Bryn Fôn a PTSD : BBC Cymru Fyw

Mae Bryn Fôn yn chwarae rhan Dr Elgan Pritchard, sy’n dioddef gyda chyflwr PTSD, yn yr opera sebon Pobol y Cwm.

Mae PTSD (Anhwylder Straen Wedi Trawma) yn gyflwr sy’n cael ei gysylltu’n aml gyda chyn-filwyr a phobl sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd hynod o beryglus. Ond mae’n gallu effeithio ar bobl o wahanol gefndiroedd.

Bydd Bryn Fôn yn cyflwyno rhaglen ddogfen yn trafod PTSD a fydd yn cael ei darlledu ar S4C am 21.30 nos Fercher, 18 Ebrill.

Darllenwch gyfweliad BBC Cymru Fyw gyda Bryn Fôn yma.


Rhannu

Y straeon sy’n cyfri – Catrin Dafydd

Mae Catrin Dafydd yn ysgrifennu i gyfres Pobol y Cwm, sydd wedi portreadu nifer o straeon yn ymwneud ag iechyd meddwl dros y blynyddoedd.


Mae gan gyfres sebon fel Pobol y Cwm sawl cyfrifoldeb. Cyfrioldeb i greu adloniant sy’n tanio dychymyg gwyliwr a’i ddenu yn ôl ond cyfrifoldeb hefyd i greu straeon y mae modd uniaethu gyda nhw. Yn aml, y straeon hynny sy’n denu pobol yn eu holau beth bynnag.

Mae uniaethu’n aml yn meddwl fod y gwyliwr neu rhywun maen nhw’n ei nabod wedi profi sefyllfa debyg i’r hyn maen nhw’n ei weld ar y sgrîn. A dyma sy’n gwneud cyfrifoldeb cymdeithasol y gyfres mor eglur. Wrth ymdrin â straeon sensitif neu brofiadau dirdynnol y cymeriadau, rhaid gwneud yn siŵr fod Pobol y Cwm yn darlunio sefyllfaoedd mewn modd cyfrifol. Wedi’r cyfan, gallasai dewis y gyfres i ymdrin â stori effeithio ar wyliwr mewn sawl ffordd. Yn aml, mae’r straeon mwyaf dirdynnol yn ymdrin â iechyd corfforol, iechyd meddwl neu faterion cymdeithasol. Yn achos straeon fel hyn, mae rheidrwydd fod y gyfres yn siarad gydag arbenigwyr gan wneud popeth posibl i ddarlunio sefyllfa cymeriad mewn modd sy’n driw gyda’r modd y byddai’n effeithio ar berson go iawn.

Diolch byth, ry’n ni’n byw mewn oes lle mae ‘na gydnabyddiaeth fod gennym ni i gyd iechyd meddwl. Yr unig gwestiwn yw sut mae ein iechyd meddwl ar hyn o bryd. Braint Pobol y Cwm yw cyflwyno sawl agwedd ar bwnc iechyd meddwl gan roi cyfle i gynulleidfa Gymraeg archwilio sefyllfaoedd cignoeth a gonest trwy gyfrwng eu hiaith. Wrth gwrs, nid siaradwyr Cymraeg yn unig sy’n gwylio. Mae gan y gyfres ddilyniant cryf ymhlith gwylwyr di-Gymraeg hefyd.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Perthynas a salwch meddwl: yr hyn ‘dwi wedi ddysgu

Mae bod mewn perthynas newydd yn gyffrous, ond yn gallu bod yn gymhleth os ydych yn dioddef â salwch meddwl. Mae’n anodd gwybod os ydych am rannu eich salwch â rhywun newydd, ac os felly, pryd i wneud hynny.

