Mariah Carey yn trafod ei brwydr ag Anhwylder Deubegwn : BBC

Mae Mariah Carey wedi siarad, am y tro cyntaf, am ei brwydr 17 mlynedd ag anhwylder deubegwn.

Dywedodd y gantores iddi gael y diagnosis yn 2001, wedi iddi gael chwalfa feddyliodd a arweiniodd at gyfnod yn yr ysbyty.

Dywedodd Mariah Carey ei bod hi bellach yn derbyn therapi ac yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer anhwylder deubegwn, sydd wedi achosi iddi gael cyfnodau o iselder a hypomania.

Darllen rhagor : BBC (Saesneg)


Rhannu

Cerdded a Gweithio

Ben WimbushMae’r dyn yma, Ben Wimbush, yn ysbrydoliaeth i mi. Mae o yn anfon negeseuon i mi ar y cyfryngau cymdeithasol i ofyn a ydwyf wedi gwneud fy #20isplenty – ugain munud o ymarfer corff bob dydd. Ar ôl neges ddoe mi es i allan i gerdded llwybr cyhoeddus yng Ngheredigion a sylweddoli fod o’n iawn.

Roedd ugain munud yn ddigon i wneud i mi deimlo’n well. Felly dyma fi yn cyfieithu #20isplenty i #20ynddigon a deud wrth Ben faswn yn ceisio ysgogi fy nghyd Gymry i ddilyn y mantra.

Gyda gwaith a chyfrifoldebau a bwyta a siopa mae’n hawdd anghofio fod ymarfer corff ym mha bynnag ffordd yn gallu fod yn iachus iawn i’r enaid ac i’r meddwl. Dwi ddim yn or-hoff o bethau ffurfiol felly cerdded yw fy newis i o ymarfer corff. Ble bynnag allai mi gerdda’i.

Nid oes gan Ben y dewis yna, felly ar ei beiriant ymarfer corff aiff o bob dydd ac ar ei wefannau mae o yn dangos ac ysgogi pobol eraill ac yn deud “os allai wneud o allwch chi”.

Mae mor hawdd mewn pwl o iselder i wneud dim. Dim dewis ydy iselder ond mae o yn ddewis i frwydro fo neu beidio yn fy mhrofiad i. Mi allwn i gymryd y tabledi a thynnu yn ôl o fywyd, eistedd ar y soffa a gadael i’r meddyliau pyli. Mae ‘na le i hwnna ond hefyd mae ‘na le i gerdded ac i seiclo ac i yoga.

Parhau i ddarllen

Rhannu