrth am £8.99 yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwyr, Atebol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Fe ddaw dyddie gwell, dwi’n addo! – Mared Powell

Dechreuodd y cwbl tua mis Mai blwyddyn 12, o ni’n anhapus gyda fy mhwysau felly fe benderfynais fod yn fwy ofalus da’r hyn o’n i’n fyta a byta’n fwy iach. Dros y misoedd nesaf dechreuais deimlo’n isel iawn a chael meddyliau tywyll, fe sylwodd Mam fod rhywbeth o’i le ac yn y diwedd bu’n rhaid i mi ddweud y gwir wrthi er mwyn mynd ati i gael help gan gwnselydd. Erbyn mis Medi o’n i ‘di colli bron i 2 stôn a’n byta llawer llai, i fod yn honest roeddwn i ‘di dechrau mynd yn gaeth i’r holl “dieto” ‘ma.

Roedd bwyd yn dechrau mynd yn dopic sensitif (odd hyn yn anodd credu gan fy mod wedi bod yn un odd yn dwli ar fwyd ers yn fach) ac yn mis Hydref fe benderfynais fynd yn ‘vegan’ gan fy mod yn meddwl y byddai’n ffordd ‘rhwydd’ o osgoi y ran helaeth o fwyd a’n cyfyngu’r bwyd allen i ddewis.

O hyn ymlaen roedd fy mhwysau‘n disgyn yn aruthrol, roedd hyd yn oed meddwl am fynd allan o’r tŷ yn ddigon i wneud i mi fynd mewn i banig llwyr a llefen y glaw, doeddwn i ddim eisiau siarad i fawr neb wyneb yn wyneb ac roeddwn i wedi blino drwy’r amser.

Erbyn mis Mai y flwyddyn wedyn roeddwn i wedi colli 3 stôn…

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gwellhad merch ifanc o anorecsia yn denu miliynau o wylwyr : BBC Cymru Fyw

Mae ffilmiau Lara Rebecca am ei brwydr i oresgyn anorecsia wedi denu miliynau o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Lara ei bod wastad wedi bod yn blentyn hapus ond pan roedd yn ei harddegau fe wnaeth hi gyfyngu ar ei deiet er mwyn delio gyda’i theimladau.

“Yr unig ffordd oedd yn bosib i mi ddeall a delio gyda’r teimladau oedd cael rhyw reolaeth wrth fwyta ond yn anffodus fe arweiniodd hynny at fy nghwymp – anorecsia.”

“Roedd e’n ofnus a nawr dwi isie neidio ‘nôl mewn amser a rhoi cwtch i fi fy hun.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Mam o Gonwy yn siarad am ei brwydr ag anorecsia : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae Hannah Chamberlain, a oedd yn brwydro gydag anorecsia ac oedd ar fin marw, wedi siarad er mwyn ceisio rhoi gobaith i eraill sy’n byw gyda’r cyflwr.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Hannah, sy’n 30 mlwydd oed, naid awyr er mwyn nodi ei hadferiad parhaus, gan godi dros £1,000 ar gyfer Beat, elusen anhwylder bwyta.

Dywedodd Hannah:

“Dros y tair blynedd diwethaf rwyf wedi treulio mwy o amser mewn unedau seiciatrig na gartref gyda fy ngŵr a fy mhlant”

Mae anorecsia wedi cael effaith ddwys ar bob agwedd o fy mywyd. Mae fy ymdrech i fod yn denau wedi bod yn beryglus, ac fe fu bron i mi golli fy mywyd sawl tro.

“Nid oeddwn yn gallu hyd yn oed mwynhau diwrnodau allan gyda fy mhlant gan fy mod yn rhy wan a blinedig, ac roedd fy nghalon a fy arennau’n wael. Roeddwn yn casau pob munud ond nid oeddwn yn gallu stopio.

Rwy’n brwydro gyda’r anhwylder ers pan oeddwn yn 14 mlwydd oed, felly os gallaf wella ar ôl 16 mlynedd ac ar ôl bod yn sâl iawn, mae gobaith i unigolion eraill hefyd.”

Darllen rhagor : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Rhannu