Mae dechrau’r drafodaeth, dro ar ôl tro, yn fy mlino. Weithiau, dwi jyst eisiau bod yn ‘normal’. Dwi ddim eisiau bod y ferch honno, yr un â’r salwch meddwl, yr un â thrawma’n gefndir i’w bywyd. Dwi eisiau canlyn rhywun yn y ffordd ‘normal’, a phrofi’r holl bethau cyffrous sydd ynghlwm â hynny. Dwi ddim eisiau esbonio bod ‘na rhan lwyd yn fy mhen sy’n gorchymyn sut ddiwrnod y bydda i’n cael, bod yr elfen gorfforol o berthynas yn gorfod digwydd un cam ar y tro, a bod fy emosiynau’n gallu newid yn sydyn heb unrhyw reswm amlwg. Mae’n drafodaeth dwi wedi cael sawl gwaith, gyda ffrindiau newydd, partneriaid newydd, neu jyst â phobl dwi wedi bod ar gwpwl o ddêts â nhw. Mae’n drafodaeth ddiflas, ac mae’n gallu bod yn lletchwith os nad yw’r person yn ddeallus.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mwy o arian at gymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr Cymru : BBC Cymru Fyw

Mae gwasanaeth sy’n cefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi cael ei ehangu.

Bydd gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn derbyn £900,000 yn ychwanegol er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael cymorth gan therapyddion penodedig.

Cafodd 633 o bobl gymorth gan y gwasanaeth y llynedd, o’i gymharu â 191 yn 2010.

Dywedodd Tom Adamson, cyn-filwr 59 oed o Ynys Môn a gafodd yr anhwylder PTSD ar ôl gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, bod y “therapi wedi gwneud byd o les” iddo.

Ond mae therapydd seicolegol gyda’r gwasanaeth yn credu bod llawer o unigolion angen cymorth, sydd ddim eto wedi gofyn amdano.

Dywedodd Karen Hawkings: “Mae stigma o amgylch cael cefnogaeth iechyd meddwl a gall pobl fod yn ei chael hi’n anodd am ychydig flynyddoedd cyn iddyn nhw ddod ‘mlaen a chael cefnogaeth. Rydym eisiau sicrhau bod pob cyn-filwr yng Nghymru yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, a gallwn ddarparu’r cymorth y maen nhw ei angen i’w helpu i ddelio â’u problemau a symud ‘mlaen gyda’u bywydau.”


Rhannu

PTSD – Sut alla’i helpu?

25530226_10155868429300011_803410429_nGall fod yn anodd iawn i weld rhywun annwyl i chi yn profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD), neu PTSD cymhleth. Mae’r erthygl hon yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch eu cefnogi tra’ch bod chi hefyd yn edrych ar ôl eich hunan.

Gwrandewch arnynt

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu, gallwch helpu drwy:

  • rhoi amser iddynt siarad pan maen nhw’n barod – mae’n bwysig peidio â rhoi pwysau arnynt
  • caniatáu iddynt fod yn ofidus ynglŷn â beth sydd wedi digwydd
  • peidio â gwneud rhagdybiaethau ynghylch sut maen nhw’n teimlo
  • peidio â diystyru eu profiadau drwy ddweud “gallasai fod yn waeth” neu holi pam na wnaethant ddweud neu wneud rhywbeth yn wahanol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Fy mhrofiad o therapi EMDR

Blog EDMRPetaech chi wedi dweud ‘Eye Movement Desensitization and Reprocessing’ (EMDR) wrtha i ryw flwyddyn yn ôl, ni fyddai gen i unrhyw syniad am beth oeddech chi’n sôn. Ond erbyn hyn, mae’n rhan bwysig o fy mywyd.

Dwi wedi trafod hanes fy salwch, Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), ar wefan Meddwl yn y gorffennol, ac wedi crybwyll ‘mod i’n derbyn y math hwn o therapi. Dwi bellach wedi cwblhau tri mis o’r driniaeth, a dwi am drafod fy mhrofiad ohono cyn belled, er mwyn rhoi syniad i bobl eraill all fod yn ei ystyried fel triniaeth.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Diffyg diagnosis achosion PTSD ôl-eni : BBC Cymru Fyw

_99072426_e5314636-7197-46e4-80cf-1570d992482eDydy cannoedd o famau yng Nghymru sy’n dioddef o salwch meddwl ar ôl rhoi genedigaeth ddim yn cael y diagnosis cywir, medd arbenigwyr.

Mae menywod sy’n profi genedigaeth drawmatig mewn perygl o ddatblygu anhwylder PTSD, sy’n arwain at symtomau fel ôl-fflachiadau a gorbryder.

Mae’r Gymdeithas Trawma Geni yn amcangyfrif bod 1,000 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru’n datblygu PTSD wedi genedigaeth.

Ond dim ond 22 achos gafodd eu cofnodi gan ddau fwrdd iechyd y llynedd. Wnaeth eraill ddim darparu ffigyrau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan raglen BBC Wales Live. A dydy’r ffigyrau ddim yn cynnwys tadau sy’n dioddef o’r un anhwylder wrth fod yn dyst i enedigaeth drawmatig.

Yn ôl arbenigwyr, dim ond crafu’r wyneb mae’r ffigyrau, gan ddweud bod bydwragedd, meddygon teulu ac ymwelwyr iechyd yn aml yn methu ag adnabod yr anhwylder, neu’n rhoi cam ddiagnosis.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Weinstein a’r perygl o ail-drawmateiddio goroeswyr

FiHefydMae’n siŵr eich bod wedi clywed hanes yr holl honiadau o gam-drin ac aflonyddu rhywiol yn erbyn y cynhyrchydd ffilmiau, Harvey Weinstein erbyn hyn. Mae sawl menyw wedi dod ag achosion o gam-drin ac aflonyddu rhywiol yn nwylo Weinstein i’r amlwg yn ddiweddar, a hynny’n cynnwys honiadau o drais, ymosodiad rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Mewn ymateb i’r honiadau hyn, mae pobl ar draws y cyfryngau cymdeithasol wedi dechrau’r ymgyrch #MeToo, i rannu eu profiadau o’r fath ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch pa mor gyffredin ydyw.

Dwi’n falch bod cymaint o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu straeon mor bersonol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n trafod trais ac aflonyddu rhywiol yn agored, er mor anodd ydyw. Trwy hyn, gall goroeswyr o drais a cham-drin o’r fath deimlo cysur a chefnogaeth o gymuned ar lefel anferth. Efallai byddant yn cael eu hysbrydoli i rannu eu profiad nhw; boed ag un ffrind neu ei adrodd i’r heddlu. Yn amlwg, dyma yw’r gobaith wrth greu’r fath ymgyrch, a dwi’n croesawu hynny. Dylai pob un sydd wedi cael eu cam-drin yn y ffordd hwnnw deimlo eu bod yn gallu rhannu eu stori; mae hyn yn gallu bod yn rhan o’u hadferiad. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud, mae hyn yn wirioneddol amhosibl i rai.

Parhau i ddarllen

Rhannu

PTSD a fi

PTSD a fi(1)Dwi wedi bod yn dioddef ag Anhwylder Straen Wedi Trawma, neu PTSD, am wyth mlynedd bellach. Erbyn hyn, dwi’n deall fy salwch. Dwi’n deall pam fod gen i’r salwch. A dwi hyd yn oed wedi derbyn bod y salwch yn rhan o fy mywyd bellach. Ond nid yw hynny oll yn gwneud y profiad yn un llai brawychus ac unig. Fy mwriad drwy rannu fy stori felly yw herio’r syniad sydd gan bobl am y cyflwr, ac yn bennaf, cynnig gobaith i ddioddefwyr eraill.

Wrth i mi baratoi’r darn hwn, un o’r pethau y bu’n rhaid i mi ystyried oedd p’un ai i rannu’r digwyddiad trawmatig a achosodd fy salwch neu beidio. A fyddai hyn ond yn achosi mwy o straen i mi wrth ei ysgrifennu? A fyddai’r stori’n rhy anodd i bobl ei ddarllen? A oedd manylion y digwyddiad ei hun hyd yn oed yn bwysig i’w cynnwys wrth i mi drafod y cyflwr?

Mae’r hyn a ddigwyddodd i mi’n eithafol, ond yn anffodus nid yw’n anghyffredin. Penderfynais felly y byddai’n rhaid i mi rannu’r digwyddiad er mwyn rhoi darlun cyflawn o’r salwch i chi. Dyma oedd sbardun fy salwch, wedi’r cyfan.

Parhau i ddarllen

Rhannu